Mae Emma Smith-Barton yn awdur ac yn athrawes o dde Cymru. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, The Million Pieces of Neena Gill, gan Penguin Random House a'i chynnwys ar restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones, Gwobr Branford Boase a Gwobr Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantus am nofel ramantus gyntaf 2020.
Mae ganddi BA mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Warwig, a TAR ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Yn 2023, roedd hi'n un o feirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru ac yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Mae ei straeon i oedolion wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau ac antholegau a'u darlledu ar BBC Radio 4.
'The Million Pieces of Neena Gill' gan Emma Smith-Barton
*Ar restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2020*
*Ar restr fer Gwobr Branford Boase 2020*
*Ar restr fer Gwobr Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantus am Wobr Ramantus Gyntaf 2020*
'Powerful, relatable and uplifting' - Emily Barr, awdur The One Memory of Flora Banks
How can I hold myself together, when everything around me is falling apart?
Mae Neena bob amser wedi bod yn ferch dda - graddau gwych, ffrindiau sy'n cael sêl bendith ei rhieni a dim cariadon byth.
Ond ers i'w brawd Akash ei gadael, mae ei bywyd yn chwalu'n araf - ac mae'n darganfod fersiwn arall ohoni hi ei hun sy'n fwy rhydd ond yn llawer mwy peryglus.
Wrth i'w hymddygiad gwyllt fynd yn fwyfwy afreolus, mae gafael Nina ar ei rheswm yn dechrau gwanhau hefyd.
Ond pan fydd ei rhieni'n cyhoeddi nid un, ond dau newid a fydd yn troi eu bywydau ben i waered, mae hi o'r diwedd yn cyrraedd pen ei thennyn.
Ond fel mae Neena ar fin ei ddarganfod, pan fydd eich bywyd yn chwalu, dim ond cariad all eich achub.