Mae Meleri Wyn James yn awdur i oedolion, dysgwyr, pobol ifanc a phlant sydd wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau. Fe gyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion pan oedd hi’n 21 oed ar ôl ennill y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd. Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Tir Na nOg i blant ddwywaith ac enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd am ei nofel Hallt. Mae hi wedi addasu Na, Nel!, ei chyfres boblogaidd i blant ar gyfer y llwyfan. Mae hi newydd gyhoeddi Megs yn Saesneg a Chymraeg i blant 8-11 mlwydd oed. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y radio a theledu.


'Na, Nel!' gan Meleri Wyn James
Mae Nel yn ferch ddireidus ac yn y gyfrol hon mae tair stori ddigri. Mae ei rhieni'n gorfod gweiddi 'Na, Nel!' arni'n aml! Addas ar gyfer darllenwyr 7 i 9 oed ond i'w mwynhau gan blant o bob oed!

'Megs' gan Meleri Wyn James
Nofel ddirgelwch Gymraeg i blant 8-11 oed yw Megs. Mae Megs yn ferch 10 oed, niwro-amrywiol. Mae hi'n byw efo'i mam a Ci-ci, y cocapw, yn nhref Aberystwyth. Does ganddi ddim llawer o ffrindiau ond mae hi a Gwilym, sy'n byw drws nesaf, yn hen lawiau. Ond mae Gwilym yn diflannu ac mae ar Megs ofn mai ei bai hi yw'r cyfan.