Trosolwg
Ymchwil sy’n archwilio natur, rôl ac effaith cynulliadau cymdeithasol ar sail diwylliannol yn Kuwait ar weithgarwch entrepreneuraidd.
Mae arferion cymdeithasu a rhwydweithio yn Kuwait, a adwaenir fel diwaniyas, yn gynulliadau cymdeithasol mewn mannau penodedig lle mae pobl yn ymgynnull yn rheolaidd i drafod, ymhlith eraill, materion gwleidyddol, busnes a hanesyddol neu faterion bywyd bob dydd.
Mae diwaniyas yn gweithredu fel gyrwyr cyfalaf cymdeithasol, diwylliannol a symbolaidd. Mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar feddylfryd entrepreneuraidd ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o weithgareddau entrepreneuraidd yn arwain at gyfalaf economaidd.
Tynnir sylw at bwysigrwydd y seilwaith cymdeithasol hwn fel cyfrwng i yrru gweithgarwch entrepreneuraidd.