Trosolwg
Mae gan Alison dros 10 mlynedd o brofiad o fodelu prosesau amlffiseg gydag arbenigedd penodol mewn prosesau modelu sy'n cynnwys llifoedd cymhleth. Mae wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau wedi’u harwain gan ddiwydiant ym meysydd tyrbinau gwynt, prosesu metel, gweithgynhyrchu cydrannau electroneg a datblygu systemau awyru.
Fel aelod o'r Grŵp Ymchwil Ynni Morol, mae Alison wrthi'n datblygu modelau cyfrifiannol i asesu perfformiad dyfeisiau ynni morol a'u hymwneud â'r amgylchedd. Mae wedi gweithio gyda nifer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru hefyd i asesu dichonoldeb eu dyfeisiau a'u syniadau ar gyfer ynni adnewyddadwy morol.