Yr Athro Cameron Pleydell-Pearce

Athro
Materials Science and Engineering
Swyddfa Academaidd - A217
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Cadeirydd TATA Steel
Cyfarwyddwr Hyb SUSTAIN Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)
Cyd-Gyfarwyddwr Cyfleuster Uwchddelweddu Deunyddiau (AIM)

Ar hyn o bryd, Athro a noddir gan TATA Steel ydw i. Cyn hynny bûm yn gweithio fel swyddog ymchwil ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Technoleg Deunyddiau Prifysgol Rolls-Royce gan arbenigo ym maes cymeriadu deunyddiau a meteleg fecanyddol. Mae gennyf hanes hir o greu rhyngwynebau â byd diwydiant gan feddu ar gryn brofiad o reoli cydweithrediadau a pherthnasoedd ymchwil rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd.

Dirprwy Gyfarwyddwr Hyb SUSTAIN Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol ydw i. Ariennir y Ganolfan gan yr EPSRC a’i hamcan yw cyflawni gwyddoniaeth arloesol a’r ymchwil sydd ei hangen ym maes peirianneg i greu cadwyni cyflenwi ar gyfer dur y DU sy’n niwtral o ran carbon ac yn effeithlon eu hadnoddau. Sefydlais y cyfleuster Uwchddelweddu Deunyddiau a chwaraeais rôl arweiniol wrth sefydlu’r Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe y mae TATA Steel eisoes wedi ymrwymo 30 o ymchwilwyr diwydiannol a £9m o gyfarpar ymchwil iddo.

Mae fy ymchwil gyfredol yn rhychwantu ystod eang o bynciau sy’n cefnogi’r gwaith o arloesi yn y diwydiant dur gan gynnwys datblygu cynnyrch, arloesi o ran prosesau ac optimeiddio dulliau gwneud dur a meteleg echdynnol. Mae hyn yn cynnwys optimeiddio prosesu deunyddiau crai sy’n fferrus, cymeriadu deunyddiau gwrthsafol a datblygu aloion cyflym.

Meysydd Arbenigedd

  • Meteleg Prosesau Fferrus
  • Prosesu Deunyddiau Crai
  • Cymeriadu Deunyddiau
  • Meteleg Fecanyddol
  • Deunyddiau Gwrthsafol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar hyn o bryd rwy’n cyflawni cyrsiau mewn thermodynameg datrysiadau ar gyfer systemau metelig, meteleg fecanyddol a chydberthyniadau codi. Cyn hynny, datblygais a chyflawnais gwrs ar fathau o ddur trydanol gyda’r Athro Cyswllt Soran Birosca mewn partneriaeth â byd diwydiant.

EGSM00 Integredd Strwythurol Metelau Awyrofod
Amcan y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth fanwl o fecanwaith methiant a all ddigwydd mewn gwasanaeth yn achos metelau awyrofod, sut y gellir eu rhagweld drwy fodelu hyd oes, sut y gellir eu monitro a sut y gellir eu hatal yn sgîl newidiadau yn strwythur a phrosesau deunyddiau. Mae’r modiwl yn cynnwys ystod eang o gynnwys fel mecanweithiau anffurfio sylfaenol ar y raddfa atomig a dylunio a chynnal a chadw strwythurau peirianneg mawr.

Ymchwil Prif Wobrau