Atal Hunanladdiad: Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio
Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Mae'r radd PhD hon yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Y meysydd pwnc: Epidemioleg, adolygiadau systematig, atal hunanladdiad, iechyd y cyhoedd, trosi polisïau
Dyddiadau dechrau'r prosiect: 1 Ionawr 2026 **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr:
- Dr Amanda Marchant
- Yr Athro Ann John
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd
Dull Astudio (amser llawn neu ran-amser):
Amser llawn/rhan-amser i'w drefnu gyda'r myfyriwr llwyddiannus
Lleoliad Astudio:
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, Prifysgol Abertawe (Campws Singleton)
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yng Nghymru yn ganolfan genedlaethol ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan sicrhau bod polisïau, ymyriadau a systemau cymorth yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau bosibl. Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon sydd wedi'i hariannu'n llawn yn rhan o nod y ganolfan i hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil, llywio polisi ac ymarfer ac i ddatblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol.
Bydd y prosiect PhD hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o ddata o wyliadwriaeth hunanladdiad bron amser real (RTSSS) yng Nghymru. Mae'r data hwn yn galluogi gwerthuso ymyriadau'n gyflym iawn a gweithredu amserol pan ellir disgwyl cynnydd mewn hunanladdiadau (e.e. o ganlyniad i ddiweithdra neu adroddiadau yn y cyfryngau). Bydd y myfyriwr llwyddiannus yn cysylltu'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn cysylltu data RTSSS â data a gesglir yn rheolaidd ym manc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe (gan gynnwys iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol) i archwilio cyfleoedd penodol i atal ac ymyrryd, er enghraifft, ymhlith menywod a merched, y rhai hynny sydd wedi cael profiad o drais domestig neu unigolion sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol neu gyfiawnder troseddol. Bydd y gwaith yn cael ei lywio gan themâu sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i RTSSS. Bydd cyd-gynhyrchu gydag arbenigwyr sydd â phrofiad go iawn yn rhan annatod o'r prosiect o'r cychwyn cyntaf. Un o ganlyniadau allweddol y radd PhD hon fydd trosi ymchwil yn effaith yn y byd go iawn a darparu tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer.
Gwybodaeth Allweddol
Fel myfyriwr PhD yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, byddwch yn elwa o:
- dîm goruchwylio sy'n cynnwys arbenigwyr ym meysydd atal hunanladdiad a gwyddor data
- ymuno â'r tîm a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yng Nghymru, sef corff cynghori Llywodraeth Cymru, sy'n hwyluso trosi ymchwil yn newid yn y byd go iawn
- posibilrwydd o gontract er anrhydedd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru
- profiad a hyfforddiant ym manc data SAIL, amgylchedd ymchwil diogel o'r radd flaenaf sydd â rhai o'r setiau data cyfoethocaf am boblogaethau yn y byd
- bod yn rhan o dîm amrywiol a ffyniannus o ymchwilwyr medrus
- cyfleoedd ar gyfer ymchwil gydweithredol fel rhan o'r Sefydliad Ymchwil i Atal Hunanladdiad ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe
- amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol ac ymchwil, gan gynnwys y gynhadledd flynyddol i fyfyrwyr ôl-raddedig
Cymhwyster
Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.
PhD: Rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig 2:1 (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe).
Iaith Saesneg
IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu ynghyd ag ariantal (cyfradd UKRI, sef £20,780)
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS905
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd RS,RS905 a
- theitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais" ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau o'ch gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol, gan gynnwys Datganiad Personol Atodol i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â: Dr Amanda Marchant (A.L.Marchant@abertawe.ac.uk) a Bethanie David (B.H.Denyer@abertawe.ac.uk)
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.