Trosolwg
Mae Annie Tubadji yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg. Mae hi'n economegydd diwylliannol sy'n addysgu economeg a dulliau ymchwil. Mae Annie hefyd wedi gweithio yn: Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, y DU; Prifysgol Bologna, yr Eidal; Prifysgol yr Aes, Gwlad Groeg; Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth (IAB), yr Almaen; yn ogystal â UNDP, UNICEF a'r Asiantaeth Wladol ar gyfer Dadansoddi a Chynllunio, y Weinyddiaeth Gyllid, Bwlgaria (fel rhan o Dîm Strategol yr UE-NSRF, 2007). Mae hi'n ddeiliad Ysgoloriaeth Shakle yn St. Edmunds, Prifysgol Caergrawnt, y DU ar gyfer 2015-2016. Cyflawnodd Annie ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Regensburg, yr Almaen yn 2011. Prif feysydd arbenigedd Annie yw Economeg Ddiwylliannol Newydd (NCE) ac Economeg Ranbarthol. Mae hi'n canolbwyntio ar y gogwydd diwylliannol mewn dewis economaidd fel swyddogaeth y rhyngweithio rhwng y lefelau micro a macro. Mae Annie yn ymchwilydd gweithgar, yn cyhoeddi ei gwaith ymchwil ac yn ei gyflwyno mewn lleoliadau cyhoeddi academaidd adnabyddus ac mewn digwyddiadau academaidd rhyngwladol a rhai sy’n ymwneud â llunio polisi.
Annie oedd Arweinydd y Clwstwr ar gyfer Microeconomeg yng Nghanolfan Economeg a Chyllid Bryste (BCEF) ac yn drefnydd Cyfres Seminarau Ymchwil Economaidd BCEF. Ar hyn o bryd mae hi'n cyd-drefnu gyda Dr. Dilshad Jahan Gyfres Seminarau Adran Economeg Prifysgol Abertawe.