Trosolwg
Mae'r dramodydd D.J.Britton yn Bennaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac yn Athro Dramäwriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Symudodd i Gymru o Awstralia, lle enillodd ei ddramâu llwyfan wobrau o fri gan gynnwys Plainsong (Cynhyrchiad y Flwyddyn Equity) a Cargo (Gwobr Aur Swan). Cafodd ei waith theatr diweddaraf Kamil and Francis (Theatr Richard Burton Caerdydd; 2019) ei ganmol gan Theatre Wales fel gwaith deinamig a chyfareddol. “Every truth runs parallel with the political ethnic and religious divisions that beset us today...(To) have served up these ’delights’ so deliciously tells us that there still may be some hope left."
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddrama pum pennod i'r BBC am y cyfansoddwr William Byrd, gyda David Suchet yn chwarae'r brif ran (i gael ei darlledu yng Ngwanwyn 2021).
Mae gwaith ysgrifennu D.J.Britton wedi cael ei ganmol yn eang. Cafodd ei fersiwn o Measure for Measure Shakespeare (Sherman Cymru) adolygiad pedair seren yn The Guardian ac mae gwaith llwyfan llwyddiannus arall diweddar yn cynnwys y ddrama ddwyieithog Windsongs of the Blessed Bay; The Wizard the Goat and the Man Who Won the War; Pembroke Arcadia; Old Peter’s Russian Tales, and Silverglass.