Mae Hanan Issa yn fardd, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn arlunydd Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys ei chasgliad o farddoniaeth My Body Can House Two Hearts, Welsh Plural: Essays on the Future of Wales a'i blodeugerdd o farddoniaeth i blant, And I Hear Dragons. Perfformiwyd ei monolog buddugol, With Her Back Straight, yn y Bush Theatre fel rhan o'r Hijabi Monologues. Mae hi'n rhan o'r ystafell ysgrifennu ar gyfer cyfres arobryn Channel 4, sef We Are Lady Parts. Mae ei gwaith wedi derbyn sylw ar Radio 3 a Radio 4. Mae ei ffilm fer, The Golden Apple - a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru / BBC Cymru ar gael ar iPlayer. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli yn 2023 a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru tan 2027.
[Cydnabyddiaeth llun: Billie Charity a Gwyl y Gelli]