Ynglyn â’r Podlediad
Mae Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe yn archwilio byd ac amgylchedd Addysg Uwch, sy’n newid yn gyflym. Ym mhob pennod, byddwn ni’n chwilio am syniadau i wneud i ni feddwl ymhellach i wneud newid yn broses fwy hwylus, gan gynnwys pynciau fel strategaethau dysgu ac addysgu, amgylcheddau dysgu, addysgeg gynhwysol, technoleg addysgu, arloesi ac yn bwysicaf oll – gwneud cysylltiadau.
Lansiwyd y podlediad ym mis Gorffennaf 2021, ac mae wedi taflu goleuni ar staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys y Dirprwy Is-gangellorion, y Deoniaid, Darlithwyr, Swyddogion Undeb y Myfyrwyr, Myfyrwyr Gorffennol a'r Presennol, Staff Cefnogi, Archifwyr a hyd yn oed Staff Tiroedd, gan eu galluogi nhw i rannu eu safbwyntiau unigryw a chyfraniadau gwerthfawr at Addysg Uwch.