Cystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol mawr ei bri ar gyfer ysgrifenwyr a anwyd neu sy’n byw yng Nghymru yw Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies. Cafodd y gystadleuaeth ei chreu nôl ym 1991 ac rydyn ni’n falch iawn o allu i rheoli wobr hon y mae sôn mawr amdani ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ar y cyd â Parthian Books.

Ynglŷn â Rhys Davies

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach ger Tonypandy yn y Rhondda ym 1901, gyda’r ysgrifenwyr rhyddiaith Cymreig mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus a oedd yn ysgrifennu’n Saesneg. Gan ymroi’n ddiwyro a heb fawr o barch tuag at lwyddiant masnachol, bu’n ymarfer crefft yr ysgrifennwr am ryw bum deg o flynyddoedd ar ffurf y stori fer a’r nofel gan gyhoeddi yn ystod ei oes gorff sylweddol o waith sydd bellach yn waddol i’w fri llenyddol. Rhwng popeth, ysgrifennodd fwy na chant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.
Gwobrau
-
Gwobr 1af - £1,000 o bunnoedd sterling a chaiff y cais buddugol ei gyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2025.
-
11 x Gwobr arall/Rownd derfynol gwobrau - £100 yr un a chaiff y ceisiadau eu cyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2025.

Mae’n bleser mawr gennym ni gyhoeddi y bydd Cynan Jones yn feirniad gwadd ar gyfer cystadleuaeth 2025
Cynan Jones is from near Aberaeron, on the west coast of Wales. His acclaimed fiction, which includes five novels and numerous short stories, has appeared in over 20 countries, and in journals and magazines including Granta, Freeman’s and the New Yorker. He also writes for screen, has written a collection of tales for children, and a number of stories for BBC Radio, including the twelve-story collection Stillicide. He has been longlisted and shortlisted for numerous awards, and won, among other prizes, the Wales Book of the Year Fiction Prize, a Jerwood Fiction Uncovered Award, and the BBC National Short Story Award. His short story collection, Pulse, is forthcoming from Granta Books in November 2025.
Gwefan: www.cynanjones.net
Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2025.

Mae Ralph Bolland yn actor, yn awdur, yn fardd ac yn ddramodydd, gyda 30 mlynedd o brofiad yn y celfyddydau perfformio: o deithio ar raddfa fach a theatr mewn addysg i gynrychioli’r rhanbarth ac yna cyrraedd y West End; o deledu a radio i dros ddegawd o waith ymgysylltu â'r celfyddydau cymdeithasol. Daeth yn ail yng Ngwobr Ddrama gyntaf BBC Cymru / NTW (2013) ac mae wedi'i gyhoeddi yng nghylchgrawn Red Poets ac wedi ysgrifennu Drama Radio i BBC Scotland.
Yn byw yn Llandrindod ers 2007, Ralph yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys, ac mae’n gweithio i gynnal cyfleoedd yn y celfyddydau o safon ac a arweinir yn broffesiynol ar gyfer plant ifanc mewn cymunedau pell a gwledig.
Facebook: ralph.bolland.9 | X: @MidPowysYT | Instagram: midpowysyt

Wedi'i eni yn Abertawe, mae Alan Bryant yn byw gyda'i wraig hyfryd yn y Mwmbwls. Mae wedi ennill cystadleuaeth straeon byrion hanesyddol Cymdeithas Genedlaethol Grwpiau Ysgrifenwyr y Deyrnas Unedig, wedi dod i’r brig ddwywaith yn eu gwobr gomedi, ac wedi cyhoeddi straeon byrion mewn nifer o antholegau, gydag un wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Pushcart. Mae ei waith hefyd wedi cael ei ddarllen ar BBC Radio Wales. Mae llawer o'i straeon yn seiliedig ar fethiannau dynoliaeth, gyda rhai ar y ffin o fod yn wallgof. Mae ganddo BA mewn Llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol o'r Brifysgol Agored ac mae'n ysgrifennu heb ddisgwyl i Hollywood greu llwybr at ei ddrws.

