Digwyddiadau ac Archebu

Trwy gydol yr ŵyl bydd gennym hefyd orsafoedd creadigol galw heibio AM DDIM (dim angen cadw lle) rhwng 11yb a 3yp. Bydd teuluoedd yn gallu cymryd rhan mewn lliwio, ysgrifennu straeon, gwneud nodau tudalen, darlunio a phaentio wynebau!
Dydd Sadwrn 4ydd Hydref
Oriel Warws
10:15yb-11yb | 'Fallout': Creu bathodynnau, cerddoriaeth a mwy! gyda Lesley Parr (Ystod Oedran: 10+)
Enillydd Gwobr Tir na n-Og (2022, 2024) a Llyfr y Flwyddyn Cymru i Blant (2023)
10:15yb-11yb - Oriel Warws
Ystod Oedran: 10+
Mae bathodynnau yn fwy na ffordd o addurno eich dillad neu'ch bagiau - gallan nhw wneud datganiadau, hysbysebu eich hoff gerddoriaeth, gwneud i chi deimlo'n rhan o rywbeth. Yn Fallout gan yr awdur clodwiw Lesley Parr sydd wedi ennill llu o wobrau, mae bathodynnau'n gwneud yr holl bethau hyn a mwy. Ymunwch â Lesley mewn gweithdy hwyl a rhyngweithiol, lle byddwch yn dysgu sut gwnaeth hi ddefnyddio cerddoriaeth a bathodynnau i ddatblygu ei chymeriadau a chreu stori Marcus ac Emma. Cewch gyfle hefyd i ddylunio a chreu eich bathodyn eich hun i ddangos i'r byd pa mor wych ydych chi. Does dim angen sgiliau arbenigol - mae croeso i bawb sy'n dwlu ar gerddoriaeth, bathodynnau a llyfrau!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:30yb-12:15yp 'Feminist History' gyda Kate Mosse | (Ystod Oedran: 12+)
Nofelydd, dramodydd, perfformiwr, cyfwelydd, awdur hanes a hunangofiant arobryn a Chyfarwyddwr a Sylfaenydd y Wobr am Ffuglen gan Fenywod a'r Wobr Menywod am Lyfr Ffeithiol. Enillodd Mosse Wobr gyntaf Gwobrau Llyfrau Prydain am Effaith Gymdeithasol i ddathlu Allen Lane yn ogystal â CBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2024.
11:30yb-12:15yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 12+
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad llawn ysbrydoliaeth gyda'r awdur sy’n dra phoblogaidd yn rhyngwladol a Chyfarwyddwr a Sefydlydd Gwobrau'r Menywod, Kate Mosse, wrth iddi rannu cipolwg o'i llyfr ffeithiol arloesol newydd, Feminist History for Every Day of the Year.
Mae'r casgliad hwn, sydd â darluniau cyfoethog, yn dathlu 366 o fenywod a merched rhyfeddol - un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn - y mae eu dewrder, eu creadigrwydd a'u gweledigaeth wedi llunio hanes. O'r arloeswyr rydych chi'n eu hadnabod - Mary Wollstonecraft, Malala Yousafzai, Simone Biles a Sophie Scholl - i arloeswyr, gweithredwyr ac arwyr anenwog, bydd Kate yn rhannu straeon pwerus ledled y byd a thrwy gydol hanes.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:45yp-1:30yp | 'The Boy and the Octopus' gyda Caryl Lewis | (Ystod oedran 8-12)
Nofelydd Cymraeg, awdur plant, dramodydd a sgriptiwr ffilmiau arobryn. Mae ei nofel glodfawr 'Martha, Jac a Sianco' (2004), sy’n cael ei hystyried yn eang yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, yn rhan o gwricwlwm Cymru, ac mae'r addasiad ffilm - gyda sgript gan Caryl ei hun - wedi ennill chwech BAFTA Cymru. Yn 2023, enillodd Caryl Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru am y drydedd tro am ei nofel gyntaf yn y Saesneg, 'Drift', sy'n golygu mai hi yw'r awdur cyntaf erioed i ennill yn y ddwy iaith.

