Professor Dan Eastwood

Yr Athro Dan Eastwood

Athro
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513003

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 102
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gennyf ddiddordeb mewn deall y ffordd y mae ffyngau uwch yn tyfu, yn manteisio ar adnoddau yn eu hamgylchedd ac yn gwneud madarch. Rwy’n defnyddio adnoddau moleciwlaidd yn bennaf (genomeg, trawsgrifomeg, proteomeg) yn fy ngwaith ymchwil wedi’u cyfuno â dadansoddiadau microbiolegol a biocemegol traddodiadol.

Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o raglenni ymchwil genomau ar ffyngau saprotroffig pydredd coed gan gydweithio’n agos â’r Joint Genome Institute, Walnut Creek, California, ac wedi arwain y prosiect dilyniannodi ffyngau pydredd sych (Serpula lacrymans). Mae’r prif ganfyddiadau wedi canolbwyntio ar esblygiad mecanweithiau pydredd coed, yn benodol esblygiad cydgyfeiriol y modd pydredd brown.

Mae fy ngwaith ymchwil presennol yn defnyddio saprotroffau wedi’u dilyniannodi gyda genomau i astudio’r rhyngweithio rhwng ffyngau sy’n cystadlu â’i gilydd wrth i goed bydru, gan ystyried y dilyniant o ddadelfenyddion sylfaenol i ddadelfenyddion trydyddol a’r ffordd y gall newid amgylcheddol effeithio ar y prosesau hyn.

Rydw i wedi gweithio’n helaeth gyda’r madarch botwm sydd wedi’u meithrin, Agaricus bisporus, gan ymchwilio i ddatblygiad madarch mewn ymateb i ysgogiadau amgylcheddol, rheoleiddio ansawdd ar ôl y cynhaeaf, datblygiad blas a rheoli clefyd feirws X mewn madarch. Euthum ati i adeiladu ar yr arbenigedd hwn er mwyn asesu potensial ffyngau pydredd coed mewn model newydd o bioburfa mewnbwn isel i greu cynhyrchion cemegol gwerth uchel dadelfennu ligninau.

Rwy’n goruchwylio myfyrwyr ymchwil hefyd sy’n ymchwilio i reolaeth planhigion ymledol, yn enwedig planhigyn clymog Japan, a’r rhyngweithio rhwng rhywogaethau tegeirian prin sy’n byw mewn twyni tywod a micro-organebau rhisosffer. Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe, rydw i wedi mwynhau cydweithio â chydweithwyr ar brosiectau amrywiol o fecanweithiau lladd ffyngau entomopathogenig, trawsgrifomeg pysgod a chlefydau cramenogion.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioleg Ffyngau
  • Genomeg
  • Bioleg Foleciwlaidd
  • Trawsgrifomeg
  • Agaricus bisporus
  • Serpula lacrymans
  • Dadelfeniad coed
  • Biodanwyddau a bioburfeydd