Mae Miranda Davies yn awdur ac yn academydd. Mae hi wedi ysgrifennu oriau lawer o ddramâu radio ar gyfer Radio 4; dwy nofel (Miss Treadway & the Field of Stars ac A Little London Scandal) yn ogystal â chofiant teithio. Mae hi'n cyhoeddi o dan yr enwau Miranda Davies a Miranda Emmerson. Daw hi o gymysgedd o gefndiroedd, yn Gymraes, Saesnes, Ffrengig, Pwyleg ac Iddewig. Magwyd hi yn Llundain ond mae hi wedi byw yn y Barri, Bro Morganwg, ers deunaw mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi'n ymchwilio i naratifau ynghylch bocsio menywod ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae Jonathan Edwards yn byw yn Crosskeys, de Cymru. Mae ei gasgliadau barddoniaeth arobryn, My Family and Other Superheroes a Gen, wedi'u cyhoeddi gan Seren, ac mae ei ffuglen fer wedi ymddangos yn New Welsh Review.

Cafodd Sybilla Harvey ei magu yn Y Fenni ac yn hwyrach cwblhaodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac am Fywyd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Bellach, mae hi'n gyfarwyddwr creadigol i gwmni cynhyrchu yn Efrog Newydd ond mae hi'n dychwelyd adref yn aml. Mae ei straeon byrion wedi'u cyhoeddi yn y New Welsh Review a Mslexia ac yn cael eu cydnabod mewn cystadlaethau megis Gwobr Ysgrifennu Berlin. Ar hyn o bryd mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Rheidol am Ryddiaith 2025 â Thema neu Leoliad Cymreig.
Instagram: @sybilla.harvey

Mae'r awdur o Abertawe Natalie Ann Holborow, Little Universe, wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2025. Mae hi'n enillydd Gwobr Terry Hetherington a Gwobr Robin Reeves ac mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ysgrifennu Cymreig Rheidol a Gwobr Gair Llafar Cursed Murphy ymhlith eraill. Mae ei phreswyliadau ysgrifennu gyda'r British Council, Llenyddiaeth Cymru a Kultivera wedi ei gweld yn ysgrifennu ac yn perfformio barddoniaeth yng Nghymru, Iwerddon, Sweden ac India. Mae hi'n awdur dau gasgliad arall o farddoniaeth gyda Parthian: And Suddenly You Find Yourself a Small. Cyhoeddir ei llyfr ffeithiol cyntaf, Wild Running, gan Seren yn 2025.
Gwefan: www.natalieholbow.com | Instagram: @natholborow

Mae Sian Hughes yn ysgrifennydd ac yn ymarferydd creadigol sy'n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Pain Sluts, y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022, tra bo straeon blaenorol ganddi wedi ymddangos yn Storgy, Fiction Pool, Fiction Desk a Scribble. Mae tair o'i straeon wedi cael eu haddasu ar gyfer y sgrîn ac wedi cael eu darlledu ar BBC Wales ac S4C, ac enillodd addasiad diweddar o'i stori Consumed y wobr am y Ffilm Fer Orau yng Ngwyliau Ffilmiau Byr BELIFE Reykjavik a Llundain. Mae Sian ar hyn o bryd yn gweithio ar ail gasgliad, Doll Skin, ac mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu.
Gwefan: www.sianhughes.me.uk | Facebook: sianelisabethhughes | X: @FlossingtheCat | Instagram: @flossingthecat

