Alex a'r myfyrwyr sy'n gwneud gwaith maes
Llun o Alex gyda'i lyfrau yn y cefndir

Dr Alexander Langlands

Athro Cyswllt
History
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwyf yn archeolegydd, yn hanesydd ac yn arbenigwr treftadaeth ac mae gennyf gefndir cadarn mewn ymgysylltu â’r cyhoedd a hanes rhagorol o weithgareddau ymchwil sy'n ymwneud â'r cyhoedd. Mae gennyf fwy na phymtheng mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau cyhoeddus a masnachol yn ogystal â gyrfa ddarlledu gryf yn y cyfryngau, gan gyflwyno rhaglenni ffeithiol oriau brig arobryn rhwng 2003 a 2020.

Mae fy ymchwil a ariennir gan AHRC yn canolbwyntio ar sut gall trawsnewid gwasanaethau treftadaeth a'r amgylchedd hanesyddol gyfoethogi buddion i'r cyhoedd. Rwyf wedi ymgymryd ag ailwerthusiad archeolegol a hanesyddol hirdymor, a ariannwyd gan Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, o Old Sarum, sef un o'r henebion mwyaf a mwyaf arwyddocaol yng ngofal English Heritage yn ne Lloegr.

Mae fy ymchwil a ariannwyd gan UKRI wedi archwilio rôl cymunedau wrth greu hunaniaeth lle drwy weithgareddau treftadaeth. Cefnogwyd y gwaith hwn gan brosiectau olynol a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rwyf wedi'u rheoli a'u rheoli ar y cyd, ynghyd â phrosiectau eraill a gyflawnwyd drwy gyllid gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru a  Dylunio’r Trawsnewidiad Gwyrdd AHRC. 

Rwy’n gyd-awdur Victorian Farm, ac mae fy llyfr Cræft, a gyhoeddwyd gan Faber & Faber, wedi ennill statws Sunday Times Bestseller ac wedi cael ei glodfori gan feirniaid ar ddwy ochr yr Iwerydd. 

Ar hyn o bryd rwyf yn gyd-gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Treftadaeth a Gwerth Cyhoeddus
  • Gwasanaethau'r Amgylchedd Hanesyddol
  • Archaeoleg Ganoloesol
  • Archaeoleg a hanes tirweddau
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Y cyfryngau darlledu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
Alex Langlands gyda Bill a Hillary Clinton yn archwilio'r dirwedd ganoloesol

Mae gennyf lu o brofiad arloesol ym myd diwydiant, meddwl yn feirniadol a datblygu sgiliau arloesol ac rwyf yn rhoi’r rhain ar waith yn fy ngwaith addysgu. Rwyf  hefyd wrth fy modd yn defnyddio dulliau amgen a chysylltiedig o addysgu, gan briodoli gweithgareddau dysgu i sefyllfaoedd yn y byd go iawn a heriau byd-eang a lleol.

Mae fy addysgu blwyddyn gyntaf yn archwilio safleoedd treftadaeth aml-gyfnod ar draws De Cymru. Safbwyntiau beirniadol o sut mae treftadaeth yn cael ei chyflwyno a'i thrafod ynghyd â'r technegau ymchwil hanfodol sydd eu hangen i wella ein dealltwriaeth o'r gorffennol hanesyddol.

Yn yr ail flwyddyn, rwy'n addysgu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol ac yn annog myfyrwyr i ymgysylltu ag ystod amrywiol o ddeunyddiau a thystiolaeth ffynhonnell. Mae archaeoleg yn elfen gref ac rydym yn defnyddio hyn, yn ogystal â deunydd ffynhonnell hanesyddol, llên gwerin, enwau lleoedd a thopograffeg i archwilio amrywiaeth o themâu. Mae'r rhain yn cynnwys caethwasiaeth, effeithiau ehangu 'Llychlynwyr', grym sacral a dynastig menywod, cynnydd teyrnasoedd, trefolaeth a llywodraethu canoloesol cynnar.

 

Ymchwil Prif Wobrau