Mae Caryl Lewis yn nofelydd Cymraeg arobryn, yn awdur plant, yn ddramodydd ac yn sgriptiwr ffilmiau. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn eang fel clasur modern o lenyddiaeth Cymru, mae ar gwricwlwm Cymru, ac enillodd yr addasiad ffilm - sgript gan Lewis ei hun - chwe BAFTA Cymru a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae sgriptiau ffilm eraill Lewis yn cynnwys dramâu cyffrous Y Gwyll a Craith ar gyfer y BBC/S4C'. Mae Lewis yn ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n byw gyda'i theulu ar fferm ger Aberystwyth.
[Cydnabyddiaeth llun: Naomi Campbell]


'The Boy and the Octopus' gan Caryl Lewis
Stori hudolus am ddod o hyd i dy lais a bod yn driw i ti dy hun.
Mae Stanley'n dwli ar ei degan octopws, ac mae'n breuddwydio am y ffordd hudolus y mae ei groen yn newid lliw; sut mae'n cuddio pan fydd rhywbeth arswydus yn dod heibio. Mewn gwirionedd, mae Stanley weithiau eisiau bod fel ei octopws a diflannu.
Ond mae Stanley'n dysgu sut i rannu ei deimladau mewn mwy na geiriau, ac i wynebu anawsterau drwy bŵer hunanfynegiant a chreadigrwydd.
Stori deimladwy ac emosiynol am oresgyn bwlis a bod yn falch o gael dy weld, gan grewyr The Boy Who Dreamed Dragons.