Helen Docherty yw awdur llawer o lyfrau rhigymau darluniadol hynod boblogaidd, gan gynnwys The Snatchabook, The Knight Who Wouldn’t Fight a Someone Just Like You. Mae ei llyfrau wedi cael eu cyfieithu i 27 o ieithoedd a'u haddasu i'r llwyfan yn y DU, yr Almaen a Chanada. Mae Helen yn cydweithio'n aml â'i gŵr, y darlunydd a'r awdur Thomas Docherty. Mae eu llyfr diweddaraf gyda'i gilydd, Superwolf, wedi cael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Storytime 2026 y Book Trust. Mae Helen yn byw ac yn gweithio yn Abertawe. Mae hi wrth ei bodd yn ymweld ag ysgolion ac yn helpu plant i ysgrifennu eu straeon eu hunain.


Ers iddo godi comig Asterix yn ei lyfrgell leol pan oedd yn blentyn, mae Thomas Docherty wedi ymddiddori'n fawr yn y ffordd mae modd cyfuno geiriau a lluniau i adrodd stori. Erbyn hyn, mae wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau, sy'n cael eu mwynhau ledled y byd, gan ennill llu o wobrau. Mae rhai o'i lyfrau mwyaf poblogaidd wedi cael eu creu ar y cyd â'i wraig, yr awdur llyfrau plant, Helen Docherty. Pryd bynnag y bo modd, mae Thomas yn mwynhau ymweld ag ysgolion a llyfrgelloedd i siarad â phlant am ei waith a'u helpu i ysgrifennu a darlunio eu straeon eu hunain.

'Superwolf' gan Helen Docherty a Thomas Docherty
Mae Luna yn flaidd bach ag uchelgais mawr: mae hi'n benderfynol o fod yn archarwr!
Ond mae ganddi broblem. Mae bleiddiaid yn codi arswyd ar yr holl anifeiliaid eraill. Pryd bynnag mae Luna yn cyrraedd ar ruthr i helpu, mae pawb yn rhedeg i ffwrdd.
Mae Luna ar fin rhoi'r gorau i'w breuddwydion am fod yn archarwr, ond mae'n rhoi un cynnig olaf ar ymgais achub hynod feiddgar!

'Kerfuffle Bird' gan Helen Docherty a Gwen Millward
Mae'r Hushlings bob amser yn dawel ac yn gwrtais a dyna sut maen nhw'n hoffi bod. Ar wahân i Maeve, sy'n ysu am fynegi rhai o'i Theimladau Mawr!
Wrth i'r Kerfuffle Bird swnllyd gyrraedd, mae Maeve ar ben ei digon bod rhywun yno i floeddio a chwerthin yn uchel gyda hi. Ond pan ddaw gwawchian a fflapio'r Kerfuffle Bird, ei drydar a'i jigiau yn ormod i'r Hushlings, maen nhw'n darganfod pwysigrwydd mynegi eu teimladau. Allan nhw ddod o hyd i ffordd i Maeve a'r Kerfuffle Bird gydfyw'n gytûn â'r gymuned yn Hushville?
Stori llawn hwyl a sbri am hunanfynegiant gan yr awduron llyfrau llwyddiannus, Helen Docherty a Gwen Millward!

'Moon Girl' gan Thomas Docherty
Mae Leila yn dwlu ar liwiau llachar ond mae'r cysgodion yn codi ofn arni hi. Nes iddi gwrdd â Moon Girl, hynny yw.
Gyda'i gilydd maen nhw'n mynd ar antur gyda'r nos, yn paentio golau'r lleuad yn y tywyllwch ac yn darganfod y byd ar ôl i'r haul fachlud.
Mae darluniadau syfrdanol Thomas Docherty yn goleuo'r noson ac yn ei throi'n rhywbeth hardd sy'n ennyn chwilfrydedd a syfrdandod. Gan awdur a darlunydd y llyfr sydd wedi ennill clod y beirniaid, Into the Wild.


