Mae Manon Steffan Ros yn awdur, yn sgriptiwr ac yn golofnydd. Mae hi wedi cyhoeddi mwy na 40 o lyfrau, ac enillodd ei nofel i oedolion ifanc, Llyfr Glas Nebo, Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, ac mae wedi cael ei chyfieithu i 15 iaith.


'Y Cae Ras' gan Manon Steffan Ros
Nofel am deulu, am gariad a'r llawenydd pur o fod yn gefnogwr pêl-droed. Mae bywyd Dan yn gymleth. Mae Mam a Dad yn llym, a'r tensiwn rhyngddynt â'i chwaer fawr, Esther, yn cynyddu bob dydd. Yr unig beth sydd wedi bod yn dod â'r teulu ynghyd ydi mynd i weld y pêl droed ar y Cae Ras yn Wrecsam, ond tydy cefnogi tîm sy'n colli ddim yn ffordd da o godi ysbryd.

'Fi ac Aaron Ramsey' gan Manon Steffan Ros
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae eu perthynas fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

'Llyfr Glas Nebo' gan Manon Steffan Ros
Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2018. Dyma stori ryfeddol Siôn, a orfodwyd i dyfu'n ddyn yn sydyn iawn, ei fam Rowenna, a'i chwaer fach, Dwynwen. Mae'r hanes hynod wedi'i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn - yr hunllef a gafodd effaith ddrychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

'Pluen' gan Manon Steffan Ros
Nofel i blant gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i stori brawd ei nain, a hithau dioddef o dementia. Nofel annwyl, gyda chymeriadau cryf, themâu digon heriol a neges bwysig.