Ein harbenigedd mewn Ynni a'r Amgylchedd
Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio modelu cyfrifiadol newydd, y cyfleusterau arbrofol diweddaraf ac offer maes i ymchwilio i brosesau arfordirol, hydrometeoroleg, deinameg afonydd, llifogydd, a rhyngweithiadau amgylcheddol systemau ynni morol, gan gwmpasu ymchwil sylfaenol a chymhwysol.
Ein Harbenigedd Peirianneg Gyfrifiadurol
Mae ein hymchwilwyr yn datblygu dulliau cyfrifiadol blaengar i efelychu amrywiaeth o ffenomenau ffisegol, gan gynnwys hylifau, solidau, symudiad tonnau a phroblemau aml-ffiseg. Mae'r ymchwil yn ymwneud â datblygiadau sylfaenol mewn dulliau rhifiadol, cynhyrchu rhwyllau, modelau wedi’u symleiddio (‘reduced order models’) a dysgu peirianyddol yn ogystal â'u defnydd wrth ddelio â phroblemau diwydiannol.
Ein Harbenigedd mewn Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig
Mae ein hymchwilwyr yn datblygu strategaethau cyfrifiadol arloesol i efelychu ystod eang o broblemau ffisegol a chymwysiadau peirianneg sy'n cynnwys yn fras meysydd solidau, strwythurau a systemau cypledig. Mae'r prif bynciau yn cynnwys mecaneg solidau cyfrifiadol, modelu deunyddiau, mecaneg torri, cyswllt ffrithiannol, cyfryngau gronynnog, geomecaneg a rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif.
Ein Harbenigedd mewn Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy
Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau labordy a'n harbenigedd traws-ddisgyblaethol sylweddol i weithio mewn partneriaeth â diwydiant er mwyn ymchwilio i ystod amrywiol o ddeunyddiau adeiladu newydd a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau carbon-isel a chynaliadwy.
Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Drafnidiaeth
Mae isadeileddau trafnidiaeth yn cynnig sylfeini hanfodol i'n cymdeithas. Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio technolegau arloesol i ddatblygu peirianneg drafnidiaeth wydn a chlyfar i fynd i'r afael â'r problemau sylweddol mae'r argyfwng hinsawdd yn eu hachosi. Mae'r ymagweddau hyn yn cynnwys synhwyrydd clyfar sy’n pweru ei hun, rhwydwaith synhwyro diwifr ar gyfer monitro trafnidiaeth, dysgu peirianyddol ar sail ffiseg, a chywain ynni o isadeileddau trafnidiaeth
Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas
Gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau amlddisgyblaethol gyda busnesau, awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau cymunedol a grwpiau eraill, ein nod yw darparu mewnwelediad ac arbenigedd ar sail peirianneg sifil i gynorthwyo prosiectau sydd o bwys i gymdeithas.