Huw Lewis-Jones photo

Mae Huw Lewis-Jones yn awdur, yn addysgwr ac yn arweinydd alldeithiau arobryn sydd â PhD o Brifysgol Caergrawnt. Mae hefyd yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Falmouth, lle mae'n annog ei fyfyrwyr hanes naturiol i archwilio ystyron gwahanol anifeiliaid. Bellach mae wedi cyhoeddi mewn 25 o ieithoedd, ac mae ei lyfrau'n cynnwys The Sea Journal, Swallowed by a Whale, a The Writer’s Map, atlas poblogaidd o diroedd dychmygol. Mae hefyd yn awdur llawer o lyfrau natur ffeithiol i blant a'r gyfres Clive Penguin. Pan nad yw'n ysgrifennu ac yn addysgu, mae Huw’n dianc i ardaloedd gwyllt fel naturiaethwr a thywysydd ac mae wedi bod i Begwn y Gogledd ddeuddeg gwaith.

Huw Lewis-Jones - Do Penguins Like the Cold?

'Do Penguins Like the Cold?' gan Huw Lewis-Jones

Llyfr â darluniau swynol sy’n mynd â darllenwyr ar daith faes i Antarctica a’r tu hwnt i ddarganfod bywyd cyfrinachol y pengwiniaid.

Yn y llyfr difyr ac hynod addysgiadol hwn, mae’r archwiliwr pegynol Huw Lewis Jones a’r darlunydd byd natur enwog Sam Caldwell yn tywys darllenwyr ar daith anturus i Antarctica a’r tu hwnt i ddarganfod bywyd cyfrinachol y pengwiniaid. Ar daith ledled Hemisffer y De i leoedd rhyfeddol gan gynnwys yr Ariannin, Awstralia, Chile, Ynysoedd Galápagos, Namibia, Seland Newydd, Periw a De Affrica, mae'r Do Penguins Like the Cold? yn cyflwyno’r 18 rhywogaeth o bengwin i'r darllenwyr, ynghyd â'r gwaith cadwraeth sydd ar y gweill i'w hamddiffyn nhw a'u cynefinoedd.