Digwyddiadau Blaenorol
Digwiddadau 2022
'Land of Change: Stories of Struggle & Solidarity from Wales'
Dydd Iau 26 Mai 2022 | 1yp-2yp
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Fel rhan o'r gyfres Salon Llenyddol, mae'r Sefydliad Diwylliannol a Culture Matters yn eich gwahodd i lansiad Land of Change: Stories of Struggle and Solidarity from Wales. Wedi'i golygu gan Gemma June Howell, mae Land of Change yn antholeg liwgar o waith celf beiddgar a ffotograffiaeth ddogfennol, yn ogystal ag ysgrifennu creadigol, areithiau, newyddiaduraeth a hunangofiant, treiddiol, goleuol a theimladwy. Mae'n dathlu'r casgliad amrywiol o leisiau pobl sydd wedi'u tangynrychioli ac o gefndiroedd dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Mae aelodau'r panel yn cynnwys cyfranwyr at yr antholeg, Kate Cleaver, Rhoda Thomas a Rhys Trimble, Gemma June Howell, Golygydd Cysylltiol yn Culture Matters a Daniel G. Williams, Athro Llenyddiaeth Saesneg a cyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd sy'n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilio i fywydau pobl gyffredin a gafodd eu carcharu yng Ngwallgofdy Llansawel, Vernon House. Mae hi'n creu straeon ac wedi canfod bod cysylltu ei straeon â ffeithiau hanesyddol yn ffordd o adfywio pobl o'r gorffennol. Yn 2019 cafodd ei chynnwys ar restr hir Gwobrau New Welsh Writers ac mae Parthian wedi cyhoeddi hunangofiant ganddi, Just So You Know a chafodd un arall ei gyhoeddi, Painting the Beauty Queens Orange: Women's Lives in the 1970s gan Wasg Honno, 2021.
Mae gan Rhys Trimble, sy'n niwro-amrywiol ac yn ddwyieithog, amrywiaeth o rolau: bardd, athro, cyfieithydd, perfformiwr, beirniad, cerddor, artist sain, artist gweledol, pastynwr, artist perfformio, cyhoeddwr, golygydd ac ymgyrchydd, a rhoddodd araith yng ngwrthdystiad 'ban the bill' ym Mangor. Cafodd ei eni yn Sambia a'i fagu yn ne Cymru, bellach mae'n byw yng ngogledd Cymru ac mae'n awdur dros 20 llyfr.
Rhoda Thomas: Un o Lundain yn wreiddiol, mae Rhoda'n byw yng Nghymru ers 40 o flynyddoedd, gan gyfrannu at hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr a meddygon a hithau'n seicolegydd ac yn gymdeithasegydd. Mae hi wedi cyflawni sawl rôl mewn undebau myfyrwyr ac undebau llafur. Ar y cyd â Tim Evans, mae hi'n trefnu Gŵyl Flynyddol Coffáu Streic Rheilffordd Llanelli 1911. Mae hi'n un o aelodau sefydlu'r Live Poets Society, sy'n dod â beirdd o bob rhan o dde Cymru ynghyd ar gyfer gweithdai a digwyddiadau meic agored. Mae hi'n aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd, gan roi sgyrsiau ac ysgrifennu am bynciau megis bywydau chwyldrowyr benywaidd a'r niwed i'n hiechyd o'r diwydiant bwyd. Mae hi'n darllen yn rheolaidd mewn grwpiau a digwyddiadau barddoniaeth. Hi yw awdur 'Survive and grow in difficult times' a gellir darllen ei barddoniaeth mewn antholegau diweddar, yn Red Poets ac yn ei chasgliadau barddoniaeth. Yn y darn hwn o ryddiaith, mae hi'n ysgrifennu am yr heriau mae hi wedi'u hwynebu yn ei bywyd fel menyw o'r dosbarth gweithiol a gwerth solidariaeth.
Mae Gemma June Howell (Golygydd) yn ymgyrchydd ar lawr gwlad, yn ysgrifennwr, yn diwtor, yn academydd ac yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer Culture Matters. Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer Nation Cymru. Mae hi'n gyd-sefydlydd y CSOS ac yn un o drefnwyr y Sister March (Caerdydd 2017). Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Onward/Ymlaen! ac mae hi'n perfformio gyda'r Red Poets yng ngŵyl flynyddol Merthyr Rising. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan Bloodaxe Books (2015), yn The London Magazine (2020) ac ar y rhaglen Tongue & Talk, (a gynhyrchwyd ym Manceiion ar gyfer BBC Radio 4 yn 2021).Yn ddiweddar, mae Gemma wedi cyflwyno ei PhD: prosiect rhyddfreiniol sy'n archwilio trawma torfol a goresgyn. Teitl y prosiect yw Concrete Diamonds, sef nofel hybrid sy'n cynnwys chwedl eco-ffeministaidd a myth-grëol sy'n frith o farddoniaeth goncrid, arddull pync. Yn y bôn, teyrnged polyffonig ydyw i bobl dosbarth gweithiol sy'n byw ym Mhrydain ôl-ddiwydiannol. Mae'r gwaith yn portreadu bydoedd a bywydau pum cenhedlaeth ac yn rhychwantu amrywiaeth o arddulliau llenyddol: o lif ymwybod i bolemig, melodaidd a barddonol, realistig a di-flewyn-ar-dafod a digrifwch tywyll. Wedi'i thanategu gan ddamcaniaeth feirniadol, mae'r nofel hon yn taflu goleuni ar y ffactorau yn y gorffennol sydd wedi arwain at dlodi, gwahaniaethu, gormesu pobl ar yr ymylon a dangynrychiolir, a'u cyflyrau heddiw.
Mae Daniel G. Williams yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Ef hefyd yw cyd-gyfarwyddwr CREW – y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru. Mae wedi golygu sawl llyfr ac ef yw awdur Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (2006), Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (2012) a Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (2015). Yn 2021 cyhoeddwyd golygiad newydd o’i gasgliad o ysgrifau gan Raymond Williams, Who Speaks for Wales? Ymddangosodd y gyfrol gyntaf yn 2003 ac mae’r argraffiad estynedig newydd yn nodi Canmlwyddiant geni Raymond Williams.
'Cymru, Cynefin a Chanonau: Sut Mae Llenyddiaethau'n Llunio ein Byd'
Nos Wener 20 Mai | 7yp-8yp
*Digwyddiad Ar-lein*
Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod chwaethau llenyddol Cymru - hyd yn oed yn Saesneg - yn wahanol i rai gweddill y DU. Sut mae darllenwyr Cymreig yn gweld y byd yn wahanol? Pa rolau sydd gan gymunedau darllen ac ysgrifennu lleol yn hyn?
Fel rhan o brosiect y Big Book Review a ariennir gan yr AHRC, ymunwch â'r awduron Cynan Jones a Manon Steffan Ros yn sgwrsio â'r Athro Kirsti Bohata a Dr Richard Robinson (Prifysgol Abertawe) a Dr Aidan Byrne (Prifysgol Wolverhampton) wrth iddynt drafod y berthynas rhwng stori a lle, pwysigrwydd ysgrifennu Cymraeg a Chymreig a hunaniaeth lenyddol Gymraeg a Chymreig.
Bydd Aidan hefyd yn datgelu canfyddiadau am arferion darllen yng Nghymru a awgrymir gan ein gwaith gyda rhestr y BBC o'r nofelau a luniodd ein byd, ac yn eich gwahodd chi i gymryd rhan yn ein hymchwil drwy ddweud wrthym beth yw hanfodion llyfr gwirioneddol dda.
Mae Cynan Jones yn ysgrifennwr ffuglen nodedig o Gymru. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn dros 20 gwlad, mewn cyfnodolion a chylchgronau, gan gynnwys Granta a The New Yorker. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr genedlaethol y BBC am stori fer a Gwobr Jerwood am ffuglen, ac mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu a'r radio.
Manon Steffan Ros is an author and scriptwriter. She has written more than 40 books and has been awarded prizes including Wales Book of the Year and the Tir Na N’Og prize for children’s literature. Her novel, Llyfr Glas Nebo, has been translated into eight languages. She lives in Meirionnydd with her sons.
Mae'r Athro Kirsti Bohata yn ysgolhaig blaenllaw ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac mae hi wedi cyhoeddi ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol, llenyddiaeth cwiar, astudiaethau anabledd a daearyddiaeth lenyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan y presennol. Ei llyfrau diweddaraf yw Queer Square Mile, sef antholeg o straeon byrion cwiar o Gymru (Parthian, 2022) a Disability in Industrial Britain (Manchester University Press, 2020) sy'n gyhoeddiad mynediad agored llawn. Hi yw Cyd-gyfarwyddwr CREW (Y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Ryngddisgyblaethol Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi'n gyd-Gadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru.
Mae Dr Richard Robinson yn Athro Cyswllt yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae’n gweithio ym maes llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a llenyddiaeth gyfoes, gan ymddiddori’n benodol mewn moderniaeth a’i bywyd tragwyddol, dull, ysgrifennu Gwyddelig a chynrychioliadau llenyddol o ganolbarth Ewrop. Mae’n awdur dau fonograff, Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern and Modernism (Bloomsbury, 2017). Mae wedi cyhoeddi’n eang ar awduron fel John McGahern, Kazuo Ishiguro, James Joyce, Italo Svevo, Elena Ferrante, Rebecca West, Ian McEwan ac Edward St Aubyn.
Mae Dr Aidan Byrne yn uwch-ddarlithydd Llenyddiaethau Saesneg ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys llenyddiaethau Cymru, ffuglen gwleidyddion a diwylliant poblogaidd. Ar hyn o bryd mae'n gyd-ymchwilydd ar brosiect y dyniaethau digidol a ariennir gan yr AHRC am ganfyddiadau o'r nofel. Mae'r prosiect yn archwilio pryderon canonaidd, chwaethau llenyddol a syniadau poblogaidd am safon lenyddol. Mae'n ysgrifennydd Cymdeithas Llen Saesneg Cymru a gellir cysylltu ag ef yn @plashingvole.
