Image of Tanya Pengelly and the front cover of 'A Dictionary of Light'

Mae'r llenor o Gymru Tanya Pengelly wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 am ei stori, 'A Dictionary of Light', a ysgrifennwyd er cof am ei thad. 

Mae'r gystadleuaeth yn dathlu'r straeon byrion Saesneg gorau heb eu cyhoeddi gan awduron 18 oed neu’n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am ddwy flynedd neu fwy, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall storïau fod mewn unrhyw arddull neu ar unrhyw bwnc hyd at uchafswm o 5,000 o eiriau.

Drwy gyfres o gofnodion geiriadurol o A i Z, mae 'A Dictionary of Light' yn adrodd hanes tad mewn gwahanol raddau o olau a chysgod – dyn sy'n ddibynadwy, yn anrhagweladwy, yn bell ac yn gariadus, wedi'i ddisgrifio drwy eiriau ei ferch.

Wedi'i geni a'i magu yng Nghaerdydd, mae Tanya Pengelly, 37 oed, yn awdur sydd bellach wedi ymgartrefu yn Swydd Warwig, lle mae'n gweithio fel arweinydd prosiect ar gyfer sefydliad nid-er-elw cenedlaethol ac yn rhedeg Milverton Writers, grŵp bach rhyngwladol o feirdd ac awduron. Mae ei hysgrifennu'n amrywio rhwng ffuglen seicolegol lenyddol a ffuglen ddamcaniaethol, ond bob amser wedi'i gwreiddio o ran sut mae'r dirwedd o'n cwmpas yn cyfleu'r straeon rydym yn eu hadrodd. Yn 2024, enillodd Tanya Wobr Robert Day am ffuglen, ac mae ei straeon wedi ymddangos mewn sawl antholeg a chylchgrawn llenyddol.

Meddai'r beirniad gwadd eleni, yr awdur arobryn o Gymru, Rebecca F. John: "Mae'r stori fuddugol eleni yn strwythurol ddyfeisgar ac yn emosiynol syfrdanol. Mae 'A Dictionary of Light' yn cynnwys delweddaeth hardd sy'n arddangos llaw hynod ddawnus Tanya Pengelly, a thrwy ei gonestrwydd mae'n creu'r teimlad hwnnw sydd ond yn nodweddiadol o'r ysgrifennu gorau – sef cydnabod gwirionedd dwfn."

Mewn ymateb i'w buddugoliaeth, meddai Tanya Pengelly: "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn gwobr Rhys Davies am 'A Dictionary of Light'. Ysgrifennais y stori hon er cof am fy nhad a fu farw yn 2022, felly alla i ddim mynegi faint o emosiwn rydw i wedi'i deimlo yn ystod y dyddiau diwethaf hyn – llawenydd a thristwch. Mae ennill y wobr hon, yn enwedig un ar gyfer ysgrifennu Cymreig, yn dyst mor annisgwyl a phriodol. Mae'n fraint gweld naratif mor bersonol yn atseinio gyda phobl eraill, hyd yn oed yn ei ffurf ddarniog sy'n wahanol i'r arfer.

"Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y wobr hon - trefnwyr, beirniaid, cefnogwyr a chyhoeddwyr. Mae eich cariad at adrodd straeon a'r gofal rydych chi'n ei gymryd â geiriau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i awduron fel fi. Alla i ddim aros i ddarllen straeon eraill  yr antholeg a chlywed y lleisiau unigryw sy'n gwneud ein cymuned lenyddol mor fywiog."

Sefydlwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ym 1991 ac fe'i cynhaliwyd 11 o weithiau hyd yn hyn. Cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn 2021, mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Wedi ennill y wobr, mae Tanya Pengelly yn cael £1,000, a bydd ei stori yn cael sylw yn Antholeg Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2024, wedi'i chyhoeddi gan Parthian ym mis Tachwedd. Bydd straeon gan yr 11 cystadleuydd arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn ymddangos yn yr antholeg.

Bydd Tanya Pengelly, y beirniad gwadd Rebecca F. John, y golygydd Elaine Canning, Cyfarwyddwr Parthian Richard Davies, a chystadleuwyr rownd derfynol Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 yn trafod yr antholeg a ffurf y stori fer yn ei lansiad yn Waterstones Abertawe nos Fercher 27 Tachwedd am 6pm. Mae croeso i bawb, ac mae mynediad am ddim.

Rhannu'r stori