Hanes: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi'i hariannu'n llawn Addysg gynnar, addysg, addysg: gofal plant ym mholisi a dychymyg Lloegr Llafur Newydd, 1994-2003 (RS852)
Dyddiad cau: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi'i hariannu'n llawn
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: Yr Archifau Gwladol
Y meysydd pwnc: Hanes
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025
Goruchwylwyr: Dr Sarah Crook a Dr Jessamy Carlson
Rhaglen astudio gydnaws: Hanes PhD
Dull Astudio: Amser llawn neu Ran-amser
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe a'r Archifau Gwladol gyhoeddi y bydd ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol gydweithredol a ariennir yn llawn ar gael o fis Hydref 2025 dan Gynllun Partneriaethau Doethurol Cydweithredol yr AHRC.
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn archwilio polisïau ac ymarfer gofal plant fel yr oedd Llafur Newydd yn eu dychmygu rhwng 1994 a'r 2000au cynnar. Bydd y myfyriwr yn defnyddio deunydd a agorwyd yn ddiweddar ac a gedwir gan yr Archifau Gwladol i archwilio gwleidyddiaeth gofal plant, ac i ystyried y ffyrdd yr oedd yn croestorri â diddordeb y llywodraeth mewn tlodi, y teulu, gwaith, a symudedd cymdeithasol, ac yn cael ei llywio gan y rhain, yn ystod y cyfnod hwn o hanes Prydeinig cyfoes. Bydd y prosiect hwn yn apelio'n benodol at fyfyrwyr sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth yr 1990au hwyr a'r 2000au cynnar, a myfyrwyr sydd â diddordeb yn hanes cymdeithasol rhywedd a'r teulu yn ystod y cyfnod. Bydd y myfyriwr yn cael cymorth i ymgymryd â chyfweliadau hanes gwreiddiol ar lafar gyda llunwyr polisi a gweithwyr gofal plant proffesiynol, ochr yn ochr ag ymchwil archifol, a bydd yn derbyn hyfforddiant i ddatblygu'r sgiliau hyn.
Caiff y prosiect ei oruchwylio ar y cyd gan Dr Sarah Crook a Dr Jessamy Carlson. Disgwylir i'r myfyriwr ymwneud ag amgylchedd ymchwil Prifysgol Abertawe a'r Archifau Gwladol, er nad oes gofyniad i fyw’n agos at Brifysgol Abertawe. Anogir y myfyriwr i ymgymryd â hyfforddiant ar fethodolegau hanes llafar, yn ogystal ag ymgymryd â hyfforddiant ar ymagweddau eraill fel y bo'n briodol. Bydd y myfyriwr hefyd yn derbyn cymorth er mwyn cyflwyno ei waith mewn cynadleddau a seminarau perthnasol.
Gellir ymgymryd â'r prosiect ymchwil naill ai'n amser llawn neu'n rhan amser.
Cynhelir mwyafrif yr ymchwil archifol gynnar yn yr Archifau Gwladol yn Kew. Bydd y tîm goruchwylio yn hapus i gynnal cyfarfodydd ar-lein wrth i'r myfyriwr wneud cynnydd, felly nid yw'n ddisgwyliedig i'r myfyriwr breswylio'n agos i Brifysgol Abertawe er mwyn ymgymryd â’r ysgoloriaeth ymchwil hon.
Bydd y myfyriwr yn dod yn rhan o grŵp ehangach o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig sy’n cael eu hariannu gan y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol, gyda mynediad at ddigwyddiadau a hyfforddiant a gyflwynir mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae gan ofal plant o safon, sy'n ddibynadwy ac yn fforddiadwy fanteision sylweddol i rieni a phlant. Ond os byddwch yn gofyn i rieni sy'n gweithio am eu profiadau o ddod o hyd i feithrinfa, byddan nhw'n sôn am restrau aros, ansefydlogrwydd a chostau afresymol. Nid yw'n syndod felly - wrth ystyried ei gysylltiadau â gwaith rhieni a chanlyniadau plant - fod gofal plant yn broblem frys ym Mhrydain gyfoes. Ond nid yw'r mater hwn yn un newydd. Fel y mae'r prosiect hwn yn ei archwilio, ceisiodd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU fynd i'r afael â mater gofal plant. Roedd y llywodraeth yn ystyried bod darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn allweddol wrth fynd i'r afael ag amddifadedd ac anfantais, ac o ganlyniad dyma oedd ei pholisi cymdeithasol mwyaf uchelgeisiol erioed.
Wrth ystyried y diddordeb mawr hwn mewn plant a'r gofal roeddent yn ei dderbyn adeg y mileniwm, pam mae darpariaeth gofal plant wedi bod yn broblem mor barhaus? Mae'n amserol i edrych yn ôl ar adegau eraill o argyfwng a phosibilrwydd, ac ymchwilio i gyd-destun cymdeithasol a hanes gofal ar gyfer aelodau ifancaf y gymdeithas. O ganlyniad, mae'r prosiect hwn yn asesu'r dychymyg a'r polisi o ran gofal y blynyddoedd cynnar ar ddechrau prosiect Llafur Newydd.
