Demi Pritchard

Dr Demi Pritchard

Swyddog Ymchwil
Biomedical Sciences

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Enillodd Demi radd BSc (Anrh.) mewn Bioleg o Brifysgol Caerdydd.  Cwblhaodd ei blwyddyn hyfforddiant proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o'i gradd israddedig. Aeth ymlaen i astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe dan oruchwyliaeth yr Athro Gareth Jenkins, a theitl ei thraethawd ymchwil oedd: ‘Developing an in vitro repeat-dose approach to detect non-genotoxic carcinogens (NGCs)’.

Wrth ysgrifennu ei thraethawd ymchwil, dechreuodd Demi weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y grŵp ymchwil bioleg fesiglau allgellog gyda Dr Jason Webber ac yna dechreuodd ail rôl yn y grŵp ymchwil.  Roedd y ddwy rôl yn canolbwyntio ar ganser y prostad a'i ganfod yn gynnar gan ddefnyddio fesiclau allgellog fel biofarcwyr yn y gwaed.

Meysydd Arbenigedd

  • Tocsicoleg enetig
  • Bioleg fesiglau allgellog
  • Canser y prostad
  • Datblygu biofarcwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Dural, E., Shah, U., Pritchard, D., Chapman, K., Doak, S. and Jenkins, G., 2020. The effect of chronic dosing and p53 status on the genotoxicity of pro-oxidant chemicals in vitroMutagenesis 35: 479-489.