Yn y bennod hon, cawn glywed gan Matthias Dilling a Zoe Clegg, darlithwyr ac arweinwyr profiad y myfyrwyr yn eu hadrannau penodol. Maen nhw'n rhoi cipolwg i ni ar sut maen nhw'n datblygu ymarfer effeithiol wrth Ddylunio Asesiadau ac Adborth ar eu modiwlau, ac ymateb y myfyrwyr i'r strategaethau hynny. Byddant hefyd yn rhoi rhagolwg i ni o'r gweithdy adborth y byddan nhw'n ei gyflwyno yng nghynhadledd SALT eleni.
Yn ogystal, byddwn yn clywed gan Rhian Ellis, Uwch-ddatblygwr Academaidd yn SALT, am bwysigrwydd datblygu arferion Dylunio Asesiadau ac Adborth, a'r adnoddau y mae SALT yn eu darparu i'r perwyl hwn.
Mae modd cofrestru i fynd i gynhadledd Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) eleni bellach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich lle er mwyn cael mynediad at y gweithdy adborth.
Gall staff Prifysgol Abertawe hefyd gael rhagor o wybodaeth am y PGCert, rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus, rhaglen cynllunio dysgu ABC, ac adnoddau asesu ac adborth eraill drwy wefan SALT.