Mae tri nod gan y prosiect:
- Asesu polisïau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn nychymyg ac agenda wleidyddol Llafur Newydd yn feirniadol;
- Deall sut roedd gofal y blynyddoedd cynnar yn rhyngweithio â blaenoriaethau gwleidyddol eraill ac â thrafodaethau croestoriadol ynghylch rhywedd, gwaith, hil, y teulu, symudedd ac amddifadedd, ac ystyried sut y gwnaeth y ffactorau hyn lunio'r ddarpariaeth;
- Cyfrannu at hanesion cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod hwn drwy ddefnyddio plant a'u gofal fel y prif lens ddadansoddol.
Mae’r cwestiynau ymchwil yn cynnwys:
- Pa rôl a oedd gan ofal plant yn natblygiad agenda Llafur Newydd, 1994-2003?
- Sut roedd gofal y blynyddoedd cynnar yn rhyngweithio â blaenoriaethau gwleidyddol cydffiniol a chystadleuol, a beth oedd effaith y rhyngweithiadau hyn i ddarparwyr?
- Sut caiff syniadau confensiynol am hanes polisi ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif eu herio os ydyn ni'n rhoi’r ffocws ar blant a'u gofal?
Cymhwyster
Mae'n rhaid i'r rhai hynny sy'n ymgeisio am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2:1, ynghyd â gradd Meistr. Fel arall, caiff ymgeiswyr sy'n meddu ar radd anrhydedd dosbarth cyntaf o'r DU (neu gymhwyster cyfwerth o'r tu allan i'r DU, fel y’i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) ond nad ydynt yn meddu ar radd meistr, eu hystyried ar sail unigol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi Mynediad Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Manyleb Person
- Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel Meistr perthnasol neu ddisgwyl ei dderbyn, neu dylent fedru arddangos profiad cyfwerth mewn lleoliad sy’n cynnwys gwybodaeth am bynciau perthnasol a myfyrio'n feirniadol arnynt, megis hanesion y canlynol ym Mhrydain fodern: addysg, plant, magu plant, polisi. Mae disgyblaethau addas yn hyblyg ond gallant gynnwys Hanes, Cymdeithaseg, a Gwleidyddiaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fedru arddangos diddordeb yn y sector archifau a photensial a brwdfrydedd i ddatblygu sgiliau ehangach mewn meysydd cysylltiedig.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i dreulio amser yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a'r Archifau Gwladol, wyneb yn wyneb ac ar-lein
Addasiadau rhesymol a chymorth i ymgeiswyr
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth arnoch drwy gydol y broses ymgeisio, e-bostiwch s.r.e.crook@abertawe.ac.uk neu research@nationalarchives.gov.uk
Gall cymorth neu addasiadau gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain):
- Cyfle i siarad â goruchwylwyr am y prosiect a'r broses.
- Cyfle i siarad â chysylltiadau ym Mhrifysgol Abertawe a/neu'r Archifau Gwladol ynghylch systemau cymorth sefydliadol (e.e. Niwroamrywiaeth, Amrywiaeth ar sail Hil a rhwydweithiau LHDTRhAC+, cymorth iechyd meddwl, cymorth i ofalwyr, a mwy).
- Mynediad at gwestiynau cyfweliad a gwybodaeth am y broses gyfweld.
- Cyfle i siarad â myfyrwyr presennol y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol er mwyn gofyn cwestiynau ynghylch profiad myfyrwyr fel rhan o gynllun y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Archifau Gwladol yn rhan o'r Gwasanaeth Sifil. Mae'r Gwasanaeth Sifil yn ymrwymedig i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent ble bynnag y caiff ei ddarganfod. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil (mae'n agor mewn ffenestr newydd) a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil (mae'n agor mewn ffenestr newydd).
Cyllid
Cyllid
Mae grantiau hyfforddiant doethurol y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yn cyllido ysgoloriaethau ymchwil amser llawn am 48 mis (4 blynedd), neu am gyfnod rhan-amser cyfwerth.
Mae'r dyfarniad yn talu am ffïoedd dysgu hyd at werth cyfradd graddau PhD amser-llawn yn y DU Ymchwil ac Arloesi y DU. Lefel Ffi Ddangosol UKRI ar gyfer 2025/26 yw £5,005.
Mae'r dyfarniad hefyd yn talu ariantal ar gyfer costau byw, a fydd yn cael ei dalu mewn rhandaliadau rheolaidd. Bydd yr ariantal hwn gwerth o leiaf £20,780 y flwyddyn. Mae myfyrwyr y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol hefyd yn derbyn taliad cynhaliaeth ychwanegol o £600 y flwyddyn. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan UKRI.
Bydd y myfyriwr hefyd yn gymwys i hawlio hyd at £4,000 o dreuliau sy'n berthnasol i'r ymchwil gan Yr Archifau Gwladol.
Hyfforddiant
Drwy gydol eu PhD, bydd gan fyfyrwyr y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol fynediad at gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad, sy'n cael eu cefnogi a'u hwyluso gan Gonsortiwm y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol, Prifysgol Abertawe a'r Archifau Gwladol. Disgwylir i fyfyrwyr y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol ymgymryd â lleoliad gwaith neu gyfle i ddatblygu am gyfnod rhwng 1 a 3 mis (neu gyfnod rhan-amser cyfwerth).
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS852
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- côd yr ysgoloriaeth ymchwil RS852
- deitl yr ysgoloriaeth
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
- Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r rôl yn cyd-fynd yn benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut y byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â s.r.e.crook@abertawe.ac.uk
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.