12:45yp-1:30yp - Oriel Warws
Ystod oedran: 8 - 12 oed
Sesiwn hwyl i blant rhwng 4 a 7 oed, gan gynnwys darlleniad gan yr awdur a gweithgareddau crefft! Paid â gwisgo dy ddillad gorau, neu efallai y byddan nhw'n inc i gyd!
Ac mae rhywun yn bygwth dinistrio Seren Newydd Fwyaf Prydain, sef hoff sioe ddoniau’r wlad ar y teledu!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
2yp-2:45yp | 'The Moonlighters' gyda Lee Newbery | (Ystod Oedran 8-13)
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn y categori Dewis y Bobl (2023) ac ar restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones.

2yp-2:45yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 8-13
Dewch i gwrdd ag awdur tra phoblogaidd The Last Firefox, Lee Newbery, wrth iddo ddod â'i lyfr hudol newydd, The Moonlighters, yn fyw.
Pan fo Theo, sy'n ddeg oed, yn rhedeg i ffwrdd pan ar daith ysgol i'r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain ac yn penderfynu mynd i ymweld â'i famgu ar fympwy, mae'n cael ei synnu'n fawr - mae ei famgu ar wyliau ac mae Theo ar ei ben ei hun yn y ddinas fawr, heb unlle i droi.
Yna, daw Alistair Goodfellow, person ifanc, rhyfeddol a lliwgar gyda'i lygaid yn pefrio'n garismataidd. Mae Alistair yn cynnig ystafell i Theo yn y Casablanca Lily - yn ystod y dydd, mae'n westy sydd wedi mynd â'i ben iddo ac sydd wedi cael ei amddifadu; gyda'r nos, mae'n balas yn llawn rhyfeddodau hudol.
Bob nos, mae Alistair yn anfon y teulu o ffoaduriaid a'r bobl nad ydynt yn gwneud yn dda y maen nhw wedi dod o hyd iddynt, sef y Moonlighters, allan i Lundain er mwyn dod o hyd i arteffactau hudol sydd wedi mynd ar goll, ac fel gwobr mae'r bobl hyn yn derbyn eu pwerau hudol eu hunain.
Mae Theo'n cael ei gyfareddu'n gyflym iawn, ond mae mwy o haenau i gymeriad Alistair nag sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf, a chyn hir mae Theo'n sylwi efallai bod yr eitemau y mae Alistair yn chwilio amdanynt yn fwy peryglus nag yr oedd erioed wedi'i ddychmygu...
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:15yp-4yp | 'By the Light of the Moon' gyda Helen a Thomas Docherty | (Ystod Oedran: 3+)
Wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Storytime y BookTrust 2026. Mae llyfrau Helen Docherty wedi cael eu cyfieithu i 27 o ieithoedd a'u haddasu i'r llwyfan yn y DU, yr Almaen a Chanada.
Mae Thomas Docherty wedi darlunio'r llyfr lluniau arobryn 'The Hare-Shaped Hole' a enillodd ddwy wobr yng Ngwobrau Llyfrau Plant Iwerddon a dwy wobr arall yng Ngwobrau Llyfr UKLA yn 2024, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr Oscar a mwy!

3:15yp-4yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 3+
Ymunwch â Helen a Thomas Docherty, awduron a darlunydd o Abertawe, am sesiwn o adrodd straeon, tynnu lluniau ar y cyd a chân wrth iddynt rannu eu llyfrau newydd, Superwolf, Kerfuffle Bird a Moon Girl!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Ystafell y Môr
10:00yb-10:45yb | 'Arnie's Flute 'N' Veg' gydag Angie Roberts (Ystod Oeadran: 9+)
Enillydd Gwobr Llenyddiaeth Plant Tir na n'Og 2025, ac yn sgriptiwr ar gyfer sawl raglen teledu i blant, gan gynnwys y gyfres a enillodd BAFTA Cymru 'Jini Mê' a'r rhaglen ffuglen wyddonol yr enwebwyd am BAFTA Prydeinig, 'Cabaret Quazar'.

