Dr Dmitri Finkelshtein

Dr Dmitri Finkelshtein

Athro Cyswllt
Mathematics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606291
325
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n Athro Cyswllt yn Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe.

Mae fy ymchwil yn ymwneud yn bennaf â'r pynciau dadansoddi, tebygolrwydd, ffiseg fathemategol, a hafaliadau differol rhannol (PDE) wedi'u hysbrydoli gan, a’u defnyddio yn, namcaniaeth systemau cymhleth.

Rwyf wedi ymdrin â dadansoddiad dimensiynol-anfeidraidd, cymhwyso dulliau dadansoddi ffwythiannol a damcaniaeth tebygolrwydd i ffiseg fathemategol, hapfesurau, dynameg stocastig, a bioleg fathemategol. Hefyd, rwy’n gweithio’n ddyfal ar astudio hafaliadau esblygiad nad ydynt yn lleol sy'n codi fel terfynau graddio ar gyfer dynameg stocastig y systemau cymhleth dan sylw.

Meysydd Arbenigedd

  • Systemau Cymhleth
  • Dadansoddiad Dimensiynol-Anfeidraidd
  • Prosesau Pwynt
  • Hafaliadau Esblygiad nad ydynt yn lleol
  • Ecoleg Poblogaeth
  • Calcwlws Wmbrol