Dyddiad cau: 24 Chwefror 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ysgoloriaeth ymchwil PhD mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol wedi'i hariannu'n llawn
Mae'r swydd hon ar gyfer myfyriwr PhD uchelgeisiol sy'n awyddus i ddatblygu ei ymchwil a'i brofiad niwroddelweddu ymhellach dan oruchwyliaeth yr Athro Kathrin Weidacker ym Mhrifysgol Abertawe, Yr Ysgol Seicoleg.
Mae'r swydd yn ddelfrydol i raddedigion â gradd MSc Seicoleg neu Niwrowyddoniaeth. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig iawn gyda chefndir academaidd cryf (neu brofiad gwaith) mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth, gwyddoniaeth wybyddol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig, a diddordeb brwd mewn niwrowyddoniaeth wybyddol.
Mae'r prosiect PhD hwn yn cynnig cyfle i weithio ar ymchwil arloesol sy'n defnyddio dulliau niwrowyddoniaeth o'r radd flaenaf (e.e. MRS, fMRI, EEG) ac ymchwil i ymddygiad i wella asesiadau newydd o fyrbwylltra mewn iechyd yn ogystal ag anhwylderau clinigol.
Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr brofiad uniongyrchol o ymchwil a dadansoddi niwroddelweddu dynol gan ddefnyddio o leiaf un o'r dulliau hyn:
- Electroenceffalograffi (EEG)
- Delweddu atseiniol magnetig (fMRI) neu ddelweddu strwythurol (MRI)
- Spectrosgopeg atseiniol magnetig (MRS)
Profiad o raglennu ieithoedd (e.e. MATLAB/Python/R/Presentation) a byddai sgiliau ystadegol cryf hefyd o fantais. Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn frwdfrydig dros y pwnc byrbwylltra, a bod â thystiolaeth amlwg , o’r gallu i feithrin arbenigedd pellach mewn technegau niwroddelweddu.
Dyddiad dechrau'r prosiect: Hydref 2025
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Seicoleg
Goruchwylwyr:
Prif Oruchwyliwr: Yr Athro Kathrin Weidacker
Goruchwylwyr Eraill: Yr Athro Stephen Johnston, Yr Athro Claire Hanley
Am ymholiadau anffurfiol o ran y swydd hon cysylltwch â'r Athro Kathrin Weidacker, k.s.weidacker@abertawe.ac.uk
Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.
Cymhwyster
Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.
Cyllid
Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.
Sut i wneud cais
Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.