10:15yb-11yb - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 9+
Ffeindiwch ymhle, pryd, sut ac - ocê ‘te, pam fod gan Arnie gymaint o obsesiwn am lysiau cerddorol. A wedyn gewch chithe wneud eich chwibanau afal eich hunain. A wedyn pawb i chwythu nodau‘r gân rygbi Gymraeg enwog honno, ‘Sosban Fach’. “Mae hyn,” fel y dwedodd athro dosbarth Arnie gyda gwên hapus, “yn rhoi ystyr newydd llwyr i’r dywediad chware gyda’ch bwyd!”
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:30yb-12:15yb | 'And I Hear Dragons' gyda Hanan Issa | (Ystod Oedran: 8-11)
Yn fardd, yn wneuthurwr ffilmiau, ac yn arlunydd Cymreig-Iraci, Hanan oedd Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2023 a bellach hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru.

11:30yb-12:15yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 8-11
Come along for a fun-filled session of poems from Wales' National Poet! Hear all about the many challenges the children of Wales are taking on, including discrimination, pollution, and more! Hanan will also read her poem 'And I hear Dragons' that celebrates the children of Wales as ferociously brave mythical beasts.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:45yp-1:30yp | '7 Cwestiwn, 1 Cerdd a Chlawr' gyda Siôn Tomos Owen | (Ystod Oedran: 8-15 Cyfrwng Cymraeg)
Awdur, bardd, artist a chyflwynydd dwyieithog o Dreorci, Rhondda Fawr. Cyrhaeddodd ei gasgliad cyntaf o Farddoniaeth Gymraeg 'Pethau Sy'n Digwydd' rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2025.

12:45yp-1yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 7-11 oed
Mae modd i greu cymeriad, stori a byd cyfan gyda dim ond 7 cwestiwn, sydd yn gallu cael eu troi i mewn i gerdd, fydd yn ddigon o fanylion i ddarlunio llun neu clawr. Sesiwn gyda ychydig o ysgrifennu, ychydig o ddarlunio ond llawer o hwyl!
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
2yp-2:45yp | 'Dihuno’r dychymyg!': Dewch i drafod syniadau ac i greu gyda Meleri Wyn James | (Ystod Oedran: 6-11 Cyfrwng Cymraeg)
Enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái ym 1991. Enillodd hefyd Fedal Ragoriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

2yp-2:45yp - Ystafell y Môr
Ystod oedran: 6-11 oed
Dewch i drafod syniadau ac i greu gyda Meleri Wyn James, awdur Na, Nel! a Megs
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
3:15yp-4yp | 'Mentrwch i fyd The Shadow Order' gyda Rebecca F. John (Ystod Oedran 8-12)
Enillydd Gwobr Lleisiau Newydd PEN International 2015 ac ar restr fer gwobr Nofel Gyntaf Costa 2017, a gwobr Stori Fer Sunday Times EFG 2015.

