SARA PAN ALGARRA - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG
Mae Sara yn ymchwilydd ac yn ymgynghorydd polisi sy'n dilyn PhD mewn Addysg Gymharol a Rhyngwladol yn Teachers College, Prifysgol Columbia.
Mae traethawd ymchwil Sara'n archwilio'r croestoriad rhwng argyfyngau hinsawdd, dadleoli mewnol a rhoi'r gorau i'r ysgol ymhlith merched yn eu harddegau mewn cymdogaethau incwm isel yng Nghwm Sula, Hondwras. Mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu ei hymrwymiad i fynd i'r afael â materion byd-eang dybryd drwy waith archwilio academaidd sy’n seiliedig ar gyd-destun a deall polisïau ymarferol.
Cyn ymuno â Phrifysgol Columbia, cwblhaodd Sara radd MA mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, gan ennill y rhagoriaeth uchaf. Gwnaeth ei thraethawd ymchwil MA archwilio polisïau a mecanweithiau cyfreithiol yn Guatemala a Hondwras er mwyn mynd i'r afael â materion dadleoli mewn perthynas â'r hinsawdd ac addysg merched. Dilynodd y maes ymchwil hwn drwy leoliad gwaith ymchwil ar y cyd ag UNICEF UK. Bu hefyd yn gweithio fel Intern Cyfreithiol i’r rhwydwaith nid-er- elw Child Rights Connect yn Genefa, y Swistir. Mae Child Rights Connect yn rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau sy'n ymroddedig i hawliau plant.
Mae ganddi brofiad proffesiynol ac ymchwil cysylltiedig yn y Swistir, Hondwras, Venezuela, Canada, India, yr Eidal, Colombia, yr Unol Daleithiau, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a'r Deyrnas Unedig.
Fe'i hetholwyd yn Faer Ieuenctid Bwrdeistref Chacao yn Venezuela gan weithio ym maes llywodraethu ieuenctid lleol rhwng 2010 a 2014. Bu hefyd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Unedig y Byd India ac mae'n gyn-Gymrawd Dalai Lama (Prifysgol Virginia).