Trosolwg
Yn ogystal â bod yn Athro Cysylltiol Dadansoddeg Fusnes (Ymchwil), Dr Denis Dennehy (PhD) yw Arweinydd Ymchwil yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar rôl gyfryngol systemau gwybodaeth a dadansoddeg, a'i goblygiadau i unigolion, timau, sefydliadau a chymdeithas. Mae'r ymchwil hon wedi cael ei chyhoeddi mewn cynadleddau systemau gwybodaeth o’r radd flaenaf (ICIS, ECIS) a chyfnodolion rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys Information & Management, Information Systems Frontiers, Journal of Business Research, Government Information Quarterly, International Journal of Production Research, International Journal of Operations & Production Management, European Journal of Operational Research, a chyhoeddiadau'r IEEE.
Ef yw prif olygydd ar y cyd Communications of the Association for Information Systems, ac uwch-olygydd Information Technology & People. Mae wedi cadeirio cynadleddau rhyngwladol (e.e. IEEE ISTAS23, MENACIS22, IFIP | I3E2021) ac wedi golygu rhifynnau arbennig sy'n ymwneud â'i faes, gan gynnwys Information Systems Frontiers, IT & People, Communications of the Association for Information Systems, International Journal of Information Management, ac International Journal of Production Economics.
Mae wedi gweithio ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar fyd diwydiant a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, MASI, Erasmus+, Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon, Irish Aid ac Enterprise Ireland.
Yn flaenorol, bu'n gweithio ym Mhrifysgol Galway fel ymchwilydd a ariennir yn Lero | Canolfan Ymchwil Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon ac fel cyfarwyddwr y rhaglen MSc (Dadansoddeg Fusnes) a dderbyniodd wobr gyntaf erioed y Deon am addysgu cynhwysol (gwobr tîm) yn 2019 ac a restrwyd ar frig safleoedd QS yn 2020 (Gwerth am Arian). Derbyniodd Denis wobr 'Arwr Addysgu' 2021,sef gwobr genedlaethol yn Iwerddon sy'n cydnabod enwebeion am fod yn athrawon sy'n arloesi neu'n ysbrydoli. Mae'n meddu ar ddiplomâu mewn ymarfer addysgu (Prifysgol Galway) ac arweiniad a chwnsela (Coleg Prifysgol Corc).
Mae'n uwch-gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) ac yn uwch-aelod o'r IEEE. Enillodd raddau (PhD, BComm, MSc) mewn systemau gwybodaeth yng Ngholeg Prifysgol Corc.