Winner of the Waterstones Children's Book Prize 2020 for older readers, the 2024 Nero Book Awards Prize for Children's Fiction and the 2025 Tir na n-Og Award for best English Language Book.

Mae Liz Hyder yn awdur arobryn pedair nofel, dwy ar gyfer oedolion ifanc a dwy i oedolion. Enillodd Bearmouth, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Llyfr Plant Waterstones ar gyfer Darllenwyr Hŷn, Gwobr Branford Boase a Llyfr Plant y Flwyddyn The Times. Daeth ei llyfr cyntaf i oedolion, The Gifts, yn ail yng Ngwobr McKitterick a dilynwyd hwn gan The Illusions. Enillodd ei nofel ddiweddaraf i oedolion ifanc, The Twelve, a leolir yn Sir Benfro, Wobr Ffuglen Plant Gwobrau Nero a Gwobr Tir na n-Og (iaith Saesneg). Mae hi’n cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol ers dros 15 mlynedd.
[Cydnabyddiaeth llun: Ashleigh Cadet]

'The Twelve' gan Liz Hyder
ENILLYDD GWOBR FFUGLEN PLANT NERO
MAE DARLLENWYR YN CANMOL Y NOFEL NEWYDD, INGOL A HUDOL, HON GAN AWDUR AROBRYN BEARMOUTH FEL CAMPWAITH MODERN.
'Hauntingly beautiful' Hannah Gold, awdur The Last Bear
'The Twelve reads like a modern classic, with echoes of Alan Garner, Marcus Sedgwick, and C.S. Lewis.' Essie Fox
'Dark, dreamy, surreal and beautiful.' Katya Balen, awdur October, October
Roedd y gwyliau gaeaf ar yr arfordir gyda'i chwaer Libby a'u mam i fod yn drît i Kit. Ond ar ôl i Libby ddiflannu oddi ar wyneb y ddaear, does neb arall yn ei chofio, ac mae Kit yn gorfod wynebu realiti newydd - un lle nad oedd ei chwaer erioed yn bodoli.
Yna mae hi'n cwrdd â Story, bachgen lleol sy'n cofio Libby yn iawn. Gyda'i gilydd maen nhw'n cychwyn ar daith y tu hwnt i'w dychymyg mwyaf gwyllt i fyd wedi'i drochi mewn llên gwerin hynafol. A fydd Kit a Story yn gallu datgelu cyfrinach y Deuddeg ac achub Libby cyn iddi fynd yn rhy hwyr?