Trosolwg
Mae Alessandro Graciotti'n Ddarlithydd Marchnata ar y Llwybr Ymchwil. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu'n gweithio fel Ail Ddarllenydd yn y Brifysgol Americanaidd yn Rhufain, yr Eidal, ar gyfer yr MA mewn Astudiaethau Bwyd: Polisïau ar gyfer Cynhyrchu a Defnyddio Cynaliadwy, ac fel Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Rheoli Lleoedd (IPM) yn yr Adran Marchnata, Busnes Rhyngwladol a Thwristiaeth yn Ysgol Fusnes Prifysgol Metropolitan Manceinion, y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n canolbwyntio ar ddylanwadu ar lunio polisïau adfywio lleoedd a chefnogi gwaith i ddatblygu a gwerthuso cynnyrch a gwasanaethau a gyflwynir gan Dasglu'r Strydoedd Mawr ar draws mwy na 150 o ddinasoedd a threfi bach yn Lloegr.
Mae gan Alessandro PhD mewn Ymchwil Gymhwysol mewn Marchnata ac Ymddygiad Defnyddwyr o'r rhaglen ddoethurol mewn Astudiaethau Byd-eang: Cyfiawnder, Hawliau a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Macerata, yr Eidal. Mae ei ymchwil yn archwilio creu lleoedd fel math perthynol a di-anthroposentrig o ddefnydd moesegol. Ei nod yw ystyried problemau sy'n gysylltiedig â'r diwylliant defnyddwyr yng nghyd-destun heriau amgylcheddol-gymdeithasol a busnesau sy'n seiliedig ar leoedd ac ymagweddau sefydliadol, gan ddatblygu damcaniaeth ôl-strwythurol a dulliau ymchwil defnyddwyr anghynrychioliadol, pontydd marchnata, daearyddiaeth ddynol ac athroniaeth.
Mae Alessandro'n angerddol am ymgysylltu â myfyrwyr a chydweithredu â sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sy'n gweithredu mewn systemau bwyd amgen a datblygu trefol/gwledig. Mae hefyd yn awyddus i gysylltu â gweithredwyr bwyd a grwpiau cymunedol sy'n ceisio gwella ein perthynas â’r amgylchedd a chymdeithas.