Trosolwg
Mae Dr Cinzia Gianetti yn Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Fecanyddol. Mae ymchwil Cinzia wedi'i llywio gan frwdfrydedd dros ddatblygu technolegau a dulliau arloesol a all greu effaith drawsnewidiol ar ein bywydau, y gymdeithas a'r economi. Mae hi wedi bod yn aelod gweithgar o'r gymuned ymchwil Gweithgynhyrchu Digidol ac yn eiriolydd ers 2010, pan symudodd o fyd diwydiant i'r byd academaidd.
Cenhadaeth Cinzia yw cefnogi twf sector gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig drwy ddatblygu systemau cynhyrchu annibynnol, cydweithredol a deallus drwy ddefnyddio technolegau digidol uwch sy'n ddwys o ran gwybodaeth. Mae Cinzia wedi derbyn Cymrodoriaeth Gweithgynhyrchu Digidol yr EPSRC UKRI (EP/S001387/1 2018-2021) ac mae hi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil 'Materials Made Smarter' (EP/V061798/1), lle mae hi'n arwain mentrau digitaleiddio, gan arloesi gwaith datblygu ac integreiddio deallusrwydd artiffisial mewn diwydiannau gweithgynhyrchu. Mae Cinzia yn gyd-Ymchwilydd ac yn aelod o'r tîm arweinyddiaeth amlddisgyblaethol yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC mewn "Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Data a Systemau wedi'u llywio gan Ddeallusrwydd", sy'n hyfforddi ac yn meithrin arweinwyr y dyfodol mewn arloesiadau wedi'u llywio gan ddata.
Mae gan Cinzia brofiad helaeth o gyflawni arloesi ac effaith drwy brosiectau ymchwil a datblygu diwydiannol cymhwysol, profiad a enillwyd o fyd diwydiant a'r byd academaidd. Bu ganddi swyddi mewn rolau peiriannu uwch i gwmnïau byd-eang (Siemens/Motorola/NextGen) ac mae ganddi hanes llwyddiannus wrth gyflawni prosiectau Innovate UK.