Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC ar y llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (RS713)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth Allweddol
Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC
Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)
Goruchwylwyr:
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr gysylltu â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais, er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol ar gael yn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC.
Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Andrew Bloodworth, yn gallu eich cynghori.
Arweinydd y Llwybr: Dr John William Devine
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dull Astudio: Mae modd astudio’n amser llawn neu'n rhan-amser.
Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil ran-amser yr ESRC fod mewn swydd amser llawn.
Disgrifiad o'r prosiect: Mae tri grŵp ymchwil cysylltiedig yn cynnal ymchwil ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe. Bydd y grwpiau hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r math o ymchwil a gynhelir yn Abertawe, ac yn eich helpu o bosib i ddatblygu cynnig ymchwil ym maes economeg a/neu'r gwyddorau cymdeithasol.
1) Chwaraeon Elît a Phroffesiynol: Mae ein hymchwil wedi effeithio ar bolisi ac ymarfer a gwella perfformiad drwy'r llwybr elît ar y lefel uchaf. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau chwaraeon elît a phroffesiynol ar amrywiaeth eang o ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil, gan ganolbwyntio ar gyflyru ymlaen llaw ac adfer, magu plant, biomecaneg, maeth, gwegian dan bwysau, geneteg, a nifer o bynciau eraill sy'n gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni lefelau uchel o berfformiad.
2) Ymarfer Corff, Meddygaeth ac Iechyd: Mae'r grŵp ymchwil Ymarfer Corff, Meddygaeth ac Iechyd yn ymdrechu i fynd i'r afael â heriau iechyd mawr yr 21ain ganrif, gan wella bywydau pobl drwy wyddor ymarfer corff. Mae ein grŵp yn adnabyddus am ei waith mewn ffisioleg ymarfer corff, gweithgarwch corfforol ac iechyd gydol oes, ynghyd â chyflyrau iechyd. Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar boblogaethau cynenedigol, pediatrig, oedolion hŷn a chleifion, gan gynnwys diabetes Math I a Math II, clefyd arennol, ffeibrosis systig ac asthma. Gan weithio mewn cydweithrediad agos â myfyrwyr ymchwil, partneriaid, byrddau iechyd ac elusennau, mae ein hymchwil wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau iechyd cyhoeddus ac arferion clinigol rhyngwladol. Rydym yn arwain y ffordd wrth roi ymagweddau technolegol newydd at hybu iechyd a gofal clinigol ar waith, gan gynnwys dulliau dadansoddi data a gwyddor data uwch. I grynhoi, mae ein gwaith yn ceisio trawsnewid ymddygiad a chanlyniadau iechyd ar draws yr ystod oedran, ddaearyddol ac economaidd-gymdeithasol i greu poblogaeth iachach.
3) Roedd twf y grŵp ymchwil Moeseg, Uniondeb a Llywodraethu Chwaraeon yn seiliedig ar ddyfarniad gwerth 3m ewro gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2016 i lansio cwrs MA cyntaf y byd ym maes moeseg ac uniondeb chwaraeon. Rydym yn cynnal ysgolheictod ac ymchwil lefel uwch ynghylch problemau cysyniadol a moesegol mewn arferion a sefydliadau chwaraeon. Mae ein gwaith yn archwilio natur chwaraeon a phroblemau moesegol yn y maes mewn modd athronyddol, yn ogystal â gwaith amlddisgyblaethol cymhwysol ar bolisïau ac arferion megis atal dopio, hawliau athletwyr, trefnu canlyniadau gemau, rheolau cymhwysedd o ran rhywedd, polisïau technoleg, a phroblemau lle mae chwaraeon, peirianneg a meddygaeth yn cysylltu â'i gilydd. Mae enghreifftiau o gyngor, ymchwil a gwaith ymgynghori ynghylch moeseg, uniondeb a llywodraethu mewn cydweithrediad â sefydliadau chwaraeon allweddol, ac i’r cyfryw sefydliadau, yn cynnwys British Gymnastics, Cymdeithas Athletau Ewrop, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, y Ffederasiwn Hoci Iâ Rhyngwladol, Chwaraeon Cymru, UK Anti Doping, UK Sport, Asiantaeth Atal Dopio'r Byd a World Athletics.
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.
Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.
Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.
Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Cyllid
Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd).
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd).
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs – dewiswch:
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff / Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
- Cyllid (tudalen 8) -
- 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
- 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS713 - WGSSS 15'
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- Ffurflen Gais yr WGSSS
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
- Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant