Angie Roberts photo

Mae Angie Roberts yn byw mewn hen felin lechi ger Caernarfon, ynghyd â llwyth o wenyn, ystlumod ac adar. Enillodd Wobr Tir na n’Og am y llyfr gorau i blant yn 2025, a’i henwebu ar gyfer gwobr Llyfr Y Flwyddyn. Ysgrifennodd lawer o sgriptiau teledu i blant, gan ennill gwobr BAFTA Cymru, ac enwebiad BAFTA Prydain.

Nofelau diweddar: Arwana Swtan a’r Sgodyn Od, stori wedi’i gosod yng Nghaernarfon am angenfilod môr, siarcod benthyg pres a ffish-ffingars wedi rhewi, ac Arnie’s Flute ’N Veg, lle mae Arnie Williams o’r Rhondda Fach yn creu’r Gerddorfa Lysiau Fwyaf yn y byd!

Arnie's Flute 'N' Veg - Angie Roberts

'Arnie's Flute 'N' Veg' gan Angie Roberts

Mae Arnie Williams yn benderfynol o gael ei hun yn y Guinness Book of Records drwy greu’r Gerddorfa Lysiau Gardd fwya yn yr holl fyd! Ond beth os ydi’r Whisls Moron, y Trwmpedi Winiwns a’r Drymiau Melons yn troi i mewn i gawl ychafi meddal? Mae hi mor anodd gwneud i freuddwyd Mam am dorri’r Record ddod yn wir ….

'Arwana Swtan a’r Sgodyn Od' - Angie Roberts

'Arwana Swtan a’r Sgodyn Od' gan Angie Roberts

Mae Arwana yn cael ei hanfon i aros yng Nghaernarfon gyda’i thaid sy’n bysgotwr. Ond mae’r dre mewn argyfwng - mae’r pysgod wedi diflannu o’r môr! Hyd yn oed efo help bechgyn y siop sglodion a môr-forwyn fawr, swnllyd sydd wedi dysgu pwerau anhygoel creaduriaid eraill o’r môr – fedr hi ddod o hyd i ateb?