Yn dilyn y syniadau gan sefydliad o Ddenmarc Llyfrgell y Llyfr Dynol creodd Prifysgol Abertawe Ddigwyddiad Llyfrau Byw sy'n llyfrgell o bobl go iawn, gyda straeon go iawn i'w hadrodd. Mae rhai o lyfrau'r llynedd yn sgwrsio â ni am pam eu wedi bod yn cynnig bod yn rhan o'r llyfrgell, a'r hyn a gawsant o'r profiad.
Philippa Price - Trefnydd y digwyddiad; Mohsen Elbeltagi - Aelod o dîm Bywyd Campws Caplaniaid Mwslimaidd; Theresa Ogbekhiulu - Uwch Reolwr Prosiect Cydraddoldeb Hiliol a'r Athro Martin Stringer - Dirprwy Is-Ganghellor Dros Addysg. Mae gennym hefyd Dr Gareth Noble Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe sy'n rhoi cipolwg i ni ar gynnwys ei lyfr a pham roedd eisiau bod yn rhan o'r digwyddiad eleni.