3:15yp-4yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 8-12
Ymunwch â Betsy, Teddy, ac Effie wrth iddynt deithio drwy fyd hudolus Copperwell, lle mae gan gysgodion eu bywydau eu hunain. Helpwch nhw i oresgyn y llywodraeth lwgr drwy greu eich creadur cysgod eich hun. Tair tasg, un genhadaeth arbennig. Dewch i ymuno â ni am lawer o ysgrifennu ac antur.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Dydd Sul 5ed Hydref
Oriel Warws
10:15yb-11yb | 'Welsh Giants, Ghosts and Goblins' gyda Claire Fayers | (Ystod Oedran: 7+)
Awdur arobryn llyfrau ffantasi gomig i blant. Cafodd ei llyfr diweddaraf, 'Welsh Giants, Ghosts and Goblins' ei enwi'n Llyfr Cymreig y Flwyddyn Waterstones ac enillodd Wobr Dewis y Darllenwyr Tir na n-Og.
10:15yb-11yb - Oriel Warws
Ystod Oedran: 7+
Ymunwch â'r awdur arobryn Claire Fayers ar daith o gwmpas Cymru yn darganfod y creaduriaid hudolus sy'n llechu mewn coedwigoedd a chymoedd, ac yn ein gerddi cefn ni. Dyluniwch eich coblyn eich hun, lluniwch stori ysbrydion arswydus a dysgu sut i adrodd straeon gan ddefnyddio gwrthrychau pob dydd. Bydd digon o amser i ofyn cwestiynau hefyd yn y sesiwn hwyl a rhyngweithiol hon i blant 7 oed ac yn hŷn.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:30yb-12:15yp | 'Trydan Creadigol' gydag Alex Wharton
Bardd, nofelydd, awdur a pherfformiwr arobryn a CHILDREN’S LAUREATE WALES 2023 - 2025.
11:30yb-12:15yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 7+
Ymunwch ag Alex Wharton, 'Children's Laureate Wales', a byddwch yn barod i gael eich cludo gan drydan creadigol, llawenydd a dirgelwch. Yn y digwyddiad hwn, bydd barddoniaeth, rap a chaneuon yn cyd-ddawnsio fel un. Gan gyfuno'i bedwar casgliad o eiriau, mae'n ceisio ein cysylltu ni, ein cludo ni ac ysbrydoli cariad tuag at iaith chwareus, chwilfrydig sy'n llawn dychymyg.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:45yp-1:30yp | 'Y Siwtces Rhyfeddol': creu cymeriadau cŵl a straeon difyr gyda Liz Hyder | (Ystod Oedran: 10+)
Enillydd Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2020 ar gyfer darllenwyr hŷn, enillydd Gwobr Ffuglen Plant Gwobrau Nero a Gwobr Tir na n-Og 2025 am y Llyfr Saesneg Gorau.
12:45yp-1:30yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 10+
Yn y gweithdy hwyl a rhyngweithiol hwn byddwch yn creu'r tri pheth sydd fwyaf angenrheidiol ar gyfer unrhyw stori - ond beth yn y byd gallen nhw fod?! Dewch i ddysgu beth yw gwir ystyr CSI a pha gyfrinachau sy'n cuddio yn siwtces rhyfeddol yr awdur arobryn Liz Hyder.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
2yp-2:45yp | 'Sgwennu am y pethau ‘da chi’n eu caru' gyda Manon Steffan Ros | (Ystod Oedran: 9-13)
Yn awdur, yn sgriptiwr ac yn golofnydd arobryn, mae Manon wedi cyhoeddi dros 40 o lyfrau. Enillodd ei nofel ddiweddar ar gyfer pobl ifanc, 'Llyfr Glas Nebo / The Blue Book of Nebo', Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, ac mae wedi'i chyfieithu i 15 iaith.
2yp-2:45yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 9-13
Manon Steffan Ros yn trafod creu straeon o’r pethau ‘da chi’n caru- gan gynnwys pêl droed, ffantasi, neu unrhyw beth arall yn y byd!”
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:15yp-4yp | 'Do Penguins Like the Cold?' gyda Huw Lewis-Jones | (Ystod Oedran: 6+)
Hanesydd amgylcheddol, arweinydd allteithiau ac adroddwr straeon uchel ei fri. Ac yntau’n fordeithiwr, mae Huw hefyd yn naturiaethwr maes ac yn dywysydd bywyd gwyllt, yn ogystal ag awdur ac athro arobryn.
3:15yp-4yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: 6+
Mae'r awdur ac archwiliwr pegynol Huw Lewis-Jones yn ôl am antur am bopeth pengwin! Ydych chi'n caru'r adar hyn cymaint â ni? Sgwrs gyffrous llawn lluniau anhygoel, ffeithiau cŵl, gan ddod i glo gyda chwis am bengwiniaid! Peidiwch â'i cholli….
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Ystafell y Môr
10:15yb-11yb | 'Dylan's Park a Straeon Eraill' gyda Helen a Thomas Docherty (Ystod Oedran 4+)
Wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Storytime y BookTrust 2026. Mae llyfrau Helen Docherty wedi cael eu cyfieithu i 27 o ieithoedd a'u haddasu i'r llwyfan yn y DU, yr Almaen a Chanada.
Mae Thomas Docherty wedi darlunio'r llyfr lluniau arobryn 'The Hare-Shaped Hole' a enillodd ddwy wobr yng Ngwobrau Llyfrau Plant Iwerddon a dwy wobr arall yng Ngwobrau Llyfr UKLA yn 2024, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr Oscar a mwy!