'Editing the Harlem Renaissance': Dr Rachel Farebrother yn cynnal sgwrs â Dr Miriam Thaggert
Dydd Mawrth 17 Mai | 2yp-3yp
* Digwyddiad Ar-lein*
Yn y digwyddiad arbennig ar-lein hwn, bydd Dr Rachel Farebrother a Dr Miriam Thaggert yn trafod cyd-olygu A History of the Harlem Renaissance (Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (CUP, 2022).
Mae'r Cambridge History of the Harlem Renaissance yn cyflwyno ysgrifau newydd sy'n archwilio blodeuo digynsail mynegiant diwylliannol Affricanaidd Americanaidd yn y 1920au a'r 1930au sy'n cael ei adnabod erbyn hyn fel Adfywiad Harlem. Wrth roi sylw i amrywiaeth eang o genres a ffurfiau - o'r roman à clef a'r bildungsroman i ddawns a darluniadau llyfr - mae'r gyfrol hon yn ceisio, ar yr un pryd, rychwantu a dadansoddi eclectigiaeth mynegiant diwylliannol Adfywiad Harlem. Mae'n archwilio bron canrif o "astudiaethau Adfywiad Harlem" ac yn ystyried beth mae'r dyfodol yn ei argoeli ar gyfer astudio'r "Negro Newydd”.
Mae African American Literature in Transition, 1920-1930 yn cyflwyno ysgrifau gwreiddiol sy'n olrhain datblygiadau ideolegol, hanesyddol a diwylliannol yn y 1920au. Gan gymhlethu'r dehongliad cyfarwydd o'r 1920au fel degawd a ddechreuodd gyda ffyniant rhyfeddol ac a ddaeth i ben gyda dadrithio a dirwasgiad, mae'r casgliad yn archwilio ehangder ac amrywiaeth allbwn diwylliannol y gymuned ddu. Gan bwysleisio cyferbyniad cynhyrchiol rhwng rhinweddau byrhoedlog cyfnodolion, dillad a décor a sefydlogrwydd cymharol testunau'r canon, mae'r gyfrol yn disgrifio dynameg mudiad diwylliannol a oedd yn hylif ac yn eang.
Mae Miriam Thaggert yn Athro Cysylltiol mewn Llenyddiaeth Affricanaidd America yn SUNY-Buffalo. Hi yw awdur Images of Black Modernism: Verbal and Visual Strategies of the Harlem Renaissance (University of Massachusetts Press, 2010). Ar y cyd â Rachel Farebrother, mae'n gyd-olygydd A History of the Harlem Renaissance ( Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (Cambridge University Press, 2022). Mae ei thraethodau wedi ymddangos yn African American Review, American Quarterly, American Literary History, Feminist Modernist Studies, Meridians: Feminism, Race, Transnationalism, a'r gyfrol a olygwyd, New Modernist Studies. Cyhoeddir ei monograff newydd, Riding Jane Crow: African American Women on the American Railroad (Prifysgol Illinois) ym mis Mehefin, 2022.
Mae Rachel Farebrotheryn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw awdur The Collage Aesthetic in the Harlem Renaissance (Ashgate, 2009). Mae ei thraethodau wedi ymddangos yn Comparative American Studies, Journal of American Studies, MELUS, Modernism/modernity, a chasgliadau amrywiol a olygwyd. Ar y cyd â Miriam Thaggert (SUNY-Buffalo), mae hi wedi cyd-olygu The History of the Harlem Renaissance (Cambridge University Press, 2021) ac African American Literature in Transition, 1920-1930 (Cambridge University Press, 2022).
'Brittle with Relics': Richard King yn sgwrsio â'r Athro Kirsti Bohata
Ar y cyd â Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton
Dydd Mercher 6ed Ebrill | 1yp-2yp
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Bydd Richard King yn sgwrsio â Kirsti Bohata, Athro Llenyddiaeth Saesneg a Chyfarwyddwr CREW (y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe.
Llyfr sy'n torri tir newydd am hanes pobl Cymru yn ystod cyfnod o newid cenedlaethol mawr.
Yn ystod traean olaf yr ugeinfed ganrif, profodd Cymru effeithiau dad-ddiwydiannu, colli cyflogaeth a chydlyniad cymunedol yn sgil hyn, a brwydr am ei hiaith a'i hunaniaeth, i gyd ar yr un pryd. I raddau helaeth, gorfodwyd y newidiadau hyn ar y wlad a bu'n rhaid i'w llais ei hun, na cheir cytundeb yn ei gylch braidd byth o fewn ei ffiniau, frwydro i gael ei glywed y tu allan i Gymru.
Mae Brittle with Relics yn adrodd hanes pobl Cymru wrth iddynt fynd drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf seismig a thrawmatig y wlad: trychinebau Aberfan a Thryweryn; twf mudiad yr iaith Gymraeg; Streic y Glowyr a'i sgil-effeithiau; a'r bleidlais o drwch blewyn o blaid datganoli rhannol.
Gan gynnwys lleisiau Neil Kinnock, Rowan Williams, Leanne Wood, Gruff Rhys, Michael Sheen, Nicky Wire, Siân James, ymgyrchwyr dros y Gymraeg, aelodau'r hen gymunedau glo a llawer mwy, dyma stori hollbwysig am genedl sy'n benderfynol o oroesi, gan goleddu'r gobaith y bydd Cymru, ryw ddydd, yn ffynnu ar ei thelerau ei hun.
Am y awdwr
Richard King yw awdur Original Rockers (a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Gordon Burn ac ar restr Rough Trade, The Times ac Uncut o lyfrau'r flwyddyn), How Soon is Now? (Llyfr Cerddoriaeth y Flwyddyn The Sunday Times) a The Lark Ascending (Un o lyfrau'r flwyddyn Rough Trade, Mojo a'r Evening Standard, a llyfr rhestr fer Gwobr Penderyn) y cyhoeddwyd pob un ohonynt gan Faber & Faber. Cafodd ei eni i deulu dwyieithog yn ne Cymru a bu'n byw yng nghefn gwlad Powys am yr 20 mlynedd diwethaf.
'Ticking': Ellie Rees yn sgwrsio â Dr Alan Bilton
Dyyd Mawrth 5 Ebrill 2022 | 1yp-2yp
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
Ellie Rees yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r cerddi yn Ticking yn fap dwfn o lain o arfordir yn ne Cymru sy'n hardd ond yn wag sy'n edrych dros Fôr Hafren i Exmoor. Gallai'r casgliad gael ei ddosbarthu fel ysgrifennu am natur, ond mae'r term mapio dwfn yn ddisgrifiad mwy cywir o'r pwnc eclectig: ceir ysbrydion, hunanladdiadau ac adfeilion yn ogystal â chorynnod y dom, seiri maen ac ofn pryfed. Mae llawer o'r cerddi'n canolbwyntio ar hanes a daearyddiaeth, archeoleg a bywyd gwyllt dwy filltir o arfordir Cymru. Serch hynny, mae'r mapio yn Ticking nid yn unig yn cael ei gyfyngu i'r diriaethol neu ddeunydd, mae'n cynnwys yr anniriaethol, y breuddwydion a'r gobeithion, dychmygion ac ofnau ei breswylwyr yn y gorffennol a'r presennol.
Am y awdwr
Ar ôl ymddeol fel athro yn 2009, sylweddolodd Ellie fod mwy i fywyd na garddio, felly penderfynodd fod yn fyfyriwr unwaith yn rhagor. Enillodd MA a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, ac mae ei gwaith yn cael ei gyhoeddi'n helaeth erbyn hyn. Mae hi'n ysgrifennu cofiannau ffeithiol creadigol a thraethodau ond ei phrif gariad yw barddoniaeth. Mae cerddi Ellie wedi cael eu cyhoeddi yn y lleoedd canlynol The New Welsh Review, Poetry Wales, The Lonely Crowd, Black Bough Poems, The Cabinet of Heed, Trestle Ties a The Broken Spine. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl cystadleuaeth o fri ac yn 2020, enillodd y Gystadleuaeth Selected or Neglected a gynhelir gan The Hedgehog Press. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf o farddoniaeth Ellie o'r enw Ticking ar 14 Ionawr 2022 gan The Hedgehog Press.
'Painting Beauty Queens Orange: Women’s Lives in the 1970s'
Dydd Mercher 2il Chwefror 2022 | 1yp-2yp
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
*Sylwch mai digwyddiad personol yw hwn.*
Doedd y 70au ddim yn fflêrs, glam roc a phync i gyd... Yn Painting the Beauty Queens Orange, mae'r menywod a fu'n byw drwy'r degawd yn datgelu sut brofiad oedd gwthio'r ffiniau, hawlio eich hunaniaeth a mynnu lle i chi eich hun yn y gaeaf o anfodlonrwydd, haf crasboeth '76 a thwf Thatcheriaeth. Mae un fenyw'n ffarwelio â'i baban newydd-anedig yn erbyn ei hewyllys. Mae un arall yn achub ar gyfleoedd newydd ac yn hwylio bant ar dancer LGP gyda chriw o ddynion. Mae trydedd yn datgan ei hunaniaeth rywiol. Mae pedwaredd yn sefydlu busnes yn ei chegin sy'n lansio brand rhyngwladol. Mae'r straeon hyn am uchelgais ac antur, mamolaeth a phriodas yn dorcalonnus, yn ddigrif ac yn onest yn eu tro.
Bydd y cyfranwyr, Carolyn Lewis 'The Sound of Water' a Kate Cleaver 'Firsts', ynghyd â golygydd y llyfr, Rebecca F. John, yn sgwrsio â Dr Alan Bilton, awdur ac Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Kate Cleaver
Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd sy'n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilio i fywydau pobl gyffredin a gafodd eu carcharu yng Ngwallgofdy Llansawel, Vernon House. Mae hi wedi dechrau creu straeon ac wedi canfod bod cysylltu ei straeon â ffeithiau hanesyddol yn ffordd o adfywio pobl o'r gorffennol; mae hi'n gofyn a oes modd ail-greu'r ysbrydion hyn drwy straeon a hanes creadigol. Yn 2019, cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau New Welsh Writing ac mae ei hunangofiant, 'Just So You Know', newydd gael ei gyhoeddi gan Parthian.
