Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Y meysydd pwnc: Ysgoloriaeth Ymchwil YGGCC yr ESRC ar y Llwybr Seicoleg  

Dyddiadau dechrau'r prosiect1 Hydref 2026 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

Goruchwylwyr: Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC. Cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe yw Dr Hayley Young, h.a.young@abertawe.ac.uk ac fe all eich cynghori chi. 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Seicoleg 

Disgrifiad o'r Prosiect: 

Mae'r llwybr rhyngddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar agweddau gwyddor cymdeithasol ar seicoleg (cymdeithasol, gwybyddol, datblygiadol, amgylcheddol, iechyd, clinigol a fforensig) a deall materion o bwys cymdeithasol/blaenoriaethau'r ESRC megis newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, a gwella iechyd a lles.  Mae gan Abertawe gryfderau penodol mewn seicoleg fforensig ac iechyd, maeth ac archwaeth, caethiwed ymddygiadol, a lles cynaliadwy. Hefyd, mae gennym nifer o bartneriaethau strategol â'r Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, elusennau lleol, y diwydiant bwyd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi ac eraill, ac mae llawer o fyfyrwyr yn elwa o'r cyfleoedd hyn i gynnal ymchwil ag effaith a buddion tymor hir. 

Mae Abertawe yn gartref i gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog, amrywiol a chynhwysol sy'n elwa o gynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol sy'n cynnwys y Gyfadran gyfan, gŵyl ymchwil ôl-raddedig, labordai seicoleg o'r radd flaenaf sydd wedi cael eu gweddnewid yn ddiweddar ac Academi Ymchwil Ôl-raddedig sy'n cynnig cymorth beirniadol a chyfleoedd hyfforddiant. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr  YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe  

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd.) Bydd gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

Sut i Wneud Cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, drwy ddilyn y ddolen hon.

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS896 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

1. Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:  

  • y Côd, RS896 a 
  • theitl yr ysgoloriaeth   

2. Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 

3. Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 

4. Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 

5. Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais " ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn: 

  • E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb. 
  • Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael). 
  • Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Asesu:   

Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Hyd astudio:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd yn llawn amser (neu gyfwerth ar sail ran-amser). 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaeth amser llawn a rhan-amser. 

Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:   
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.    

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.