10:15yb-11yb - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 4+
Ymunwch â’r awduron a’r darlunydd o Abertawe, Helen a Thomas Docherty, wrth iddynt gyflwyno llyfr newydd arbennig am anturiaethau plentyndod Dylan Thomas ym Mharc Cwmdonkin, Abertawe. Byddan nhw hefyd yn rhannu llyfr newydd Helen, Make It All Go Away, a Follow the Swallow, gan Julia Donaldson a Thomas Docherty.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:30yb-12:15yp | 'Creu Sioe Deledu mewn 45 munud' gyda Liz Hyder | (Ystod Oedran 12+)
Enillydd Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2020 ar gyfer darllenwyr hŷn, enillydd Gwobr Ffuglen Plant Gwobrau Nero a Gwobr Tir na n-Og 2025 am y Llyfr Saesneg Gorau.

11:30yb-12:15yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 12+
Gan ddefnyddio dim byd ond ein dychymyg cyfunol, ymunwch â'r awdur arobryn Liz Hyder i greu'r cysyniad, y cymeriadau a syniadau'r plot ar gyfer cyfres deledu newydd sbon mewn 45 munud yn unig! O ffuglen wyddonol i ffantasi, o ddrama gignoeth i gomedi, gallai unrhyw beth ddigwydd! Y mwyafrif biau hi yn y gweithdy bywiog hwn gyda phawb yn pleidleisio ar syniadau ar hyd y ffordd .... Dewch draw ac ymunwch yn yr hwyl!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:45yp-1:30yp | 'Finding your story' gydag Emma Smith-Barton | (Ystod Oedran: 12+)
Awdur, athrawes a mentor ysgrifennu creadigol o dde Cymru. Cafodd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, 'The Million Pieces of Neena Gill', ei chynnwys ar restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones, Gwobr Branford Boase a Gwobr Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantus am nofel ramantus gyntaf 2020.

12:45yp-1:30yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 12+
Ymunwch â ni am sesiwn greadigol hamddenol a hwyl! Byddwn yn ystyried sut gallwch chi ddefnyddio eich bywyd eich hun, yn ogystal â'ch dychymyg, i adrodd straeon unigryw a phwerus.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
2yp-2:45yp | 'Arwana Swtan a’r Sgodyn Od' gydag Angie Roberts | (Ystod Oedran: 12+ Cyfrwng Cymraeg)
Enillydd Gwobr Llenyddiaeth Plant Tir na n'Og 2025, ac yn sgriptiwr ar gyfer sawl raglen teledu i blant, gan gynnwys y gyfres a enillodd BAFTA Cymru 'Jini Mê' a'r rhaglen ffuglen wyddonol yr enwebwyd am BAFTA Prydeinig, 'Cabaret Quazar'.

2yp-2:45yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 12+
Dewch i gwrdd â’r cymeriadau, dysgwch am uwch-bwerau’r fôr-forwyn Swigi Dwgong, dyluniwch faner gyda’ch creadur môr ffantastig eich hun – a wedyn canu fel pysgod! ‘Rioed wedi canu fel’na? W! Morgi mawr, lle ‘dach chi ‘di bod?
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
3:00yp-3:45yp | 'Sgwennu am y pethau ‘da chi’n eu caru' gyda Manon Steffan Ros | (Ystod Oedran: 9-13 Cyfrwng Cymraeg)
Yn awdur, yn sgriptiwr ac yn golofnydd arobryn, mae Manon wedi cyhoeddi dros 40 o lyfrau. Enillodd ei nofel ddiweddar ar gyfer pobl ifanc, 'Llyfr Glas Nebo' / 'The Blue Book of Nebo', Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, ac mae wedi'i chyfieithu i 15 iaith.

3:15yp-4yp - Ystafell y Môr
Ystod Oedran: 9-13
Manon Steffan Ros yn trafod creu straeon o’r pethau ‘da chi’n caru- gan gynnwys pêl droed, ffantasi, neu unrhyw beth arall yn y byd!’
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg