Yn y bennod hon, rydym ni’n croesawu Richard Bayliss a Lisa Thomas o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, a Louise Rees o Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe. Rydym ni’n trafod pwysigrwydd meithrin ymdeimlad o gymuned ar ein cyrsiau, a strategaethau effeithiol ar gyfer cyflawni hyn yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt iddi.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ymarfer effeithiol yn y maes hwn, gallwch edrych ar ein hadnoddau elink.io ar gyfer Building Community at the start of your course, ac Ongoing tips for Building Community.