Carolyn Lewis
Ganwyd Carolyn yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn antholegau blaenorol Honno. Cafodd ei nofel gyntaf, Missing Nancy, ei chyhoeddi gan Accent Press yn 2008. Enillodd ei MPhil mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach). Mae ei straeon wedi ennill gwobrau cenedlaethol a lleol ac wedi cael eu cyhoeddi yn The New Welsh Review, Mslexia a Route Magazine ymysg eraill. Mae hi wedi gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol am flynyddoedd maith a chyhoeddwyd dau lyfr testun yn seiliedig ar ei dulliau addysgu. Ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu nofel newydd er mwyn ennill ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Rebecca F. John
Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, a chafodd ei magu ym Mhwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â TAR/AHO gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei straeon byrion wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, 'The Glove Maker's Numbers' ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The Sunday Times/EFG. Enillodd hi Wobr New Voices PEN International yn 2015. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Clowns's Shoes, drwy Parthian yn 2015. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent's Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Costa am y Nofel Gyntaf Orau. Yn 2022, bydd hi'n cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant gyda Firefly Press,yn ogystal ag ail nofel i oedolion, The Empty Greatcoat, a nofel fer, Fannie, gyda Gwasg Honno.
Patrick Jones a Susie Wild
Dydd Mercher 26ain Ionawr 2022 | 1yp-2yp
Creu Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe SA2 8PP
*Sylwch mai digwyddiad personol yw hwn.
Ymunwch â'r beirdd Patrick Jones a Susie Wild, sy'n gyn-fyfyrwyr o Abertawe, wrth iddynt ddarllen o'u casgliadau diweddaraf, 'Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) a 'Windfalls'.
Mae Patrick Jones yn awdur chwe drama, tri albwm gair llafar, naw llyfr barddoniaeth ac awdur geiriau'r caneuon ar yr albwm Even in Exile (James Dean Bradfield). Ar hyn o bryd, ef yw'r Awdur Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ac mae'n addasu ei ddrama o 2016, Before I Leave, i'w ffilmio. Cafodd ei eni yn Nhredegar, Cymru. Ei lyfr diweddaraf yw argraffiad arbennig o Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) i ddathlu 20 mlynedd ers ei gyhoeddi. Mae ganddo bedwar o blant a dwy gath ac mae'n byw wrth odre mynydd.
patrick-jones.info
twitter: @heretic101
FUSE / FRACTURE (POEMS 2001-2021):
Argraffiad i ddathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi’r casgliad, â rhagair gan James Dean Bradfield. Drwy'r galarganeuon, y caneuon protest a'r rhyfelgrïoedd hyn, mae Jones yn annerch ac yn siarad ar ran y rhai ar yr ymylon, gan dystio i faterion cyfoes a gwleidyddol. Mae 28 cerdd newydd hefyd yn ymdrin â materion personol; cânt eu haflonyddu gan ysbrydion y byw a'r meirwon. Dyma fap o greithiau lle trigai cariad unwaith.
Mae Susie Wild yn awdur dwy flodeugerdd, Windfalls a Better Houses, y casgliad o straeon byrion, The Art of Contraception, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Edge Hill, a'r nofel fer, Arrivals. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar yn Poetry Wales, ym mhrosiect y pandemig Carol Ann Duffy, Write Where We are Now, The Atlantic Review ac Ink, Sweat & Tears. Mae hi hefyd yn Olygydd Cyhoeddi yn Parthian Books, gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen. Ar hyn o bryd, mae'n byw mewn croglofft ar rodfa ddeiliog yng Nghaerdydd.
http://susiewild.blogspot.com
twitter: @Soozerama
WINDFALLS:
Yn Windfalls, mae Wild yn ysgrifennu am ffrwythau wedi'u bwrw i'r ddaear gan y gwynt, am enillion annisgwyl a heb eu hennill sy'n adnewyddu harddwch a llawenydd bywyd. Dyma straeon hefyd am arwresau sy'n cwympo neu'n neidio o bedestal, gan fentro mewn byd sydd yn aml yn beryglus i fenywod, ond yn gwrthod bodloni ar fywyd confensiynol. Mae Wild yn parhau i gyflwyno ei safbwynt anghyffredin a ffres ar fywyd, boed drwy ddadansoddi'r byd domestig, gwleidyddol neu amgylcheddol.
Digwiddadau 2021
'Voice and Form in Contemporary Fiction: Women Authors from Wales and Europe in conversation'
Dydd Iau 4 Tachwedd, 6:30pm – 7:30pm GMT
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn lle bydd pum awdur benywaidd uchel eu parch o Gymru ac Ewrop yn trafod ac yn darllen eu gwaith. Bydd Rebecca F. John, Caryl Lewis ac Efa Lois (Cymru) yn dod ynghyd â Nora Ikstena (Latfia) ac Alena Mornštajnová (Gweriniaeth Tsiec) i archwilio dulliau o ffuglennu hanes ac ysgrifennu am deulu, cymuned a lle.
Cadeirydd: Dr Kathryn Jones
Panelwyr:
Nora Ikstena yw un o'r awduron rhyddiaith mwyaf amlwg a dylanwadol Latfia. Ar ôl ennill gradd mewn Athroniaeth o Brifysgol Latfia ym 1992, aeth i astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Columbia. Mae Nora Ikstena yn aml yn myfyrio ar fywyd, cariad, marwolaeth a ffydd yn ei rhyddiaith. Soviet Milk (2015, oedd ar restr fer Gwobr Llenyddiaeth Flynyddol am ryddiaith orau a'i chyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys Japaneeg, Almaeneg, Croateg, Saesneg, Hwngari, Eidaleg a Rwseg), Besa (2012), Celebration of Life (1998, wedi'i gyfieithu i Norwyeg, Eidaleg, Daneg, Sweden), a The Virgin's Lesson (2001) yw rhai o'i nofelau a werthfawrogir ehangaf. Mae'r nofel Amour Fou wedi'i haddasu ar gyfer theatr a'i chyhoeddi yn Rwseg (2010). Mae Ikstena hefyd yn awdur toreithiog ar ffuglen fywgraffyddol, ffeithiol, sgriptiau, traethodau a chasgliadau o ryddiaith byr. Mae hi’n cyfrannu’n fywiog ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Latfia ac yn gyd-sylfaenydd y International Writers and Translators’ House yn Ventspils. Yn 2006, derbyniodd Wobr Cynulliad Baltig mewn llenyddiaeth.
Mae Alena Mornštajnová yn athrawes Saesneg, cyfieithydd ac awdur pum nofel lwyddiannus. Mae ei nofel ddiweddaraf, Tiché roky (Blynyddoedd o Dawelwch, 2019), wedi cadarnhau ei safle fel nofelydd uchel ei pharch, boblogaidd gyda mwy na 500,000 o gopïau o’i llyfrau wedi’u gwerthu yn y Weriniaeth Tsiec yn unig. Mae hawliau ar gyfer ei nofel fwyaf llwyddiannus Hana wedi cael eu gwerthu i bedair gwlad ar bymtheg gan gynnwys y Deyrnas Unedig, Awstria, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Yr Iseldiroedd a Rwsia.
Ganwyd Rebecca F. John ym 1986, ac fe’i magwyd yn Pwll, pentref bach ar arfordir de Cymru. Mae ganddi BA mewn Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â PCET TAR o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei straeon byrion wedi'u darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, roedd ei stori fer ‘The Glove Maker’s Numbers’ ar restr fer Gwobr Stori Fer EFG y Sunday Times. Hi yw enillydd Gwobr Lleisiau Newydd Rhyngwladol PEN 2015. Cyhoeddwyd ei chasgliad stori fer gyntaf, Clown's Shoes, gyda Parthian yn 2015. Roedd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, (Serpent's Tail, 2017) ar restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Yn 2022, bydd yn cyhoeddi ei llyfr plant cyntaf gyda Firefly Press, yn ogystal ag ail nofel i oedolion, The Empty Greatcoat, a nofel fer, Fannie, gyda Honno.
Mae Efa Lois yn arlunydd ac awdur sy’n dod yn wreiddiol o Geredigion. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar chwedloniaeth, hanes menywod Cymru, a byd natur a phwysigrwydd ei warchod. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru yn 2020. Hi oedd arlunydd swyddogol Tafwyl yn 2018, 2019, 2020 a 2021. Mae ei gwaith arlunio wedi ymddangos yn Menywod Mentrus Cymru gan Cadw, Henriet y Syffrajet gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), 10 o Sir Benfro (Amgueddfa Narberth, 2021), ac Y Stori Orau gan Lleucu Roberts (Ennillydd y Fedal Ryddiaith 2021, Y Lolfa). Bydd ei darluniau hefyd yn ymddangos yn nghyfrol Jon Gower Cymry o Fri (Y Lolfa, 2021). Ar hyn o bryd mae hi wrthi'n gweithio ar ysgrifennu ac arlunio dwy gyfrol i blant.
Mae’r awdures Caryl Lewis wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ein ffuglen llenyddol a gwobr Tir na n-Og yn 2004 a 2015. Addaswyd ei nofel Martha, Jac a Sianco yn ffilm a enillodd 6 BAFTA Cymru a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl, Gŵyl Cyfryngau Celtaidd yn 2010. Mae ei gwaith yn cael ei astudio fel rhan o’r cwricwlwm addysg ac mae hi’n sgrin-awdur llwyddiannus (yn gweithio ar ddramâu BBC/S4C Y Gwyll a Craith). Bydd ei nofel Saesneg gyntaf, DRIFT yn cael ei chyhoeddi gan Penguin yn Ebrill 2022 a Seed, ei nofel Saesneg gyntaf ar gyfer darllenwyr 8+ yn cael ei gyhoeddi gan MacMillan Uk a MacMillan US yn Mai 2022. Mae hi’n byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth.
