Gwyddor data iechyd meddwl: Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn ar Modelu dysgu peirianyddol o ymddygiadau hunan-niweidio a hunanladdiad sy'n seiliedig ar ddangosyddion (RS906)
Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2025
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig
Darparwr/wyr y cyllid: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Y meysydd pwnc : dysgu peirianyddol; hunanladdiad; hunan-niweidio; iechyd meddwl
Dyddiad dechrau'r prosiect : 01/01/2026
Goruchwylwyr :
- Prif Oruchwyliwr: Yr Athro Ann John - Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg
- Ail Oruchwyliwr: Dr Marcos Del Pozo Banos - Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddor Data Iechyd Meddwl
Rhaglen astudio gydnaws: Gwyddor Data'r Boblogaeth ac Iechyd, Ph.D.
Dull Astudio : Amser llawn
Disgrifiad o'r prosiect :
Pwnc arfaethedig "Creu Gefell Digidol Cenedlaethol ar gyfer ymddygiadau hunan-niweidio a hunanladdiad"
Mae hunan-niweidio a hunanladdiad yn cael eu nodi fwyfwy ym mlaenoriaethau iechyd cyhoeddus byd-eang, gan arwain at fwy o ymrwymiad gwleidyddol a chynnydd mewn ymholiad gwyddonol. Fodd bynnag, mae'r amrywiaeth eang a'r nifer uchel o ffactorau dylanwadol yn golygu bod deall, atal ac ymdrin â’r ymddygiadau hyn yn heriol iawn. Caiff hyn ei rwystro ymhellach gan ddiffyg adnoddau data mawr amrywiol ac offer dadansoddol pwerus sy'n cyd-fynd. O ganlyniad, mae cynnydd yn y maes wedi bod yn nodweddiadol o araf dros y 50 mlynedd diwethaf.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (NCSR) yn mynd i'r afael â’r rhwystrau hyn drwy greu adnodd data blaenllaw ar hunanladdiad a hunan-niweidio, a dulliau dysgu peirianyddol pwerus sy'n cydweddu ag egwyddorion epidemiolegol i gynhyrchu tystiolaeth ac offer o ansawdd uchel.
Yn y prosiect PhD rhyngddisgyblaethol hwn, byddwch chi'n cydweithio ag ymchwilwyr eraill o'r Ganolfan ar y genhadaeth uchod. Byddwch yn:
Helpu i goladu adnoddau data sy'n berthnasol i hunanladdiad a hunan-niweidio.
Datblygu dulliau dysgu peirianyddol newydd (o rwydweithiau niwral artiffisial, coed penderfynu, algorithmau esblygiadol ac eraill) sy'n cyd-fynd ag epidemioleg.
Cynhyrchu gefell digidol ar gyfer cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio cenedlaethol.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau trafod data, eich sgiliau dadansoddol a rhaglennu ar python ac yn datblygu arbenigedd ym meysydd dysgu peirianyddol, epidemioleg, dadansoddi data mawr, a hunanladdiad a hunan-niweidio.
Bydd eich gwaith yn ehangu ffiniau cymwysiadau dysgu peirianyddol mewn epidemioleg, ac yn gwella eich dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio. Bydd hefyd yn llywio datblygiad offeryn cymorth i ddylunio ymyriadau sydd wedi'u targedu, polisïau effeithlon a strategaethau cenedlaethol yn uniongyrchol. Yn fwy na dim, bydd eich gwaith mewn sefyllfa dda i gael effaith yn y byd go iawn, gan helpu i wella bywydau'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed.
Cymhwyster
Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.
PhD: Rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig 2:1 (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe).
Iaith Saesneg
IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£20,780 ar gyfer 2024/25 ar hyn o bryd).
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan:
I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS905
2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol)
- Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch:
- y Côd RS,RS906 a
- theitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag
- Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes
- Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn dangos rhybudd "Cyflwynwyd Cais" ac yn gwahardd cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Cyflwynwch gais am yr un cwrs â'r dyddiad dechrau nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch fis Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- E-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a chôd RS yr ysgoloriaeth berthnasol, a gofyn i'r dyddiad dechrau gael ei newid i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Bydd y staff Derbyn Myfyrwyr yn diweddaru eich cais yn unol â hyn.
Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau o'ch gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol, gan gynnwys Datganiad Personol Atodol i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â: Dr Amanda Marchant (A.L.Marchant@abertawe.ac.uk) a Bethanie David (B.H.Denyer@abertawe.ac.uk)
*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.