Trosolwg
Rwy’n Athro Cyswllt Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, ac rwyf wedi bod yn addysgu Addysg Uwch ers 1995. Rwy’n addysgu modiwlau iaith a diwylliant Ffrangeg i fyfyrwyr israddedig a Chyfieithu Ffrangeg-Saesneg Uwch ar ein rhaglenni MA: Cyfieithu Proffesiynol a Chyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Rwy’n pwyso ar fy arbenigeddau ymchwil mewn llenyddiaeth a diwylliant canoloesol wrth addysgu a goruchwylio traethodau hir ar y cwrs MA Astudiaethau Canoloesol. Rwy’n croesawu cynigion ymchwil ôl-raddedig ar lenyddiaeth ganoloesol, ac ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio prosiectau ymchwil ar Parzival a rhamant Saesneg Canol.
Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y dyniaethau meddygol ac rwyf wedi gwneud gwaith ymchwil ar Rabelais a Marie de France mewn cysylltiad â’r maes hwn. Yn ogystal, rwyf wedi cyhoeddi ar hiwmor mewn llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar ac ar gynrychiolaethau llenyddol o hanes mewn rhamant canoloesol.
Rwy’n Uwch Gymrawd yr AAU ac mae gen i gymhwyster CELTA. Rwyf wedi ymrwymo i arloesi addysgeg mewn addysgu iaith ac Astudiaethau Canoloesol.