Mae Dr Kathryn Jones yn Athrawes Gyswllt Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n cadeirio’r panel cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd Modern cyfrwng Cymraeg. Mae hi wedi cyhoeddi ym meysydd diwylliant cyfoes Ffrengig ac Almaenig, awduresau Ffrangeg ôl-wladychol ac awduresau taith, astudiaethau gwrthdaro ac astudiaethau cof. Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, Hidden Text, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in Travel Writing in French and German (1780-2018), a ysgrifennodd gyda Carol Tully a Heather Williams, gan Wasg Prifysgol Lerpwl yn 2020.
Mae ‘European Writers' yn brosiect tymor hir gan EUNIC Llundain yr amcan yw hyrwyddo Llenyddiaeth Ewropeaidd yn y DG. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Ganolfan Tsiec Llundain, Llenyddiaeth Latfia a Llysgenhadaeth Latfia.
Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe.
Welsh English: Rob Penhallurick yn sgwrsio gyda Jonnie Robinson
Nos Iau 01 Gorffennaf
I ddathlu cyhoeddiad Welsh English (De Gruyter, 2020), gan Rob Penhallurick, Heli Paulasto a Benjamin Jones, bydd Rob yn trafod â Jonnie Robinson, Prif Guradur Saesneg Llafar yn y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y drafodaeth yn cynnwys amrywiaeth, hanes a statws cymdeithasol y Saesneg yng Nghymru, ynghyd â'r profiad o ysgrifennu'r trosolwg cynhwysfawr cyntaf hyd llyfr ar ymchwil i Saesneg llafar yng Nghymru. Yn ogystal, bydd Rob a Jonnie yn siarad am gydweithio'n barhaus gyda'r nod o warchod a hyrwyddo recordiadau sain hanesyddol Arolwg Tafodieithoedd y Saesneg yng Nghymru.
Welsh English: y gyfrol
Mae acenion a thafodieithoedd presennol Saesneg yng Nghymru yn ganlyniad cyfun newid iaith hanesyddol o'r Gymraeg i'r Saesneg, dwyieithrwydd parhaus, cysylltiadau agos rhwng Cymru a Lloegr a mewnfudo amlddiwylliannol. O ganlyniad, mae Saesneg Cymru yn amrywiaeth unigryw sy'n amrywiol yn rhanbarthol ac yn gymdeithasol-ieithyddol. Yn ogystal ag ymchwil bresennol, mae Welsh English yn defnyddio amrywiaeth eang o ddata corpws llafar a gasglwyd o bob rhan o Gymru er mwyn disgrifio ffonoleg, geirfa a gramadeg Saesneg yng Nghymru. Mae'n cynnwys trafodaeth am gyd-destunau cymdeithasol-ieithyddol a diwylliannol, a newid parhaus yn Saesneg Cymru. Mae'r llyfr yn ddealladwy i ddarllenwyr nad ydynt yn arbenigwyr, ond mae'n arbennig o ddefnyddiol i ysgolheigion, athrawon a myfyrwyr â diddordeb yn yr iaith Saesneg yng Nghymru, Prydain a'r byd. Mae'n cynnig adnodd heb ei ail am yr amrywiaeth hirsefydlog a bywiog hwn.
Mae Rob Penhallurick yn awdur Studying the English Language (2003, 2010, Palgrave Macmillan), Studying Dialect (2018, Palgrave Macmillan), ac wedi cyfrannu at Mouton World Atlas of Variation in English, yr Electronic World Atlas of Varieties of English (https://ewave-atlas.org), Language in the British Isles (Cambridge University Press), The Oxford History of English Lexicography a gweithiau blaenllaw eraill ar amrywiaeth yr Iaith Saesneg a'i hastudio. Mae wedi gweithio ar bedwar prif arolwg o dafodieithoedd Ewrop: Voices y BBC, Atlas Linguarum Europae, Arolwg Tafodieithoedd Saesneg ac Arolwg Tafodieithoedd y Saesneg yng Nghymru. Mae Rob hefyd yn guradur Archif Saesneg Cymru ac yn awdur dau fonograff a llawer o draethodau ar y Saesneg yng Nghymru.
Jonnie Robinson yw Prif Guradur Saesneg Llafar yn y Llyfrgell Brydeinig ac yn gyfrifol am archif helaeth y Llyfrgell o recordiadau sain o acenion a thafodieithoedd Prydain. Mae ef wedi bod yn ffodus i weithio’n agos gyda recordiadau sain a grëwyd ar gyfer dau arolwg o dafodieithoedd rhanbarthol a gynhaliwyd ar draws Prydain gyfan sef Survey of English Dialects a BBC Voices ac, yn 2010, bu’n gyd-guradur arddangosfa fawr gyntaf y byd am yr iaith Saesneg, sef Evolving English: One Language, Many Voices. Ymhlith ei lyfrau mae East Midlands English (de Gruyter, 2018 gyda Natalie Braber) ac A Thesaurus of English Dialect and Slang (CUP, 2021).
Marianne Tuckman yn sgwrsio gyda David Britton
Marianne Tuckman yn sgwrsio gyda David Britton
19eg Mai 2021 | 7yh-8:30yh
Sgrinio, trafodaeth ac yna Holi ac Ateb
Crynodeb:
Yn rhyfedd, mae cartref menyw wedi dod yn frwnt iawn. Yn fochaidd, mewn gwirionedd. Yn llawn ofn, mae hi’n ffonio ei glanhawr, pync sydd ar fin cael ei hel allan o’i thŷ, i ddod i helpu, ond er gwaethaf eu holl ymdrechion, mae’r tŷ yn mynd yn fwyfwy brwnt... Yfory, roedd hi wedi cynllunio cael plant a chwarae gyda nhw. Tybed a fydd hyn yn bosibl?
Themâu:
Y cwestiwn rydw i’n ei ofyn yn y prosiect hwn yw: os bydd grymoedd o’r tu allan megis newid yn yr hinsawdd yn ymwthio i gartref ac yn ei ddifwyno, sut mae ein gweledigaeth o’r dyfodol yn newid? Trafodir cwestiwn llosg sy’n wynebu fy nghenhedlaeth i: ydy cael plant yn dal i fod yn opsiwn?
BYWGRAFFEG:
Mae Marianne yn berfformiwr, yn ddyfeisiwr, yn artist dawns ac yn ysgrifennwr sy’n byw rhwng Berlin a’r DU lle mae hi’n astudio MPhil ymchwil mewn ysgrifennu creadigol (Prifysgol Abertawe), gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng testunau a pherfformiadau byw ymgorfforedig.
Ei chenhadaeth: gwneud i eiriau chwysu.
Ei dull: caru drwy sgwrsio.
Cyfathrebu straeon sy’n ysgogi Marianne i greu gwaith sy’n cyfuno hiwmor, trosiadau barddonol, dawnsio gyddfol a.... sgwrsio.
Yn gyffredinol, mae Marianne yn awdur neu’n gydawdur i brosiectau y mae hi’n eu perfformio eu hunan ac mae hi wedi cyflwyno gwaith mewn lleoliadau gan gynnwys Neuadd Gyngerdd Megaron Athens, Vorspiel -CTM - Gŵyl Transmediale (Berlin), Theatr y Blue Elephant (Llundain), Hasta Trilce (Buenos Aires) a’r Arts Printing House (Vilnius). Mae hi wedi gweithio'n berfformiwr yn Theatr Genedlaethol Reinickendorf (Vinge/ Muller, Berliner Festspieler), Manque La Banca (ffilm), 12 Days (Film 4), Punderson Gardens (ymgyrch Nadolig Arket) a João Cidade (theatr ddawns) ymhlith eraill.
Gwyliwch y rhagolwg: https://youtu.be/IdD_V40AkrM
Digwyddiad Lansio Elizabeth Montagu Correspondence Online (EMCO): Cam 2 (llythyrau gan Elizabeth Montagu at y bardd a'r athronydd, James Beattie, a delweddau o Lyfrgell Huntington)
Digwyddiad Lansio Elizabeth Montagu Correspondence Online (EMCO): Cam 2 (llythyrau gan Elizabeth Montagu at y bardd a'r athronydd, James Beattie, a delweddau o Lyfrgell Huntington)
Dydd Llun 10 Mai | 3:30yp-4:30yp
Ymunwch â ni am ddigwyddiad lansio Cam 2 Elizabeth Montagu Correspondence Online (EMCO) (llythyrau gan Elizabeth Montagu at y bardd a'r athronydd, James Beattie, a delweddau o Lyfrgell Huntington) gyda'r Athro Nicole Pohl, yr Athro Caroline Franklin, Dr Elizabeth Eger, Dr Joost Hengstmenge, Joanna Barker, Dr Anna Senkiw, Dr Jack Orchard ac Alexander Roberts. Bydd y panel yn dangos y cynnwys a’r nodweddion sydd ar gael ar wefan y prosiect i ysgolheigion gohebiaeth y 18fed ganrif ac yn archwilio amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y berthynas rhwng James Beattie ac Elizabeth Montague, James Beattie a'i danysgrifwyr ac arwyddocâd Oes y Goleuo yn yr Iseldiroedd. Yn ogystal, bydd y prosiect yn cyflwyno copïau ffacsimili, sydd ar gael am ddim am y tro cyntaf, o dros 3,000 o lythyrau o archif Huntington.
Mae'r Athro Nicole Pohl (Prifysgol Oxford Brookes), Prif Olygydd EMCO, yn gweithio ar lenyddiaeth Saesneg y deunawfed ganrif gyda diddordeb penodol mewn llythyron a llenyddiaeth menywod. Mae wedi cyhoeddi a golygu llyfrau ar ysgrifennu iwtopaidd menywod yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r deunawfed ganrif, salonau Ewropeaidd ac epistolaidd.
Yr Athro Caroline Franklin yw Prif Ymchwilydd EMCO. Graddiodd o Brifysgolion Llundain a Chaerdydd, ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Saesneg. Mae'n arbenigwr ar lenyddiaeth y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda diddordeb arbennig mewn ysgrifennu gan fenywod.
Joanna Barker (Prifysgol Durham), Cymrawd Ymchwil Er Anrhydedd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar a Rheolwr Prosiect EMCO, sefydlodd ymddiriedolaeth elusennol Elizabeth Montagu’s Correspondence Online (EMCO), gan arwain at brosiect EMCO.
