Trosolwg
Mae Dr Anna Rawlings yn Wyddonydd Data ac yn Rheolwr Cymorth i Ddefnyddwyr ym Manc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Cwblhaodd ei PhD mewn Microbioleg Foleciwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2019.
Mae Anna wedi gweithio i Fanc Data SAIL ers dechrau 2020, ac mae hi'n rheoli portffolio eang o brosiectau cysylltu a dadansoddi data i dimau ymchwil amlddisgyblaethol, gyda phwyslais ar ganlyniadau cymdeithasol ac addysgol i blant. Mae Anna hefyd yn gweithio gyda chleientiaid ymchwil i ddatblygu eu cysylltedd data a’u sgiliau SQL.
Diddordebau ymchwil personol Anna yw defnyddio data gweinyddol i wella bywydau oedolion a phlant awtistig.