Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: Ysgoloriaeth PhD a ariennir yn llawn ar lwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (RS899)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Y meysydd pwnc: Llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru ar agor o ganol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â goruchwyliwr posibl cyn cyflwyno eu cais er mwyn sicrhau bod capasiti goruchwylio priodol gan y Brifysgol ac i drafod drafft o'u cais. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan YGGCC yr ESRC. Efallai y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr John William Devine, j.w.devine@abertawe.ac.uk yn medru eich cynghori.
Rhaglen astudio gydnaws: PhD Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae ymchwil ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei chynnal gan dri grŵp ymchwil cysylltiedig. Bydd y grwpiau hyn yn rhoi syniad am y math o ymchwil a gynhelir yn Abertawe, ac felly efallai y byddan nhw'n eich helpu i ddatblygu cynnig ymchwil ym maes economeg a/neu'r gwyddorau cymdeithasol.
1) Chwaraeon elît a phroffesiynol: Mae ein hymchwil wedi cael effaith ar bolisi, ymarfer a pherfformiad gwell drwy'r llwybr elît ar y lefel uchaf. Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau chwaraeon elît a phroffesiynol ar amrywiaeth eang o ymyriadau sydd wedi'u llywio gan ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar gyflyru o flaen llaw ac adfer, rhianta, biomecaneg, maeth, tagu dan bwysau, geneteg, a nifer o bynciau eraill sydd i gyd yn chwarae rôl bwysig wrth gyflawni lefelau uchel o berfformiad.
2) Ymarfer, Meddygaeth ac Iechyd: Mae'r grŵp ymchwil Ymarfer, Meddygaeth ac Iechyd (EMH) yn ymdrechu i fynd i'r afael â phrif heriau iechyd yr unfed ganrif ar hugain, gan wella bywydau pobl drwy wyddor ymarfer corff. Mae ein grŵp yn enwog am ei waith ym maes ffisioleg ymarfer corff, gweithgarwch corfforol ac iechyd, drwy gydol oes ac ar draws cyflyrau iechyd amrywiol. Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar boblogaethau cynenedigol, paediatrig, oedolion hŷn a phoblogaethau clinigol, gan gynnwys pobl sydd â diabetes math 1 a math 2, clefyd yr arennau, ffeibrosis systig ac asthma. Gan gydweithio'n agos â myfyrwyr ymchwil, partneriaid, byrddau iechyd ac elusennau, mae ein hymchwil wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau iechyd cyhoeddus ac arferion clinigol cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym ar flaen y gad o ran rhoi ymagweddau technolegol newydd tuag at hybu iechyd a gofal clinigol ar waith, gan gynnwys dadansoddi data uwch a dulliau gwyddor data. Yn gryno, mae ein gwaith yn ymdrechu i drawsnewid ymddygiad iechyd a chanlyniadau ar draws yr amrediad oedran, yr amrediad daearyddol a'r amrediad cymdeithasol-economaidd er mwyn creu poblogaeth iachach.
3) Roedd twf y grŵp ymchwil Moeseg, Uniondeb a Llywodraethu Chwaraeon yn seiliedig ar dderbyn 3 miliwn ewro gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2016 i lansio'r radd MA gyntaf yn y byd ym maes moeseg ac uniondeb chwaraeon. Rydym yn cynnal ysgolheictod ac ymchwil lefel uchel i broblemau cysyniadol a moesegol mewn arferion a sefydliadau chwaraeon. Mae ein gwaith yn amrywio o archwiliadau athronyddol i natur chwaraeon a phroblemau moesegol, i waith amlddisgyblaethol cymhwysol ar bolisïau ac arferion megis atal dopio, hawliau athletwyr, twyllo gemau, rheolau cymhwysedd o ran rhywedd, polisïau technoleg, a phroblemau ar groestoriad chwaraeon, peirianneg a meddygaeth. Mae enghreifftiau o gyngor, ymchwil ac ymgynghoriaeth moesegol, uniondeb a llywodraethu mewn cydweithrediad â sefydliadau chwaraeon allweddol, ac ar eu cyfer, yn cynnwys British Gymnastics, European Athletes Association, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, International Ice Hockey Federation, Chwaraeon Cymru, UK Anti Doping, UK Sport, yr Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon; a World Athletics.
Cymhwyster
Er mwyn derbyn cyllid gan ysgoloriaeth ymchwil YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd dosbarth cyntaf neu radd anrhydedd ail ddosbarth uwch, neu radd meistr o sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr nad ydynt â chefndiroedd academaidd traddodiadol gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng cyfradd ffïoedd y DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd yr UKRI.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu am ffïoedd dysgu ac ariantal byw di-dreth blynyddol yn unol â chyfraddau UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2-25/26) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn ogystal â'ch ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Sut i Wneud Cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil perthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS899
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- gôd yr ysgoloriaeth ymchwil, RS899 a
- theitl yr ysgoloriaeth
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, bydd y system yn arddangos rhybudd "Cais wedi'i gyflwyno" ac yn atal cais newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch eich rhif myfyriwr a'r côd ysgoloriaeth ymchwil perthnasol at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan ofyn iddynt newid y dyddiad dechrau i fod yr un peth â’r hysbyseb.
- Bydd staff y tîm derbyn myfyrwyr wedyn yn diweddaru eich cais yn unol â hynny.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy E-bost):
- WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Asesiad:
Bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Hyd y cyfnod astudio:
Mae hyd y cyfnod astudio yn amrywio o 3.5 blynedd i 4.5 blynedd amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfwerth).
Mae hyd y cyfnod astudio yn ddibynnol ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddiant y myfyriwr, a fydd yn cael eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan yr YGGCC i gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer am gyfanswm o 3 mis (neu'r cyfnod rhan-amser cyfwerth). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau'r gymuned fyd-eang, ni waeth beth fo'u hoed, os oes ganddynt anabledd, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, eu statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd/mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadaeth rhywiol.
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.