Mae ymchwil Dr Elizabeth Eger (Coleg y Brenin, Llundain), Golygydd Ymgynghorol EMCO, yn perthyn i faes hanes diwylliannol rhyngddisgyblaethol y 18fed ganrif hir. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn ysgrifennu gan fenywod, barddoniaeth, diwylliant gweledol a hanes cysyniadol 'moethusrwydd'.
Mae Dr Joost Hengstmengel yn gyfarwyddwr academaidd Sefydliad Economeg a Diwinyddiaeth Erasmus ym Mhrifysgol Erasmus Rotterdam ac mae'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Diwinyddiaeth Kampen, Yr Iseldiroedd.
Mae Dr Anna Louise Senkiw (Prifysgol Oxford Brookes), Cynorthwy-ydd Ymchwil EMCO, newydd gwblhau ei thraethawd ymchwil o'r enw “Made in the Media: Actresses, Celebrity and the Periodical Press in the Late Eighteenth-Century” dan arweiniad yr Athro Ros Ballaster ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae wrthi'n ei droi'n llyfr.
Yn ddiweddar mae Dr Jack Orchard (Prifysgol Abertawe), Cynorthwy-ydd Ymchwil EMCO, wedi cwblhau ei draethawd ymchwil PhD ar “Reading and Sociability in the Correspondence Networks of Elizabeth Montagu and Friends” drwy Ddyfarniad Doethurol ar y Cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Electronic Enlightenment (EE) yn Llyfgell Bodleian, Rhydychen.
Mae Alexander Roberts yn Rheolwr Ymchwil Ddata a’r Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ymgynghorydd Technegol a Datblygwr EMCO. Mae ganddo gefndir ym maes Ethnogerddoreg a phrofiad eang o gadwraeth ac ysgoloriaeth ddigidol ac mae wedi cyd-ddatblygu rhifynnau digidol blaenorol gan gynnwys The Poems of Guto’r Glyn a The Works of Dafydd ap Gwilym.
'Many Rivers to Cross:' Dylan Moore mewn sgwrs â Jon Gower
Nos Iau 29ain Ebrill
Many Rivers to Cross yw nofel gyntaf Dylan Moore, golygydd the welsh agenda sy’n un o Gymrodorion Rhyngwladol Gŵyl y Gelli. Mae'r nofel, a ysgrifennwyd yn dilyn cyfnod yn gwirfoddoli mewn prosiect yng Nghasnewydd, The Sanctuary, ac sy'n seiliedig yn rhannol ar gyfweliadau â cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn olrhain cyfres o deithiau - symudiadau ar draws amser a lle - o strydoedd Pillgwenlly yng Nghasnewydd i wersyll y 'Jyngl' yn Calais, ac o Ethiopia i ynys Lampedusa.
Am y Awdur
Mae Dylan Moore wedi gweithio fel golygydd cylchgrawn, athro ysgol gyfun, gweithiwr cymorth ffoaduriaid a'r tu ôl i'r cownter mewn siop sglodion. Roedd ei lyfr cyntaf, Driving Home Both Ways, yn gasgliad o ysgrifau am deithio; mae ei waith newyddiadurol wedi ymddangos yn Lonley Planet, Vanity Fair, Times Educational Supplement ac ar BBC Radio 4. Mae'n un o Gymrodorion Rhyngwladol Gŵyl y Gelli.
Cultural Institute 'Cyfres Salon Llenyddol'
'Child Holocaust Survivors': Stories and Silences - Dr Rebecca Clifford
Dydd Mercher 28ain Ebrill
Pa amgylchiadau sy'n dylanwadu ar yr hyn y gallwn ei ddweud a'r hyn na allwn ei ddweud wrth adrodd straeon ein bywydau? Yn y sgwrs hon, bydd Rebecca Clifford yn archwilio 75 o flynyddoedd o hanes llafar gyda phobl a oroesodd yr holocost pan oeddent yn blant, gan ystyried sut mae'r goroeswyr hyn wedi adrodd eu straeon mewn cyd-destunau hanesyddol newidiol drwy'r ugeinfed ganrif ac ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Bydd hi'n archwilio'r cysylltiad rhwng gweithredoedd siarad ac atgofion diweddarach. Bydd y sgwrs hon o ddiddordeb, nid yn unig i athrawon a myfyrwyr sy’n astudio’r Holocost, ond hefyd i bawb sydd â diddordeb mewn adrodd straeon, hanes llafar, a'r cwestiwn sut rydym yn gwneud synnwyr o'n hatgofion cynharaf.
Mae Rebecca Clifford, yn Athro Cysylltiol mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei llyfr diweddaraf am fywydau ar ôl y rhyfel plant a oroesodd yr Holocost, Survivors: Children's Lives After the Holocaust (Yale University Press 2020), wedi cael ei enwebu am wobrau llyfrau ffeithiol gorau Prydain, ei gynnwys ar restr hir Gwobr Lenyddol Wingate ac wedi'i enwi'n un o Lyfrau’r Flwyddyn 2020 gan The Telegraph. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio ar lyfr am blant 'Lingfield', grŵp o blant a oroesodd y daethpwyd â nhw i Brydain ym 1945 a 1946, y gofalwyd amdanynt ac arsylwyd yn agos arnynt gan Anna Freud a'i chylch o seicdreiddwyr. Ariannwyd ei hymchwil ddiweddar gan yr Academi Brydeinig, Ymddiriedolaeth Leverhulme a Sefydliad Addysgol yr Holocost.
UCL Centre for Holocaust Education
'Cult Cinema': Howard David Ingham mewn sgwrs â Eve Elizabeth Moriarty
Nos Iau 25 Mawrth
Mae Howard David Ingham (awdur We Don't Go Back: A Watcher's Guide to Folk Horror a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Bram Stoker) yn falch o gyhoeddi lansiad ei lyfr newydd, CULT CINEMA: A Personal exploration of Sects, Brainwashing and Bad Religion in Film and Television.
'Somos Sacrificables': Natural Resources, Sustainability & the Clean Economy - Oliver Balch
Nos Iau 11eg Mawrth
Cyflwynwyd gan Dr Lloyd Davies
Mae hanes echdynnu adnoddau yn Ne America fel stori hynafol. Yn ystod y degawdau diweddar gwelwyd pennod newydd yn agor wrth i lywodraethau'r rhanbarth geisio ailgyflwyno echdyniaeth fel peiriant datblygu domestig. Mae'n bosib iawn y bydd y datblygiad neo-echdyniaeth hwn yn creu buddion macro-economaidd a micro-economaidd ar gyfer y gwledydd sy'n ei fabwysiadu, ond mae costau cymdeithasol ac amgylcheddol uchel ynghlwm wrtho hefyd. Mae effeithiau cloddio am lithiwm yn enghraifft amserol a pherthnasol. Mae'r cynnydd aruthrol yn y galw am fatris ïonau lithiwm yn sbarduno datblygiad ar garlam y diwydiant mwyngloddio yn rhanbarth bregus Atacama Tsile, yr Ariannin a Bolifia. I sicrhau cyflenwad Ewropeaidd, mae cynlluniau ar y gweill i ehangu cynhyrchu lithiwm i Bortiwgal. Gan ystyried y rhuthr hwn am 'olew gwyn’, bydd y gweminar hwn yn archwilio tri chwestiwn craidd: beth yw costau neo-echdyniaeth yn Ne America, sut caiff y rhain eu cyfiawnhau a beth (os oes rhywbeth) y gellir ei wneud i wrthsefyll?
Mae Oliver Balch yn newyddiadurwr annibynnol sy'n arbenigo yn rôl busnes mewn cymdeithas. Mae'n byw ym Mhortiwgal ar hyn o bryd ac yn cyfrannu'n rheolaidd at The Guardian, The Times a'r FT, yn ogystal â chyfryngau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol. Cwblhaodd Oliver PhD yng Nghanolfan Astudiaethau Lladin-Americanaidd Prifysgol Caergrawnt yn 2018, gan ganolbwyntio ar rôl moeseg gorfforaethol, buddsoddiad tramor a neo-echdyniaeth (neo extractivism) yn Wrwgwái. Oliver yw awdur tri llyfr teithio, gan gynnwys Viva South America! Mae ei lyfr diweddaraf yn canolbwyntio ar Amasonia.
www.oliverbalch.com
'Dathliad Barddoniaeth Rhyngwladol Diwrnod y Merched' - Lizzie Fincham a Natalie Ann Holborow
Dydd Llun 8fed Mawrth
Contained in Ice gan Lizzie Fincham
Teimladwy, cain ac amserol, mae synhwyrau craff a rhythmau imagistaidd Lizzie Fincham yn rhoi cipolwg i ni o dan arwyneb bywyd, i'r cysylltiadau dyfnach. A phob amser yn rhedeg drwy'r harddwch a’r delweddau sy’n dwyn byd natur i gof naturiol, y mae rhybuddion: 'The woods are turning to smoke'; 'As it always has, the bell tolls'… mae sensitifrwydd y farddoniaeth yn cuddio pwysigrwydd y themâu: y colledion a'r gobaith - mae Contained in Ice yn cynnwys 'yr holl bethau bychain. a'r holl bethau mawr.'
Small gan Natalie Ann Holborow
Mae gan bawb eu hoff ddemoniaid. Wedi'i wau drwy gerddi am fytholeg, ffigurau llenyddol a glannau estron, ni all yr adroddwr ddianc rhag ei demon mwyaf oll: y demon cawraidd Small. Drwy iaith gignoeth a gonest, mae natur guddiedig byw gydag anhwylder bwyta yn cael ei llusgo i'r awyr agored a rhoddir iddi ffurf gorfforol a llais. Drwy berthnasoedd sy'n chwalu, amserau bath, tanbeidrwydd byddarol Delhi a chlosrwydd ystafelloedd aros ysbytai, mae Small yno yn swatio'n slei ar ysgwyddau menyw sy'n rhedeg am filltiroedd i ddianc - ond yn cael ei phlagio byth a beunydd gan gysgod sy'n llawer mwy na'i un ei hun.
