Claire Fayers photo

Mae Claire Fayers yn ysgrifennu ffantasi digrif i blant ac mae ganddi ddiddordeb cryf yn llên gwerin Cymru. Cafodd ei llyfr diweddaraf, Welsh Giants, Ghosts and Goblins ei enwi'n Llyfr Cymreig y Flwyddyn Waterstones ac enillodd Wobr Dewis y Darllenwyr Tir na n-Og. Pan nad yw'n ysgrifennu, mae gan Claire amserlen brysur o ddigwyddiadau, yn addysgu ysgrifennu creadigol i blant ac oedolion. Mae hi'n byw gyda'i gŵr a'u cathod mewn hen dŷ ym mynyddoedd Cymru. Nid yw wedi cwrdd ag ysbryd eto - cyn belled ag mae hi'n gwybod.

Claire Fayers - 'Welsh Giants, Ghosts and Goblins'

'Welsh Giants, Ghosts and Goblins' gan Claire Fayers

Ar restr fer Gwobr Llyfr Cymreig i Blant - Gwobr Tir na n-Og

'A wonderful collection of fresh, fun retellings, told with heart and humour, sure to spark imaginations and inspire readers to collect and share their own tales.' Sophie Anderson

'An excellent introduction to the rich history of storytelling in Wales, ' Book Trust

'This new book by Welsh writer Claire Fayers takes a fresh look at some of Wales' most entertaining and intriguing myths and folklore.' Jenny White, The Western Mail


Mae llu o fythau, chwedlau a straeon ysbrydion o Gymru yn cael eu hail-ddychmygu ar gyfer darllenwyr iau cyfoes. Darllenwch am Idris, brenin y cewri sydd yn ei arddegau ac ar daith i gasglu straeon. Wrth iddo deithio ledled Cymru, mae darllenwyr yn cwrdd â choblyn tŷ dialgar, ysbryd sy'n dwyn bywydau, corachod sydd wedi ymgartrefu o dan ardd rhywun, parti te o ysbrydion benywaidd, coblyn blewog direidus a llawer o dylwyth teg eraill cyfareddol a chyfrwys. Mae'r 17 o anturiaethau, chwedlau tylwyth teg a straeon ysbrydion hyn o bob cwr o Gymru yn cael eu hailadrodd a'u hail-ddychmygu gan yr awdur wrth iddi roi bywyd newydd i'r straeon traddodiadol drwy lygaid y chwedleuwr cyfoes: cast bywiog, cynhwysol a hoffus mewn cymysgedd o leoliadau traddodiadol a chyfoes.