Profiad dylunio dwys yw cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ sy'n herio myfyrwyr mewn prifysgolion gwahanol ledled y byd. Y dasg a roddir iddyn nhw yw datrys rhai o broblemau mwyaf dybryd y byd o fewn 48 awr yn unig.
Dan arweiniad ein partner, Prifysgol A&M Tecsas, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau lleol i ddatblygu datrysiadau i heriau megis diogelwch bwyd, rheoli gwastraff, defnyddio ynni a llifogydd. Bydd timau o fyfyrwyr yn datblygu cysyniadau, prototeipiau a chynigion llafar cryno a gyflwynir wedyn i banel o feirniaid arbenigol. Darllenwch am eu syniadau isod.
Yn 2018 roedd Abertawe yn un o 14 prifysgol yn unig ledled y byd a wahoddwyd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth agoriadol ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ a hyd yn hyn hi yw’r unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan.
Yn 2019 dewiswyd tîm o Abertawe i gymryd rhan yn Rownd Derfynol cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ yn Nhecsas gan gyrraedd y 3ydd safle yn gyffredinol.
Yn fras...
- Timau o 4-6 myfyriwr
- 48 awr i ddatblygu datrysiad unigryw ynghyd â phrototeip, papur gwyn technegol a chynnig llafar cryno
- Meithrin cysylltiad â thimau o 40 prifysgol ledled y byd
- Mentoriaid arbenigol o’r byd academaidd a byd diwydiant
Dod o Hyd i Ddatrysiadau ar gyfer Problemau Mwyaf Dybryd y Byd
Mae’r timau'n dewis her o blith set o Ddatganiadau Anghenion megis:
- Gwella ailgylchu
- Lleihau gwastraff bwyd
- Atal tanau mewn ardaloedd manwellt
- Lleihau plastigau untro
- Mynd i'r afael â newyddion ffug
- Darparu mynediad i ddŵr glân
Gwneud gwahaniaeth
Gwneud Gwahaniaeth
Mae’r adborth gan y sawl a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Dyfeisiwch dros y Blaned yn dangos bod:
- 90% wedi gwella’u sgiliau Cyfathrebu
- 87% wedi gwella’u sgiliau Gwaith Tîm
- 81% wedi gwella’u sgiliau Siarad yn Gyhoeddus
- 74% wedi gwella’u sgiliau Rheoli Amser
"Mae gan ein dyfais arloesol y gallu i achub bywydau dirifedi"
Mahmoud Elshenawy, Tîm Buddugol 2020
Tîm Abertawe yn y 3ydd safle
Rownd Derfynol Dyfeisiwch Dros y Blaned 2019
Tîm Buddugol 2020: LifeLight
Datganiad Anghenion: Mae dinas graff yn defnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu i fynd i'r afael â materion cyhoeddus drwy gynnig datrysiadau sy'n defnyddio adnoddau'n fwy deallus ac yn fwy effeithlon. O ganlyniad, bydd dinasoedd craff yn gwneud arbedion o ran costau ac ynni, bydd ganddyn nhw well darpariaeth o ran gwasanaethau ac ansawdd bywyd yn ogystal ag ôl troed amgylcheddol is. Byddai datblygu, disodli neu uwchraddio proses neu dechnoleg sy'n bodoli eisoes yn gwneud dinas yn graffach.
Cynnyrch: LifeLight
Nod y datrysiad hwn yw gwella amseroedd ymateb cerbydau brys drwy ddefnyddio pensaernïaeth system Rhyngrwyd y Pethau (IoT) i rybuddio modurwyr ym mlaen llaw bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn agosáu fel y byddan nhw’n gallu symud o'r ffordd.
Aelodau'r tîm: Alexander Santo Ruiz (Peirianneg Fecanyddol), Patryk Adamiak (Peirianneg Fecanyddol), Olimpain Belu (Peirianneg Fecanyddol), Mahmoud Elshenawy (Gwyddor Ddeunyddiau a Pheirianneg)
Tîm Buddugol 2019: SuperSocials
Datganiad Anghenion: Mae cyfran fawr o'r boblogaeth yn treulio cyfran o leiaf o'u bywydau yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Gall hyn ddigwydd yn ystod cyfnod glaslencyndod ac ymestyn i'w bywyd fel oedolyn. A allwn ni ddylunio system sy’n well na'r cyfryngau cymdeithasol cyfredol, sy'n cysylltu pobl â’i gilydd ac sy’n lleihau unigrwydd?
Cynnyrch: Ap SuperSocials
Mae'r datrysiad hwn yn defnyddio arloesiadau technolegol megis cyfathrebu maes agos, geo-leoli a’r cyfryngau cymdeithasol i annog defnyddwyr i fynd allan i gwrdd â phobl newydd a lleihau unigrwydd.
