Enillydd Gwobr Tir na n-Og (2022, 2024) a Llyfr y Flwyddyn Cymru i Blant (2023)

Magwyd Lesley Parr mewn tref ddur yn ne Cymru. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, The Valley of Lost Secrets, yn 2021 a bu'n Llyfr y Mis Waterstones, cafodd ei gynnwys ar restr hir Medal Carnegie CILIP a rhestr fer ar gyfer gwobrau Branford Boase ac UKLA. Mae llyfrau Lesley wedi ennill Gwobr Tir na n-Og (2023, 2024) a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru i Blant (2023), ymysg eraill. Yn gyn-athrawes ysgol gynradd, mae ganddi MA â rhagoriaeth mewn Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc. Erbyn hyn mae Lesley yn byw yn Lloegr gyda'i gŵr a'u cath achub, Ramsey. Mae'n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu straeon, tiwtora oedolion a gweiddi ar y rygbi ar y teledu.
[Cydnabyddiaeth llun: Benjamin Turner]

'Fallout' gan Lesley Parr
Ydy tynged Marcus yn nwylo ei deulu? Neu a fydd yn gallu sefyll drosto ei hun a thorri ei gŵys ei hun?
Ar restr hir Medal Carnegie ar gyfer Ysgrifennu 2025
Mae gan Marcus un brawd sydd mewn canolfan troseddwyr ifanc ac mae'r llall yn gweithio gyda'u tad i gynllunio eu lladrad nesaf. Mae pawb yn cymryd yn ganiataol y bydd Marcus yn dilyn yn eu holion traed, ond mae ganddo ef syniadau eraill, gobeithion gwahanol.
Wrth i ddyn gael ei dderbyn i'r ysbyty yn sgîl damwain anesboniadwy, mae'n cadarnhau rhagdybiaethau pawb yn eu cymuned a Marcus gaiff y bai. Mae'n teimlo nad oes modd dianc. Dim ond y ferch newydd, Emma - gyda'i baneri protestio am heddwch a'i bathodynnau gwleidyddol - sy'n amau’r stori hon. Allan nhw gydweithio i brofi nad ef sydd ar fai - a helpu Marcus i ddilyn ei drywydd ei hun?
Stori gyffrous ac emosiynol am gwestiynu eich teyrngarwch, gan awdur clodwiw The Valley of Lost Secrets. Yn berffaith i ddarllenwyr 10 oed a hŷn sydd wrth eu boddau gyda llyfrau Phil Earle, Frank Cottrell-Boyce neu Brian Conaghan.
'Understatedly compelling, with assured characterisation and a 1980s Welsh setting, this story of breaking free from small-town expectations is another banger for 9+ from the award-winning Parr' Guardian
'An exceptional story from one of our finest writers' Emma Carroll, awdur Letters from the Lighthouse
'Gripping and thought-provoking' Book Trust