Trosolwg
Mae Debbie Dalling yn diwtor ar y rhaglen BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Mae Debbie wedi gweithio yn y byd Addysg fel athrawes ysgol gynradd am 27 o flynyddoedd, lle bu'n addysgu ar draws ystod o grwpiau oedran. Mae wedi cymryd nifer o rolau mewn ysgolion cynradd gan gynnwys Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Arweinydd y Blynyddoedd Cynnar, Arweinydd Cynnydd Cam 2, Arweinydd Mathemateg a Rhifedd ac uwch-fentor myfyrwyr. Mae ganddi ddiddordeb ac arbenigedd penodol mewn cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.