Bywgraffiadau'r Awduron
Mae Lizzie Fincham, a anwyd ym mro Gŵyr, yn astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae 80 o'i cherddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a chasgliadau amrywiol, gan gynnwys New Welsh Review, Poetry Wales, North, French Literary Review, New Zealand Review. Mae Lizzie wedi cyrraedd rhestrau byr llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr nodedig y Bridport Prize am farddoniaeth deirgwaith. Yn 2017 dyfarnwyd y wobr gyntaf iddi am Brexit Blues yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Brighton. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Green Figs and Blue Jazz, gan Cinnamon Press yn 2017. Cyhoeddwyd ei phamffled diweddaraf, Contained in Ice, gan Cinnamon Press yn 2020.
Mae Natalie Ann Holborow yn ysgrifennwr arobryn y cafodd ei chasgliad cyntaf, And Suddenly You Find Yourself, ei lansio yng Ngŵyl Lenyddol Ryngwladol Kolkata a'i chynnwys yn rhestr 'Goreuon 2017' Wales Arts Review. Mae hi'n gyd-awdur yr antholeg Cheval. Enillydd Gwobr Terry Hetherington 2015 ac ymgeisydd ar restr fer cystadleuaeth y Gair Llafar Cursed Murphy, cyhoeddwyd ei hail lyfr Small (Parthian) a phamffled cydweithredol gyda Mari Ellis Dunning, The Wrong Side of the Looking Glass (Black Rabbit Press), yn 2020.
'The New Face of Russian Literature' - Yr Athro Aleksey Varlamov
Dydd Mercher 17eg Chwefror
BYDD Y DIGWYDDIAD HON YN CAEL EI CARU ALLAN YN Y CANOLIG RWSIAIDD, GYDA CYFIEITHU SAESNEG SYML
Mae llenyddiaeth Rwsieg yn mynd drwy gyfnod - sy'n unigryw yn ei hanes - o ryddid ac annibyniaeth lwyr ar yr awdurdodau. Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Aleksey Varlamov yn trafod tueddiadau newydd mewn llenyddiaeth Rwsieg, gan gynnwys rôl yr ysgrifennydd fel adroddwr straeon, yn hytrach na phroffwyd neu ideolegwr, yn ogystal â'r dirwedd lenyddol bresennol yn Rwsia. Bydd y pwyslais ar lenyddiaeth ffeithiol, gwaith bywgraffyddol a statws mudiadau megis Realaeth, Ôl-realaeth ac Ôl-foderniaeth. Trafodir hefyd i ba raddau y gallwn ddeall y presennol drwy weithiau Zakhar Prilepin, R Senchin, A Salnikov a Grigorij Sluzhitel.
Yr Athro Aleksey Varlamov yw Rheithor Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky, Moscow. Mae ef hefyd yn ysgrifennydd blaenllaw, yn gyhoeddwr ac yn ymchwilydd i hanes llenyddiaeth Rwsieg yr 20fed ganrif ac mae ei lyfrau wedi cael eu cyfieithu i sawl iaith.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
'Advent' - Jane Fraser
Nos Iau 11eg Chwefror
Crynodeb o Lyfrau
Gaeaf 1904, ac mae Ellen, 21 oed a llawn ysbryd, wedi cael ei galw yn ôl o'i bywyd newydd yn Hoboken, New Jersey, i ddychwelyd i fferm ei theulu ar benrhyn Gŵyr gwyntog, mewn ymgais olaf i achub bywyd ei thad alcoholig. Mae hi'n dychwelyd i deulu sydd mewn anhrefn llwyr. Wrth i’w iechyd ddirywio, mae William yn colli rhannau helaeth o dir y teulu Thomas drwy gamblo; yn rhwystredig, mae Eleanor yn galaru am y gŵr roedd yn ei adnabod ers talwm; ac mae brodyr iau Ellen - gefeilliaid - yn wynebu dewisiadau anodd. Yn ei hymdrech i roi trefn ar fywydau ei theulu, mae Ellen yn brwydo yn wyneb un penderfyniad amhosib ar ôl y llall. A hithau'n ddyfeisgar, yn angerddol ac yn ddi-flewyn ar dafod, a ddylai hi aros ym Mro Gŵyr lle mae cynifer o gyfyngiadau ar fywyd menyw o hyd? A fydd hi'n gallu dioddef bod mor agos at ei chariad coll? A fydd hi'n dewis cartref a dyletswydd, neu gyffro a chyfle, ochr draw'r Iwerydd?
Am y Awdur
Mae Jane Fraser, yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ar benrhyn Gŵyr, de Cymru, mewn tŷ sy'n wynebu'r môr. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer, 'The South Westerlies', gan SALT yn 2019. Bydd ei nofel gyntaf, 'Advent', yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2021 gan HONNO, y wasg annibynnol hynaf yn y DU sy'n arbenigo mewn ysgrifennu gan fenywod. Yn 2017, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Ffuglen Manceinion; ac yn 2018, bu ymhlith enillwyr Gwobr Fish Publishing am Hunangofiant. Graddiodd o Brifysgol Abertawe â gradd MA (rhagoriaeth) a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu'n un o Ysgrifenwyr wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2018 ac yn 2019. Mae hi'n fam-gu i Megan, Florence ac Alice.
www.janefraserwriter.com
Twitter @jfraserwriter
Mewn cysylltiad â Honno Press
‘Poetry of the 19th Century: Alexander S. Pushkin’ - yr Athro Elena A. Keshokova
5ed Chwefror 2021
Gelwid Alexander S. Pushkin yn “Sun of Russian Poetry” gan ei gyfoedion. Roedd gan y bardd dras ryfeddol. Roedd hen-dadcu ei fam, un o'r bobl fwyaf hyddysg ei gyfnod, yn ddisgynnydd teulu Abysinaidd tywysogaidd nodedig gan wasanaethu'n ffyddlon y Pedr Fawr, Tsar Rwsia. Mae cofiannau cyndeidiau Pushkin mor ddiddorol â nofelau'r 18fed a'r 19eg ganrif. Ysgrifennodd Pushkin:
My pride of blood I have subdued;
I'm but an unknown singer
Simply Pushkin, not Moussin,
My strength is mine, not from court:
I am a writer, a citizen.
Dywedodd yr ysgrifennwr blaenllaw o Rwsia, Ivan Turgenev, mai un o nodweddion arbennig barddoniaeth Pushkin oedd symlrwydd rhadlon a chlyfar. Yn ei ysgrifennu, roedd yn ymgysylltu mewn deialog greadigol foddhaus â beirdd y Gorllewin - Shakespeare, Voltaire, Byron, a Walter Scott yn eu plith.
Dylanwadodd barddoniaeth bolyffonig Pushkin yn helaeth ar nifer fawr o feirdd Rwsia gan greu iaith farddonol newydd. Roedd y bardd yn hanesydd effeithlon hefyd: gosododd ei arwyr o gynfyd Rwsia'r sylfeini ar gyfer y nofel hanesyddol Rwsiaidd.Helpodd disgrifiadau dynamig y bardd o gymeriadau amrywiol ei fywyd a'i oes i greu delwedd hynod animeiddiedig o Rwsia gan ei gwneud hi'n bosib i alw ei brif waith, Eugene Onegin, yn “wyddoniadur bywyd Rwsia". Bydd y ddarlith hefyd yn esbonio pam mae barddoniaeth Pushkin mor anodd i'w chyfieithu, a pham nad yw ei ysgrifennu wedi datblygu'n ddatguddiad i ddarllenwyr y Gorllewin.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
'The Book of Jem' - Carole Hailey
28ain Ionawr 2021
Crynodeb o Lyfrau
Yn sgîl nifer o ryfeloedd crefyddol trychinebus, mae Duw wedi’i wahardd. Wrth i’r eira gwympo, mae menyw ifanc – Jem – yn cyrraedd Underhill. Mae’r gymuned ddiarffordd ac ynysig yn rhoi lloches iddi, ond yn ddiarwybod iddyn nhw bydd hyn yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau fydd yn peryglu’u bodolaeth a’u heinioes. Mae Jem yn rhoi gwybod i’r gymuned bod Duw wedi’i hanfon i Underhill i baratoi’r pentrefwyr at gyflawni perwyl dinistriol ac ysgubol. Mae rhai o’r farn mai proffwyd yw hi ac maen nhw’n herio’r gyfraith er mwyn ymuno â’i chrefydd, sef Edafedd Duw. Mae pobl eraill yn bendant ei bod yn rhaffu celwyddau. Eileen yw’r gyntaf a’r selocaf ymhlith y ffyddloniaid, ac wrth iddi weld bod cymuned fregus y pentref yn dechrau dadfeilio, mae hi’n penderfynu cofnodi geni’r grefydd newydd hon yn ei Llyfr Jem ei hun. Wrth i ffyddloniaid Edafedd Duw ymgasglu i weld diwedd y byd, bydd y geiriau mae Eileen wedi’u hysgrifennu’n pennu ffawd Underhill a Jem ei hunan yn y pen draw. Ond oes modd ymddiried yn Eileen i ddweud y gwir? A sut gall unrhyw un wybod beth i’w gredu?
Am y Awdur
Wedi blynyddoedd o fethu ysgrifennu yng nghanol y nos, rhoddodd Carole Hailey y gorau i yrfa broffidiol fel cyfreithwraig i fod yn nofelydd tlawd. Wedi hynny, enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Goldsmiths ac yna ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020. Cafodd Carole ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Cystadleuaeth Bridport 2020 ac mae hi’n un o’r Awduron sy’n dod i’r brig a gafodd gymorth gan y London Library ar gyfer 2020/21. The Book of Jem yw ei nofel gyntaf.
