Mae lleoedd parcio hynod gyfyngedig ar y campws ac ar draws y ddinas felly byddem yn eich annog yn gryf i beidio â dod â'ch ceir i'r brifysgol. Felly os ydych chi’n by war y campws neu’n agos ato, beicio neu gerdded yw’r dull teithio gorau.

Nid oes trefniadau parcio presennol ar gyfer myfyrwyr i barcio ar Gampws y Bae, Stiwdios Y Bae na Champws Singleton yn ystod oriau craidd sef rhwng 8am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener

Bydd trwyddedau myfyrwyr i barcio ar y campws yn ystod oriau craidd yn parhau i fod ar gael i'r myfyrwyr hynny sy'n bodloni meini prawf penodol. Gweler y wybodaeth isod. 

Cofiwch barcio mewn mannau penodedig ar y safle a pharcio mewn modd cyfrifol oddi ar y safle, yn enwedig mewn mannau yn y gymuned leol.

 

Drwydedd Parcio

Ceisiadau am Drwydded Parcio (ar gyfer myfyrwyr cymwys)

Bydd ceisiadau ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael hawlen barcio o fewn y meini prawf isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/2026 yn agor ar 2 Medi 2025 drwy'r ddolen yn y llun.

I wneud cais:

  • Cliciwch ar 'greu cyfrif'. Am resymau diogelwch, argymhellir defnyddio cyfrinair gwahanol i'r hyn a osodir ar eich mewngofnodi'r Brifysgol.
  • Bydd e-bost gwirio yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost.
  • Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost hwn a byddwch wedi creu eich cyfrif yn llwyddiannus.
  • Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar 'New Permit Applications'.
  • Dewiswch y drwydded rydych am wneud cais amdani a'i chwblhau, gan ddarparu tystiolaeth lle bo angen.

Prisio

O ganlyniad i daliadau anghymesur a chostau sylweddol isadeiledd meysydd parcio'r Brifysgol, rydym wedi cynnal arolwg o gostau hawlenni parcio yn ddiweddar. O ganlyniad, bydd cynnydd graddol ar gyfer rhai mathau o hawlenni dros y 3 blynedd nesaf. Yn bennaf, bydd hyn yn effeithio ar fyfyrwyr â hawlenni meddygol, hawlenni gofalwyr a hawlenni meithrinfa. 

  • Ym mlwyddyn 1 - o fis Medi 2024, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu o £44 i £100 y flwyddyn. 
  • Ym mlwyddyn 2 - o fis Medi 2025, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu i £200 y flwyddyn. 
  • Ym mlwyddyn 3 - o fis Medi 2026, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu i £300 y flwyddyn i gyfateb i'r gost bresennol ar gyfer hawlenni parcio i fyfyrwyr eraill.  

Ar hyn o bryd, nid oes cost ar gyfer myfyrwyr sydd â Bathodyn Glas. Wrth symud ymlaen, bydd costau hawlenni’n cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Cwestiynnau Cyffredin Myfyrwyr

Os oes gennych gwestiwn am drwyddedau parcio i fyfyrwyr, edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin.

Cwestiynau Cyffredin Parcio Myfyrwyr