Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC YR ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Llwybr Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC 

Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Efallai gall cynrychiolwyr Abertawe ar gyfer y llwybr, Dr Christala Sophocleous, c.sophocleous@abertawe.ac.uk a Tracey Maegusuklu-Hewett, T.Maegusuku-Hewett@abertawe.ac.uk eich cynghori chi. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol 

Disgrifiad o'r prosiect: 
Mae Polisi Cymdeithasol yn rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Mae'r Adran hefyd yn gartref i'r Ganolfan Newid Cymdeithasol, sy'n cynnal seminarau rheolaidd gan academyddion o Abertawe, cydweithredwyr ac academyddion eraill ledled y byd. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol (Cymru) yr ESRC, sy'n hwyluso mynediad at ddata gweinyddol dienw cysylltiedig mewn amgylchedd diogel.  

Mae Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae'n gartref i fenter arobryn DEEP, sy'n ymroddedig i ddyfeisio ffurfiau newydd o gasglu tystiolaeth drwy gyfranogiad, mewn ffyrdd sy'n addas ar gyfer llywio polisi.   

Mae diddordeb gan y timau Polisi Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol mewn goruchwylio gwaith PhD ar draws meysydd y pynciau.  Mae'r meysydd penodol o arbenigedd ymchwil yn cynnwys:  

  • anghydraddoldebau a chyfiawnder cymdeithasol 
  • tlodi 
  • gwleidyddiaeth lles cymdeithasol 
  • cysylltiadau rhwng y wladwriaeth a chymdeithas sifil 
  • eiriolaeth 
  • heneiddio 
  • astudiaethau anableddau 
  • datganoli 
  • materion moesegol mewn polisi cymdeithasol 
  • plant a hawliau plant  
  • y teulu 
  • cymunedau a gofal cymdeithasol 
  • rolau polisi cymdeithasol y trydydd sector 
  • cyd-greu  
  • canlyniadau gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd 
  • hawliau grwpiau sydd wedi'u heithrio (e.e. ceiswyr lloches, teuluoedd Roma a theithwyr)  
  • arferion cynhwysol ym maes ymchwil gofal cymdeithasol 
  • profiadau o'r system gofal 
  • profiadau o bobl sy'n gadael gofal 
  • rhywioldeb a gofal cymdeithasol 
  • diogelu ac amddiffyn plant 
  • pobl hŷn 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil YGGCC gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gwelerGofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe 

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.     

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £20,780) ar hyn o bryd. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon:

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS896 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch naill ai'r:  
  • Côd YY,  RS896 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, bydd y system yn dangos rhybudd "Cais wedi'i Gyflwyno" ac yn atal cyflwyno cais newydd. Yn yr achos hwn: 

  1. Cyflwynwch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e. dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  2. E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth perthnasol, gan ofyn i ddyddiad dechrau gael ei addasu i gyd-fynd â'r hysbyseb.  
  3. Yna bydd y staff derbyn myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hynny. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • WGSSS_Studentship_Application_Form_2026.pdf 
  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:   
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel 

Hyd astudio:   
Mae hyd yr astudiaethau yn amrywio o rhwng 3.5 o flynyddoedd i 4.5 o flynyddoedd amser llawn (neu gyfnod rhan-amser cyfwerth). 

Mae hyd yr astudiaethau yn ddibynnol ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para am 3 mis (neu ran-amser cyfwerth).Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.   

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses ddewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.  

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.