Mewn cysylltiad â Watermark Press
'Crime Fiction and Legal Truth'
26ain Ionawr 2021
Yn y digwyddiad ar-lein arbennig hwn, bydd panel o arbenigwyr ym maes ffuglen droseddol, ysgrifennu nofelau cyffrous a'r Gyfraith yn trafod y croestoriad rhwng ffuglen droseddol a'r gwir cyfreithiol. Beth yw'r berthynas rhwng ffuglen droseddol a throsedd wirioneddol? I ba raddau y mae'n rhaid i'r awdur nofelau ditectif ddod yn arbenigwr cyfreithiol? Sesiwn llawn gwewyr sy'n canolbwyntio ar ffuglen droseddol Ewropeaidd yng nghwmni'r bargyfreithiwr amlwg a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, yr Athro Elwen Evans CB, ynghyd â Philip Gwynne Jones, a anwyd yn Abertawe sy'n awdur y nofelau trosedd hynod lwyddiannus "Nathan Sutherland" (a leolir yn Fenis) a'r cyfieithydd a'r golygydd Dr Kat Hall, arbenigwr mewn nofelau cyffrous Almaenaidd a chrëwr 'Mrs Peabody Investigates.' Mewn sgwrs â'r Athro D.J. Britton, Dramodydd a Phennaeth Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Y Panelwyr
Mae'r Athro Elwen Evans CB yn Ddirprwy Is-ganghellor ac yn Ddeon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am bortffolio Iaith a Diwylliant Cymraeg y Brifysgol.
Astudiodd Elwen y Gyfraith yng Ngholeg Girton Caergrawnt gan raddio â dosbarth cyntaf dwbl: M.A. (Cantab). Roedd hi'n ffodus i dderbyn amrywiaeth o ysgoloriaethau gan ei Choleg, ei Phrifysgol a'i chorff proffesiynol. Ar ôl graddio, mynychodd Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Frawdlys a chafodd ei galw i'r Bar yn Ysbyty Gray ym 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002. Mae Elwen wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn fel bargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae hi wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, gan arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif a phroffil uchel, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi'n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu'n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd, gan ymddiswyddo adeg ei phenodi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n Feinciwr yn ei Hysbyty, cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i'r Gyfraith yng Nghymru a bu'n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, cafodd ei chynnwys ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Ymunodd Elwen â Phrifysgol Abertawe yn 2015 pan gafodd ei phenodi'n Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg lle mae hi wedi cefnogi’r Coleg i dyfu a thrawsnewid yn ganolfan gyffrous a dynamig ar gyfer dysgu, addysgu, ymchwil, effaith ac ymgysylltu. Heddiw, cydnabyddir bod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol ar flaen y gad o ran arloesi ym maes addysg ac ymarfer y gyfraith.
Ym mis Hydref 2020, penodwyd Elwen i'w rôl newydd - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Ganwyd Philip Gwynne Jones yn Abertawe ym 1966, a bellach mae ef yn gweithio fel ysgrifennydd, athro a chyfieithydd yn Fenis. Ei nofel gyntaf, 'The Venetian Game', oedd Nofel Gyffrous Waterstones y Mis ar gyfer mis Mawrth 2018, a nofel lwyddiannus ymhlith y 5 Orau yn ôl y Times.Mae ei nofel ddiweddaraf, 'Venetian Gothic' bellach ar gael, ac mae pedair nofel ychwanegol ar y gweill.Mae ef wedi ysgrifennu ar gyfer y Sunday Times a'r Big Issue, ac mae ef yn westai cyson ar BBC Radio Wales. Yn ei amser hamdden mae ef yn mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol ac opera; ac yn achlysurol gellir ei weld a'i glywed yn canu bas gyda'r Cantori Veneziani. Cyhoeddwyd Philip gan Little, Brown dan yr argraffnod Constable.
Mae Dr Kat Hall yn gyfieithydd ac yn olygydd. Mae hi'n Gyswllt Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu'n gweithio fel darlithydd am flynyddoedd lawer. Mae hi'n olygydd Crime Fiction in German: Der Krimi (UWP 2016) ac mae'n cynnal y blog ditectif ‘Mrs Peabody Investigates’. Ar hyn o bryd, mae hi'n cyfieithu Punishment gan Ferdinand von Schirach, bargyfreithiwr o'r Almaen sydd bellach yn nofelydd ditectif.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov
‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov
Dydd Mercher 20fed Ionawr | 2yp-4yp
Gwnaed yr addasiad cyntaf ar y sgrin o “Anna Karenina” ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ers hynny mae’r nofel Rwsiaidd hon wedi dod yn un o’r ffynonellau mwyaf poblogaidd i ffilmwyr ledled y byd gymryd ysbrydoliaeth ohoni. Roedd yr actoresau harddaf a mwyaf chwedlonol ynghlwm wrth roi gwedd weledol i’r cymeriad trawiadol a dioddefus hwnnw a grëwyd gan Leo Tolstoy bron i ganrif a hanner yn ôl. Yn ystod ein sgwrs byddwn ni’n ceisio deall beth yw’r rhesymau sy’n esbonio pam mae’r atyniad wedi parhau cyhyd ac i wneud hyn, byddwn ni’n cymharu fersiynau gwahanol o'r ffilm â’i gilydd ac yna â’r nofel ei hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
'Max Porter on Myth, Hybridity and Voice'
Dydd Iau 14eg Ionawr
Yn ystod y digwyddiad ar-lein arbennig hwn bydd Max Porter yn siarad am ei yrfa fel golygydd, gwerthwr llyfrau ac ysgrifennydd o Brydain a dderbyniodd glod gan feirniaid, cyn trafod newidiadau yn ffurf y nofel Seisnig, mythau a ffurfiau modern, ei waith mwyaf poblogaidd a’i ymagwedd at ysgrifennu a’r berthynas rhwng llenyddiaeth a llythrennedd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau arbennig gan Max o’i waith arobryn Grief is the Thing with Feathers a Lanny, yn ogystal â’i lyfr newydd The Death of Francis Bacon, 'an attempt to write as painting, not about it'.
Mewn sgwrs â Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r awdur arobryn, Max Porter, yn un o ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol ac arloesol Prydain. Enillodd nofel gyntaf Max, Grief Is the Thing with Feathers, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas, Wobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times/Peters, Fraser + Dunlop, Europese Literatuurprijs a Gwobr Darllenwyr BAMB. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian a Gwobr Goldsmiths. Cafodd ei chyfieithu i 29 o ieithoedd. Bu addasiad llwyfan Enda Walsh gyda Cillian Murphy yn y brif rôl ar daith yn 2019. Roedd ail nofel Max, Lanny (Faber 2019) yn un o ddeg gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Booker 2019. Bydd ei drydydd llyfr y mae disgwyl mawr amdano, The Death of Francis Bacon, yn cael ei gyhoeddi gan Faber ym mis Ionawr 2021. Mae Max yn byw yng Nghaerfaddon gyda’i deulu.
‘It’s hard to express how much I loved Lanny. Books this good don’t come along very often. It’s a novel like no other, an exhilarating, disquieting, joyous read. It will reach into your chest and take hold of your heart. It’s a novel to press into the hands of everyone you know and say, read this.’ - MAGGIE O’FARRELL
A luminous reading experience - (Grief is the Thing with Feathers) (TLS)
An agile, life-affirming account of mourning. (Grief is the Thing with Feathers) (Sunday Times)
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
Digwiddadau 2020
The Annual Richard Burton Lecture: 'Imperial Intimacies: A Tale of Two Islands - Prof Hazel V. Carby'
10fed Rhagfyr 2020
Traddodir Darlith Flynyddol Richard Burton eleni gan yr Athro Hazel V. Carby: beirniad diwylliannol blaenllaw, arloeswr ym meysydd ffeministiaeth ddu, amlddiwylliannedd ym Mhrydain ac astudiaethau Affro-Americanaidd. Mae'r Athro Carby yn gyd-awdur The Empire Strikes Back ac yn awdur Cultures in Babylon: Black Britain and African America, Race Men, a Reconstructing Womanhood. Bellach yn Athro Emeritws, bu’n dysgu am ddeng mlynedd ar hugain ym Mhrifysgol Iâl fel Athro Charles C a Dorothea S Dilley ym meysydd Astudiaethau Affro-Americanaidd ac Astudiaethau Americanaidd.
Yn ei llyfr diweddaraf, Imperial Intimacies: A Tale of Two Islands, mae Carby yn symud rhwng y presennol a'r gorffennol, gan ddilyn llinynnau teuluol a hanesyddol ei thad o Jamaica a'i mam o Gymru, gan osod ei bywyd ei hun o fewn hanes ehangach yr Ymerodraeth ac economi’r gaethfasnach drawsatlantig. Fe gyhoeddwyd yn ddiweddar fod y gyfrol wedi ennill Gwobr Nayef Al-Rodhan ar yr Academi Brydeinig.
Bydd yr Athro Carby yn darllen o Imperial Intimacies cyn trafod ei bywyd a’i gyrfa mewn sgwrs gyda’r Athro Daniel G. Williams, cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.
‘Margery Kempe’s Spiritual Medicine' - Laura Kalas
9fed Rhagfyr 2020
Margery Kempe, a aned ym 1373, yw'r fenyw gyntaf hysbys i ysgrifennu hunangofiant yn yr iaith Saesneg. A hithau’n fenyw weledigaethol, afieithus, yn afreolus yn aml, a fu'n byw yn y gymuned leyg, nid oedd ei ffurf arbennig ar ysbrydolrwydd bob amser yn cael ei chymeradwyo mewn amgylchedd diwylliannol a oedd yn aml yn tybio bod mynegiant 'gormodol' gan fenyw yn annormaledd neu'n heresi. Margery Kempe’s Spiritual Medicine: Suffering, Transformation and the Life-Course (D.S. Brewer) yw'r astudiaeth lawn gyntaf o The Book of Margery Kempe o safbwynt y dyniaethau meddygol. Gan harneisio'r syniad canoloesol hollbresennol o Grist y Meddyg, mae'n cynnig ffordd newydd o ddarllen y lyfr fel hanes ymgysylltiad personol Kempe â pharadeimau meddygol lle bu’n destun goddefol o’r blaen. Gan ganolbwyntio ar ryngweithiadau meddygaeth, cyfriniaeth ac atgenhedlu fel prosiect ffeministaidd, mae'r llyfr hwn yn ddarlun eang o gylch bywyd, gan archwilio ymwybyddiaeth barhaus Kempe am ei chorff cyfriniol a'u gwrthodiad i gyfaddawdu ar ei greddf i ddangos sut mae hi’n teimlo yn ddi-flewyn ar dafod.