Gall defnyddwyr ennill pwyntiau drwy gwrdd â phobl newydd, creu digwyddiadau a chymryd rhan ynddyn nhw. Gellir defnyddio'r pwyntiau hyn yn nes ymlaen ar gyfer eitemau neu mewn busnesau lleol.
Aelodau’r tîm: Josephine Leong (Peirianneg Fecanyddol), Jekaterina Macilevic (Peirianneg Gemegol), Anna von der Bank (Peirianneg Awyrofod), Sajal Gurung (MSc), Tofazzal Rashid (MSc)
"Dysgais i gymaint o gael y cyfle i weithio fel tîm rhyngddisgyblaethol"
Christine Entwisle, Peirianneg Gemegol, a gymerodd ran yn 2018
Dyfeisiwch dros y Blaned 2019:
32 myfyriwr, 13 gwlad, 7 Disgyblaeth Peirianneg
ENNILLYDD 2020: LifeLight
2020 YR AIL ORAU: OCEAN'S HEAVEN
2019 Enillydd: SuperSocials
2019 Yr Ail orau: Tech Connect
Tîm Ail Orau 2020: Ocean's Heaven
Datganiad Anghenion: Mae pryder cynyddol ynghylch “Pentwr Sbwriel Enfawr y Môr Tawel” sy'n arnofio ar hyn o bryd yng ngogledd y Môr Tawel. Fodd bynnag, nid y gwastraff plastig gweladwy o reidrwydd sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r amgylchedd - y microronynnau bach sy’n gwneud hynny. Po hiraf y bydd y microblastigion hyn yn dod i gysylltiad â nifer o elfennau cefnforol, mwyaf gwenwynig yn y byd y gallan nhw fod. Sut rydyn ni'n casglu ac yn cael gwared ar blastigion cefnfor yn y ffordd gywir?
Datrysiad:
System casglu a didoli plastigion modiwlaidd sydd wedi'i haddasu i dynnu a didoli plastigion ar wyneb y dŵr.
Gan ddefnyddio system twndis sy’n sugno, mae'r ddyfais yn tynnu plastigion i mewn ac yn eu didoli’n blastigion caled (thermoblastigion), plastigion meddal (thermo-osod) a microblastigion.
Aelodau’r tîm: Abigail Crane (Peirianneg Gemegol), Michal Urbanski (Peirianneg Fecanyddol), Jessica Sarah Britton (Peirianneg Fecanyddol), Florence Mayo (Peirianneg Feddygol), Hamza Eren Gunaltay (Peirianneg Awyrofod), Roby Karan Singh (Peirianneg Electronig a Thrydanol)
Panel Dyfarnu Dyfeisiwch dros y Blaned 2019
Yn cynnwys academyddion Prifysgol Abertawe a chyn-fyfyrwyr y Coleg Peirianneg
Tîm Ail Orau 2019: Tech Connect
Datganiad Anghenion: Rydyn ni’n derbyn addewidion bod byd ar gyrraedd lle y bydd popeth ym mhob man wedi'i gysylltu. Fodd bynnag, am y tro, mae “pethau” wedi'u cysylltu'n bennaf mewn cartrefi, mewn ffatrïoedd ac mewn cyd-destunau trefol. Cyn gynted ag y byddwch chi'n mentro i'r gwyllt, bydd cysylltedd y rhwydwaith yn dechrau pallu. Mae Airbus yn datblygu sglodyn electronig newydd y gellir ei ymgorffori’n rhan o unrhyw gynnyrch fel y gellir cysylltu ein “pethau” unrhyw le, unrhyw bryd. Dewch o hyd i gymhwysiad addawol ar gyfer y sglodyn hwn.
Datrysiad: Defnyddio sglodyn IoT Airbus i gyflwyno mynediad at rwydweithiau drwy loeren a chellog i’r ardaloedd hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgîl trychinebau naturiol:
Byddai'r sglodyn yn cael ei leoli y tu mewn i gas caled sy'n gwrthsefyll dŵr ac yn cael ei anfon yno gan ddrôn, gan ganiatáu i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgîl methiant mewn cyfathrebu gael eu hailgysylltu'n gyflym â rhwydweithiau cellog a’r rhyngrwyd.
Aelodau’r tîm: Abigail Crane (Peirianneg Gemegol), Chalisa Ano (Peirianneg Ddeunyddiau), Henry Hoddinott (Peirianneg Gemegol), Michal Urbanski (Peirianneg Fecanyddol), Ryan Gallagher (Peirianneg Ddeunyddiau)