Dyddiad cau: Gweler hysbysebion unigol

Gwybodaeth Allweddol

Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi’i chydnabod yn genedlaethol ac yn fyd-eang fel canolfan ragoriaeth sy’n darparu amgylchedd addysgu arloesol a chynhwysol sy’n creu dysgwyr gydol oes wedi’u paratoi ar gyfer yr economi fyd-eang. 

Trwy ganolfannau ymchwil o safon fyd-eang a buddsoddi’n barhaus yn ein hadnoddau a’n cyfleusterau neilltuol, rydym yn darparu amgylchedd rhagorol i astudio neu gynnal ymchwil. Dyma rai o'n huchafbwyntiau ymchwil.

Mae'r ysgoloriaethau canlynol ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau:

  • Ysgoloriaethau PhD mewn Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
  • Ysgoloriaethau PhD yn y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
  • Ysgoloriaethau PhD ac EngD mewn Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
  • Ysgoloriaethau PhD mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg

Nodwch gôd y prosiect (e.e. RS288 - PhD Sports Sci) am ymholiadau ac i gyflwyno cais.

Cymhwyster

Gweler yr hysbysebion unigol am ragor o wybodaeth am gymhwysedd. 

Sylwer: Os ydych chi’n ddeiliad gradd na chafodd ei dyfarnu yn y Deyrnas Unedig, gweler cymariaethau gradd Prifysgol Abertawe i weld a ydych chi’n bodloni’r meini prawf.  

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt. 

Cyllid

Gweler hysbysebion unigol am ragor o wybodaeth am gyllid.

Sut i wneud cais

Er mwyn cyflwyno cais, ewch i dudalen hysbyseb yr ysgoloriaeth unigol.

Nodwch gôd y prosiect (e.e. RS288 - PhD Sports Sci) am ymholiadau ac i gyflwyno cais.