Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: Ysgoloriaethau Ymchwil Partneriaethau Strategol Prifysgol Abertawe (Deyrnas Unedig) (SUSPRS) gyda Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI)

Maes pwnc/pynciau: Cardioleg Foleciwlaidd a Cellog / Methiant y Galon / Bioleg Systemau / Therapiwteg Newydd

Dyddiad dechrau'r prosiect

  • 1 Ionawr 2025
  • 1 Ebrill 2025
  • 1 Gorffennaf 2025

Goruchwylwyr: Mae hon yn rhaglen PhD ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: Meddygaeth Gardiofasgwlaidd a Metabolig, Ph.D.

Dull Astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect:

Rydym yn chwilio am fyfyriwr dawnus sy'n llawn cymhelliant i ymuno â phrosiect newydd cyffrous sy'n defnyddio ymagwedd unigryw at fynd i'r afael â methiant y galon. Mae methiant y galon yn syndrom cymhleth sy'n arwain at bwmpio gwaed yn annigonol o gwmpas y corff ac mae'n lleihau hyd ac ansawdd bywydau dros 65 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae gan y cyflwr gyfradd marwolaethau o 50% yn y pum mlynedd cyntaf ac mae'n gosod baich enfawr ar systemau gofal iechyd (amcangyfrifir cost o £280 biliwn o bunnoedd yn fyd-eang a rhagwelir y bydd hon yn codi i £600 biliwn o bunnoedd erbyn 2030 oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio). Mae angen dybryd am atebion arloesol i fynd i'r afael â'r heriau presennol i reoli methiant y galon. Byddwch yn ymuno â thîm sy'n archwilio'r cysyniad newydd bod gan y galon ddynol gof cynhenid o drefniant ei chelloedd, sy'n benderfynyn allweddol i adfer gweithrediad yn sgîl methiant y galon.

Nodau: Mae gweithrediad arferol y galon yn dibynnu ar gydamseriad cymhleth biliynau o gelloedd sydd wedi'u trefnu mewn strwythurau gofodol cymhleth. Mae dad-gydamseru cynyddol o'r rhwydweithiau cellog hyn yn gyrru'r datblygiad o weithrediad arferol i glefyd methiant y galon. Gan ddefnyddio technegau proffilio dwfn o drefniadau cellog cyn (gweithrediad arferol), yn ystod (cynnydd y clefyd) ac ar ôl (adfer) y newid yng ngweithrediad sy'n gysylltiedig â methiant y galon, byddwch yn ymchwilio i'r rhagdybiaeth bod hyd a lled adfer y gweithrediad yn sgîl clefyd y galon yn dibynnu ar faint mae'r rhwydwaith cellog wedi cael ei ailstrwythuro i gyflwr cyn-clefyd o'r cof.

Goruchwylwyr a chyfleusterau: Bydd y prosiect yn cael ei oruchwylio gan yr Athro Christopher George (Prifysgol Abertawe) a'r Athro John Cooke (Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI)).Disgwylir i chi dreulio hyd at flwyddyn yn Sefydliad HMRI sy'n gysylltiedig â Chanolfan Feddygol Texas, sef cyfleuster meddygol mwyaf y byd. Byddwch yn gweithio mewn labordai sydd wedi'u cyflenwi ag offer o'r radd flaenaf ar gyfer cynnal ymchwil wyddonol wrth ryngwyneb bioleg arbrofol a chyfrifiadol. Byddwch yn dysgu sgiliau ar gyfer nodweddu adfer o glefyd y galon mewn modelau arbrofol cyn-glinigol newydd, datblygu fframweithiau cyfrifiadol newydd ar gyfer proffilio strwythur celloedd a defnyddio pŵer Deallusrwydd Artiffisial i ddelweddu trefniant rhwydweithiau amlgellog mewn cyflyrau 'arferol', 'methu' ac 'adfer' y galon.

Os hoffech chi ymuno â phrosiect sy'n mynd y tu hwnt i gyfyngiadau confensiynol bioleg arbrofol ac a fydd yn ailddiffinio ein gwybodaeth am systemau amlgellog mewn calonnau dynol arferol, rhai sy'n dioddef o glefyd a rhai sy'n adfer, yna anfonwch eich cais atom. Byddem wrth ein boddau i glywed gennych!

Cymhwyster

Cyllid

Ffïoedd Dysgu: Ydy'r cyllid yn cynnwys y ffïoedd dysgu?

  • Myfyrwyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU: Llawn
  • Myfyrwyr Rhyngwladol: Llawn

Ariantal: A yw'r cyllid yn cynnig ariantal?

Gwerth yr ariantal pan fyddwch yn Abertawe 2024/25 £19,237, wedi'i adolygu'n flynyddol yn unol â chyfraddau UKRI

Oes cyllid ar gyfer costau eraill: (e.e. cynadleddau, gwaith maes)?

Gwerth: Lwfans teithio/hyfforddi o £1,500 dros gyfnod yr ysgoloriaeth ymchwil gydag uchafswm y gellir ei wario o £500 mewn blwyddyn ariannol.

Sut i wneud cais