Mae Laura Kalas yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi mewn sawl cyfnodolyn academaidd, wedi cyfrannu at The Literary Encyclopedia a chyhoeddi erthyglau yn The Conversation a The Independent. Mae ei gwaith ar y rysáit feddygol ar ddiwedd The Book of Margery Kempe wedi cael sylw yn The Guardian a'r BBC History Magazine. Margery Kempe’s Spiritual Medicine yw ei llyfr cyntaf.
Mewn cydweithrediad â Boydell and Brewer.
'The Murenger and Other Stories' - Jon Gower
3ydd Rhagfyr 2020
‘In Jon Gower's fifth collection of short fiction, he has unleashed a motley crew of rambunctious characters... These unique stories are a melting pot of wild imagination and inventive language, conjured up with a drop of magic realism, a hint of the surreal and a soupçon of fable.’ - Madeleine D’Arcy, awdur Waiting for the Bullet
Am yr Awdur
Mae Jon Gower yn awdur mwy na 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys The Story of Wales a fu’n gydymaith i gyfres drobwynt y BBC, An Island Called Smith a enillodd iddo Wobr Ysgrifennu Teithio John Morgan, ac Y Storïwr a enillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae’n gyn-ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau i BBC Cymru ac am flynyddoedd lawer, bu’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, First Hand. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Sarah a’i ferched Elena ac Onwy.
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
'Our Planet: Too Big to Fail' - Ffilm newydd wedi'i hysbrydoli gan gyfres 'Our Planet' Netflix
27ain Tachwedd 20202
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad ar-lein arbennig hwn sy'n cynnwys dangosiad o Our Planet: Too Big to Fail a sesiwn holi-ac-ateb gyda Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Bevis Watts a Rhiannon Shah
Cynhelir y digwyddiad gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr a Datblygu a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Wedi’i hysbrydoli gan gyfres wreiddiol Netflix Our Planet, mae Our Planet: Too Big To Fail yn archwilio peryglon diffyg gweithredu, effaith buddsoddi-yn-ôl-yr-arfer, a’r rôl hanfodol y gall y sector cyllid ei chwarae yn y frwydr dros ein byd. Mae'r ffilm yn cyfuno lluniau ysblennydd o'r byd naturiol o'r gyfres Our Planet gyda chyfweliadau pryfoclyd â rhai o'r enwau mwyaf dylanwadol yn y sector fel Syr David Attenborough, Mark Carney, Catherine Howarth, Gillian Tett a Chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Bevis Watts.
Croeso a chyflwyniad gan yr Athro Elwen Evans CB - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Bydd hefyd Sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Mike Buckle, Athro Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth - gyda Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Bevis Watts, Prif Swyddog Gweithredol yn Triodos Bank UK sy'n ymddangos yn y ffilm a Rhiannon Shah, Arweinydd Busnes ar Dîm Our Planet yn WWF-UK a helpodd ei chreu.
‘Entering the Yellow Hous' - Alan Bilton'
26ain Tachwedd 2020
Crynodeb o Lyfrau
Ganolbarth Rwsia, 1919, sanatoriwm a ynyswyd gan anhrefn rhyfel sifil Rwsia. Mae llofruddiaeth y prif feddyg yn cychwyn cyfres hunllefus o ddigwyddiadau gan gynnwys arbrofion dirgel, yr heddlu dirgel, dyblwr y Tsar, ‘ymwelydd’ llawn enigma, cyrff meirw enfawr, cathod cythreulig, dewindabaeth a gwallgofrwydd llethol rhyfel, yn y nofel hanesyddol ryfeddol a hynod o doreithiog hon.
Adolygiada
"A bold and confident novel that throws us into the deep end of post-revolutionary Russian life with fervour and wit. There are knowing nods to Gogol and Bulgakov but the voice is entirely original, with a gem of a phrase on every page. I love the quizzical, querulous, dry voice and it’s a satisfying whilst sometimes disorientating experience... the characters are larger than life, but the mud is real. Alan Bilton has a real talent for the unexpected left-hand turn, with lines that turn on a sixpence and surreal narrative twists. It reads like a very modern translation of a 19th century Russian classic – if that sounds like your kind of thing, you will love this book." - Mark Blayney
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
Gŵyl Bod yn Ddynol - Abertawe
12-22 Tachwedd 2020
'Amason Foesol: Stori Miss Amy Dillwyn'
6ed Tachwedd 2020
Wedi ei geni’n domboi yn Abertawe, De Cymru ym 1845, bu Amy Dillwyn yn chwilio am flynyddoedd am ystyr i’w bywyd. Yn fenyw ifanc effeithwyr Amy yn ddrwg gan nad oedd ei chyfaill Olive yn rhannu ei serch tuag ati ac hefyd gan y ffaith fod ganddi sawl uchelgais na wireddwyd. Yn ddiweddarach, myfyriodd ar ei phrofiadau mewn cyfres o nofelau a werthodd yn dda. Mae ‘Jill’, ‘The Rebecca Rioter’ ac ‘A Burglary’ yn weithiau difyr i’w darllen, a gyhoeddwyd gan Glasuron Honno.
Yn hwyrach yn ei bywyd byddai Amy yn dod yn ffigwr cyhoeddus enwog yng Nghymru ac yn ymddangos yn y wasg Brydeinig ac Americanaidd, yn cymryd awenau busnes ei thad, yn ymladd dros hawliau menywod ac yn sefyll am swydd gyhoeddus. Rydyn ni'n adrodd stori'r fenyw hynod hon, a'i hamheuon a'i hofnau wrth iddi frwydro am le ystyrlon yn y byd. Ond wnaeth hi byth anghofio ei gwir gariad, y ferch na fyddai’n ei charu’n ôl.
Portreadir Amy Dillwyn gan Helen Sandler (mewn gwisg)
Adroddwr: Jane Hoy
Cyflwynir Amason Foesol i chi gan Hanesion Byw Cymru o'n cyfres Hanesion Cwiyr o Gymru. Mae Hanesion Byw Cymru yn perfformio straeon am hanes pobl LGBTQ + yng Nghymru sydd yn aml yn gudd neu wedi eu hanwybyddu, mewn ffordd ddifyr a hygyrch. Mae ein sioeau wedi diddanu a phlesio cynulleidfaoedd ledled y DU gan gynnwys yn y Senedd yng Nghaerdydd, Amgueddfa’r Glannau Abertawe, Amgueddfa Brighton, Amgueddfa'r Bobl Manceinion, Amgueddfa Lerpwl, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, taith gerdded hanes yn Aberystwyth ar gyfer Amgueddfa Ceredigion ac yn fwyaf diweddar ar-lein ar gyfer Archif Menywod Cymru.
‘Cross Currents: The Fiction of History' - Dai Smith CBE
4ydd Tachwedd 2020
Mae Dai Smith yn adfyfyrio ar y cerrynt croes deallusol yn ei fywyd fel hanesydd a nofelydd wrth iddo lansio ei nofel ddiweddaraf, The Crossing, mewn sgwrs â Jon Gower.
Mae’r nofel yn adeiladu ar drioleg Dai ar hanes ffugiol De Cymru ddiwydiannol gan ei chwblhau. Mae The Crossing, polyffonig ac aml-leisiol, yn gymysgedd trawiadol a phryfoclyd o’r gwirionedd a’r dychmygol wrth gydblethu tynghedau unigol, rhai go iawn a rhai ffug, gyda cyfeiriad tynghedlon a ffurfiol cymdeithas.
Mae Dai bellach yn ysgrifennu gwaith creu atgofion nid yw’n hunangofiant nac yn gofiant yn ei farn ef ond, yn hytrach, y ddwy ffurf yn hongian yn yr atgof.
Mewn cysylltiad â PARTHIAN
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
'New World, New Beginnings' - Online Poetry Workshops
13eg Hydref 2020
Sut gall barddoniaeth ein helpu i gysylltu ag eraill a'r byd o'n cwmpas mewn cyfnod o ansicrwydd a phellter corfforol?
Darlith Amy Dillwyn 2020: 'Avatars: LGBT Storytelling by Amy Dillwyn'
8fed Hydref 2020
Cyflwynir gan CREW Prifysgol Abertawe (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) a'r Sefydliad Diwylliannol
Cyflwynir gan Norena Shopland
Yn ystod y sgwrs hon, bydd yr Athro Kirsti Bohata, yn cyflwyno’r ysgrifennwr o Abertawe, Amy Dillwyn, a’i ffuglen radical. Yn ei nofelau, mae Amy Dillwyn wedi creu ymgnawdoliadau gwrywaidd (troseddwyr gan amlaf) er mwyn caniatáu iddi archwilio hunaniaethau anneuaidd a chwennych lesbiaidd.
Yn hwyrach, daw’r ymgnawdoliadau hyn yn gymeriadau benywaidd (troseddwyr o hyd) sy’n meddiannu straeon gwrywaidd.
Mae’r sgwrs hon yn addas ar gyfer cynulleidfa gyffredinol ac mae croeso i bawb.
'Skirrid Hill' - Owen Sheers
3ydd Mehefin 2020
Mae Skirrid Hill yn amgylchynu dwy gerdd sef Y Gaer a The Hillfort, ac mae’r teitlau eu hunain yn awgrymu’r bwlch ieithyddol yng Nghymru, o gerddi sy’n ymwneud â phlentyndod, tirwedd a theulu Cymreig, i weledigaeth fwy allanol yn ddaearyddol ac yn hanesyddol.
Darlithoedd Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe: 'The Perseverance' - Raymond Antrobus
26ain Mai 2020
Noson arbennig o ddarlleniadau a sgwrsio gyda'r bardd Raymond Antrobus, enillydd Gwobr Ted Hughes 2019, Gwobr Ysgrifennwr Ifanc y Sunday Times a Gwobr Rathbones Folio am ei gasgliad cyntaf, The Perseverance. Trawiadol, heriol a hael, mae cerddi Antrobus yn symud drwy gyfandiroedd a hanes i greu casgliad syfrdanol llawn bywyd, empathi a chrefft sy'n ymdrin â materion megis byddardod, gwrywdod, dementia, hil a threftadaeth.