Mae'r dudalen hon yn rhestru polisi a dogfennau y mae'n rhaid i'r Brifysgol eu cael i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys Adroddiad Blynyddol y Brifysgol ar weithrediad y Safonau ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg. Caiff adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ionawr yn flynyddol er mwyn adrodd ar gydymffurfiaeth y Brifysgol yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Ceir hefyd isod dogfennau eraill y rhestrir yn y Rheoliadau. Cyfnod adrodd y Brifysgol yw 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Sut mae'r Brifysgol yn mynd ati i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg?
Yn unol â Safonau'r Gymraeg, disgwylir i'r Brifysgol gymryd camau penodol i amlinellu sut y bydd yn hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol a sut y bydd yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Gwneir hyn drwy weithdrefnau cyfathrebu mewnol a thrwy gyhoeddi:
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg sy'n nodi sut mae'r Brifysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn monitro cydymffurfiaeth
- Adroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma'r adroddiad mwyaf diweddar. Galwch ddarllen adroddiadau blynyddoedd blaenorol yma.
- Cyfleoedd Dysgu - asesu'r angen am gyfleoedd dysgu yn y Gymraeg
- Polisi ar ddyfarnu grantiau/darparu cymorth ariannol. Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a Darparu Cymorth ariannol yn unol â gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017