Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y Llwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal  

Dyddiadau dechrau'r prosiect1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Kris Stoddart, k.d.stoddart@abertawe.ac.uk yn gallu eich cynghori. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal

Disgrifiad Prosiect: 

Mae’r llwybr Astudiaethau Ardal /Gwleidyddiaeth/Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae'n cyd-fynd â'n rhaglen PhD mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ymagweddau ffocws pynciol ac ymchwil.

Mae hyd a lled ein harbenigeddau yn cynnwys (i) cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau ardal a datblygiad rhyngwladol; (ii) gwleidyddiaeth gymharol, gan gynnwys gwleidyddiaeth is-genedlaethol ac astudio hunaniaeth wleidyddol; (iii) cyfathrebu gwleidyddol, gyda ffocws penodol ar wleidyddiaeth ddigidol; ac (iv) athroniaeth wleidyddol a chymdeithasol. Mae ein gwaith ymchwil yn croesi ffiniau gydag astudiaethau datblygu, y cyfryngau a chyfathrebu ac athroniaeth. Rydym yn   ddeallusol blwraliaethol, yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol ac mae ein sylw daearyddol yn cynnwys Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America. Rydym yn gosod pwyslais sylweddol ar gysylltu gwaith ysgolheigaidd ag effaith yn y byd go iawn ac yn ceisio lledaenu ein canfyddiadau a chyd-greu newid gyda phartneriaid yn Llywodraeth a Senedd Cymru a'r DU, yn eirioli dros bolisi byd-eang gan gynnwys Consortiwm y Polisi Cyffuriau Rhyngwladol, ac amrywiaeth o weithredwyr o gymdeithas sifil leol a rhyngwladol.  

Mae'r Adran yn gartref i bedwar grŵp ymchwil sy'n dod ag aelodau staff a myfyrwyr PhD ynghyd i gyfnewid ymchwil sy'n mynd rhagddi, trafod cyhoeddiadau sy'n torri tir newydd ac archwilio cyfleoedd cyllido a chydweithio. Y grwpiau ymchwil hyn yw: Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang, y Grŵp Ymchwil Dadansoddi Gwleidyddol a Llywodraethu, y Grŵp Ymchwil Athroniaeth, a'r Grŵp Ymchwil Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch. Rydym hefyd yn cydweithio â Sefydliadau Ymchwil ar lefel y Gyfadran sy'n canolbwyntio ar Heriau Geo-wleidyddol, Diogelwch a Gwydnwch, Polisi Cyhoeddus, yr Economi Ddigidol a Chymdeithas a Gweithredu ar yr Hinsawdd.   Rydym yn croesawu cynigion gan ysgolheigion sy'n dymuno datblygu gwybodaeth ac yn gwahodd ceisiadau sy'n ysgogi newid ar draws y meysydd ymchwil hyn.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan   YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe 

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships @abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd). Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS895 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  

  • y Côd RS895 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth   

2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 

3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 

4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 

5. Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am restru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth uchod eu hystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  • Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  • E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  • Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Hyd astudio:

Mae hyd y cyfnod astudio'n amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfatebol).      

Mae hyd y cyfnod astudio'n dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr, a gaiff eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer: Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis (neu’r cyfnod rhan-amser cyfatebol). 
Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, ym meysydd polisi, busnes neu mewn sefydliadau cymdeithas sifil.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.