Magwyd Kate Lockwood Jefford yng Nghaerdydd, gweithiodd fel seiciatrydd y GIG yn Llundain, a chwblhaodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Birkbeck. Dyfarnwyd Gwobr VS Pritchett (2020) i’w ffuglen fer, gwobrau cyntaf yng Ngwobrau Stori Fer Caerfaddon (2021) a Brick Lane Bookshop (2023), ac mae’n ymddangos mewn llawer o antholegau gan gynnwys Take a Bite: The Rhys Davies Short Story Award Anthology (Parthian, 2021), Aesthetica (2021, 2022), a 22 FICTIONS: New Writing o Desperate Literature & Brick Lane Bookshop (Cheerio, 2025). Mae Kate yn rhannu ei hamser rhwng Llundain, Caerdydd ac Aberhonddu, ac mae'n gweithio ar nofel wedi'i hysbrydoli gan dirwedd synhwyraidd a bywgraffyddol de Cymru.
X: @kljefford | Instagram: @grandbunyan

Magwyd Keza O'Neill yn Aberystwyth, lle gwnaeth cariad at straeon afael arni ers oedran cynnar – wedi'i ddylanwadu gan y bobl, y lle, a diwylliant sy'n gwerthfawrogi stori dda. Astudiodd Ffrangeg yn Sheffield a threuliodd ddegawd yn symud rhwng Llundain, Paris, a San Francisco, yn gweithio ym maes technoleg (ond nid yr ochr dechnegol). Rhywle rhwng lolfeydd meysydd awyr, carwséls bagiau, a galwadau â chleientiaid ar draws mwy na 40 o wledydd, gwnaeth ailddarganfod adrodd straeon.
Mae ei ffuglen yn archwilio'r edau plethedig rhwng pobl a lle, gan amgylchynu'r syniad o gartref. Cyrhaeddodd 'Sunny Side' restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2024; enillodd ‘Lucky Strike’ Wobr Sansom a daeth yn drydydd yn rhestr Gwobr Stori Fer Bryste 2023. Mae ei gwaith hefyd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer gwobrau Mslexia, Caerfaddon, CWA Debut Dagger, a Lucy Cavendish.
Mae hi'n byw ym Mryste - oherwydd bod cartref dros y bont.
Instagram: @kezawrites | Bluesky: @kezawrites.bsky.social | Substack: @kezawrites

Mae Jonathan Page yn byw ac yn gweithio yn y Mynyddoedd Du, ger Talgarth. Mae nifer o'i straeon byrion wedi cael eu cynnwys mewn blodeugerddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Rhys Davies yn 2022. Cyhoeddwyd ei nofel, Blue Woman, stori bywyd ffuglennol arlunydd o Gymru, gan Weatherglass Books yn 2022.

Ysgrifennydd ac artist o Galiffornia yw Tess Powell a symudodd i Abertawe, Cymru i gwblhau ei gradd meistr mewn ysgrifennu creadigol a pharhau â'i hastudiaethau o'r iaith Gymraeg. Mae hi'n newydd i'w thaith ysgrifennu rhyddiaith a than nawr mae wedi gweithio ar ddyluniadau. Ym mis Hydref, mae Tess yn cyhoeddi comig Cymraeg/Saesneg gyda'r Shortbox Comic Fair ryngwladol o dan y ffug enw 'Fortune's Fool'. Mae hi bob amser yn canfod ysbrydoliaeth o'r bobl y mae hi'n cwrdd â nhw a'r lleoedd o'i hamgylch ac mae'n dwlu ar ysgrifennu am fenywod sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Instagram: @tessofthepowell
Sut y Gystadlu
Ar agor ar gyfer ceisiadau: DYDD IAU 28ain TACHWEDD 2024
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: DYDD IAU 14eg CHWEFROR 2025 AM HANNER NOS
Sut y Gystadlu:
- Darllenwch y Rheolau, Telerau ac Amodau Mynediad - Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2025
- Dalu’r ffi gystadlu ac i gael eich cyfeirnod unigryw CLICIWCH YMA. I gael manylion am gymhwysedd i gael mynediad am ddim, edrychwch ar y telerau ac amodau.
- Llenwch y ffurflen gais CLICIWCH YMA.